Lefel rhybudd COVID-19: diweddariad gan Brif Swyddogion Meddygol y DU
COVID-19 alert level: update from the UK Chief Medical Officers
“Yn dilyn cyngor gan y Gyd-ganolfan Bioddiogelwch ac yng ngoleuni’r data diweddaraf, mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU a Chyfarwyddwr Meddygol Cenedlaethol NHS England yn cytuno y dylai lefel rhybudd y DU yn awr symud o lefel 5 i lefel 4 yn y pedair gwlad.
“Mae’r gwasanaethau iechyd ar draws y pedair gwlad yn dal i fod o dan bwysau aruthrol gyda llawer iawn o gleifion yn yr ysbyty. Fodd bynnag, diolch i ymdrechion y cyhoedd, rydyn ni’n awr yn gweld gostyngiad parhaus yn y niferoedd, ac mae’r bygythiad y gallai’r GIG a gwasanaethau iechyd eraill gael eu gorlwytho ymhen 21 o ddiwrnodau wedi lleihau.
“Ond rhaid inni beidio â thwyllo ein hunain – mae cyfraddau trosglwyddiadau, lefel y pwysau ar ysbytai a nifer y marwolaethau yn dal i fod yn uchel iawn. Ymhen amser, bydd y brechlynnau yn cael effaith wirioneddol ac rydyn ni’n annog pawb i gael eu brechu pan fyddan nhw’n cael y cynnig. Am y tro, fodd bynnag, mae’n hynod bwysig ein bod ni i gyd – p’un a ydyn ni wedi cael ein brechu ai peidio – yn parhau i fod yn wyliadwrus a’n bod ni’n dilyn y canllawiau o hyd.
“Rydyn ni’n gwybod bod y sefyllfa wedi bod yn anodd iawn a’i bod yn parhau felly i weithwyr gofal iechyd. Rydyn ni am ddiolch iddyn nhw am eu hymdrechion, sgil a’u proffesiynoldeb aruthrol gydol y pandemig.”
Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru
Yr Athro Chris Whitty, Prif Swyddog Meddygol Lloegr
Dr Michael McBride, Prif Swyddog Meddygol Gogledd Iwerddon
Dr Gregor Smith, Prif Swyddog Meddygol Yr Alban
Yr Athro Stephen Powis, Cyfarwyddwr Meddygol Cenedlaethol NHS England