Lansio cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc ar ddiwrnod o weithredu
Young carers’ ID card launched on day of action
Mae cardiau adnabod i ofalwyr ifanc i’w gwneud yn haws iddynt ddangos bod ganddynt rôl ofalu yn cael eu lansio mewn 11 ardal awdurdod lleol heddiw [dydd Mawrth 16 Mawrth], sef Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc.
Bydd y cerdyn arddangos yn rhoi ffordd gyflym i ofalwyr ifanc roi gwybod i athrawon, fferyllwyr a meddygon teulu, staff archfarchnadoedd, a gwasanaethau cymunedol megis canolfannau hamdden a thrafnidiaeth leol, eu bod yn gofalu am rywun.
Bydd hefyd o gymorth iddynt fanteisio ar eu hawliau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gan gynnwys eu hawl i gael asesiad o anghenion gofalwyr.
Yn ogystal â cherdyn, mae dulliau adnabod eraill yn cael eu profi, er enghraifft, ap ym Môn a Gwynedd, neu strapen arddwrn. Gyda chymorth gofalwyr ifanc, mae logo cenedlaethol hefyd wedi’i greu.
Fel rhan o’r gweithgarwch yn y Gogledd, mae gofalwyr ifanc lleol wedi helpu i ddylunio’r cerdyn adnabod, gan gynnwys Joshua Hughes, 15, o Fae Colwyn. Dywedodd ef:
“Dw i’n helpu i ofalu am fy mrawd. Dw i wedi mwynhau bod yn rhan o’r grŵp wnaeth ddylunio’r cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc.”
Mae Hannah Mushrow, 11, o Sir y Fflint, yn gofalu am ei brawd hŷn. Dywedodd hi:
“Dw i’n helpu i ofalu am fy mrawd, sy’n 17 mlwydd oed. Mae ganddo Syndrom Smith-Magenis. Er ei fod o’n 17, mae o fel rhywun 3 oed yn llawer o’r pethau mae o’n wneud, ond mae o’n edrych yn 17. Dw i’n ei alw’n fy mrawd bach, mawr.”
Ym mis Tachwedd, Ceredigion oedd yr awdurdod lleol cyntaf i lansio cerdyn o dan brosiect cerdyn adnabod cenedlaethol Llywodraeth Cymru. Gwnaeth awdurdod lleol a gwasanaeth gofalwyr ifanc Torfaen lansio eu cerdyn ddoe [dydd Llun 15 Mawrth].
Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £150,000 o gyllid i awdurdodau lleol ar gyfer 2021-2022 i roi cymorth pellach i’r gwaith o gyflwyno’r cynllun cerdyn adnabod cenedlaethol. Y nod yw sicrhau bod gan bob ardal awdurdod lleol yng Nghymru gynllun ar waith erbyn 2022.
Mae £36,000 wedi’i ddyfarnu i Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i greu adnoddau gwybodaeth a darparu hyfforddiant i weithwyr iechyd ac addysg proffesiynol i’w helpu i ddeall yn well y materion sy’n effeithio ar ofalwyr ifanc.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan:
“Yn rhy aml mae gallu gofalwr ifanc i gyflawni a datblygu yn ei astudiaethau, neu i feddu ar fywyd ochr yn ochr â gofalu, yn cael ei lesteirio gan nad yw ysgolion, gweithwyr iechyd proffesiynol neu eraill yn gwybod pwy sy’n ofalwr ifanc, beth yw gofalwr ifanc na sut i’w helpu. Rwy’n awyddus i ofalwyr ifanc allu dangos i eraill yn gyflym ac yn hawdd eu bod yn ofalwyr, fel y byddant yn cael y cymorth cywir sydd ei angen arnynt.
“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un arbennig o anodd, ond mae hi mor bwysig cydnabod nad yw bod yn ofalwr ifanc yn beth negyddol – drwy ei rôl, gall person ifanc ennill ystod eang o sgiliau bywyd; o’r cadernid y bydd yn ei feithrin yn wyneb pwysau bob dydd, i sgiliau rheoli amser a’r gallu i ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf.
“Heddiw, ar Ddiwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc, hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle i ddiolch i’n holl ofalwyr ifanc, boed yn blant neu’n oedolion ifanc, sy’n cefnogi aelodau o’u teulu, eu ffrindiau a’u cymdogion, yn y cyfnod eithriadol o heriol hwn. Diolch o galon ichi am eich cyfraniad enfawr.”
Mae’r Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc eleni yn canolbwyntio ar y thema ‘diogelu dyfodol gofalwyr ifanc’ ac yn y Gogledd, mae Clwb Pêl-droed Wrecsam yn noddi’r diwrnod a’r lansio ar y cyd ar gyfer chwe awdurdod lleol. Dywedodd Swyddog Cyswllt Anabledd Clwb Pêl-droed Wrecsam, Kerry Evans:
“Yma yng Nghlwb Pêl-droed Wrecsam, rydym yn falch iawn o ddathlu Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2021 a thynnu sylw ato ar ddiwrnod ein gêm heddiw.
“Mae ein clwb yn benderfynol iawn o godi ymwybyddiaeth o waith rhagorol gofalwyr ifanc yn ein cymuned leol. Mae’r bobl ifanc hyn yn arwyr, a gorau po fwyaf o ymwybyddiaeth a godir amdanynt.”