English icon English
METaL wefo fund pic-2

Cyllid yr UE yn rhoi hwb arall i weithgynhyrchu yng Nghymru

Another boost for Welsh manufacturing thanks to EU funds

Bydd £1.25m o gyllid yr Undeb Ewropeaidd (yr UE) a gyhoeddwyd heddiw (dydd Gwener 10 Ionawr) yn creu cyfleoedd hyfforddi sgiliau lefel uchel ar gyfer 400 yn rhagor o weithwyr diwydiant Cymreig yn y Dwyrain.

 Mae'r prosiect Addysg, Hyfforddiant a Dysgu am Ddeunyddiau a Gweithgynhyrchu (METaL), eisoes yn gweithredu yn y Gorllewin ac yn y Cymoedd. Mae Prifysgol Abertawe wedi gweithio gyda chyflogwyr, gan gynnwys TATA Steel, i ddatblygu cyrsiau wedi'u targedu sy'n cyflawni'r galw yn y diwydiant. Mae'r estyniad yn ariannu rhagor o hyfforddiant achrededig, seiliedig ar waith ym maes twf allweddol gweithgynhyrchu tan 2022.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, sy'n gyfrifol am gyllid yr UE yng Nghymru:

"Mae Cymru bob amser wedi chwarae rhan flaenllaw mewn diwydiannau trwm, peirianneg a gweithgynhyrchu. Mae cynhyrchiant yn y sector hwn yng Nghymru yn uwch na chyfartaledd y DU.

"Mae'r diwydiant gweithgynhyrchu yn symud yn gyflym i gyfeiriadau newydd. Mae'n hanfodol bod gan weithwyr yng Nghymru yr wybodaeth a’r sgiliau technegol lefel uchel diweddaraf i hysbysu ymchwil a datblygu cynnyrch sy'n gystadleuol yn y farchnad fyd eang. Mae'r cyllid estynedig yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw yn rhoi hwb i sgiliau'r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru, ac mae'n enghraifft wych o'r modd y mae cyllid yr UE yn helpu i hyrwyddo a chyfrannu at economi fodern, ddynamig a ffyniannus y gall pawb yng Nghymru fanteisio arni."

Bydd y Coleg Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe yn darparu cyfres o fodiwlau hyfforddi achrededig ar lefelau NQF 4-8 i 400 o bobl, mewn ystafell ddosbarth hyblyg, addas i gyflogwyr neu trwy ddulliau hyfforddiant ar-lein.

Agorodd y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch gwerth £20 miliwn, AMRC Cymru, ym Mrychdyn, Glannau Dyfrdwy ym mis Tachwedd 2019. Disgrifiodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates, y prosiect fel un "a fydd yn cymell arloesi a rhagoriaeth yn ogystal â chael effaith fawr ar ein rhagolwg economaidd."

Gan gyfeirio at y cyllid newydd hwn gan yr UE ar gyfer hyfforddiant sgiliau, dywedodd Mr Skates:

"Mae sicrhau bod gan bobl yng Nghymru'r sgiliau technegol lefel uchel yr ydym yn gwybod y byddwn eu hangen yn y dyfodol yn hanfodol i iechyd hirdymor ein heconomi a bydd hyn yn elfen allweddol o'n cynllun gweithgynhyrchu newydd.

"Rwy'n croesawu'r cyllid Ewropeaidd hwn a fydd yn ein helpu i adeiladu ar y rhagoriaeth diwydiannol ac academaidd presennol yng Nghymru a chreu'r math o weithlu medrus yr ydym ei angen i sicrhau bod Cymru yn lleoliad o'r radd flaenaf ar gyfer technolegau newydd."

Dywedodd Dr Khalil Khan, Rheolwr Prosiect METaL, Prifysgol Abertawe:

“Rydym eisoes yn gwneud defnydd da o’r cyllid hwn gan yr UE, ac mae wedi galluogi Prosiect METaL i rannu ei arbenigedd, gwybodaeth a phrofiad i gefnogi busnesau Cymreig yn y Dwyrain.

“Mae’r cyllid yn ategu buddsoddiad ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi diwydiant yng Nghymru.

“Rydym yn credu mai mantais y buddsoddiad hwn yw’r hwb y mae’n ei roi i sgiliau, gan sicrhau bod gan weithlu Cymru yr wybodaeth dechnegol gywir i alluogi busnesau Cymru i gystadlu yn y farchnad fyd-eang.”

Ers 2007, mae prosiectau a ariennir gan yr UE yng Nghymru wedi creu 49,000 o swyddi a 13,400 o fusnesau newydd, gan gynorthwyo 27,000 o fusnesau a helpu 90,000 o bobl i gael gwaith.