Cymeradwyo pont newydd dros yr Afon Dyfi
Go-Ahead for new Dyfi Bridge
Mae Gweinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Ken Skates, wedi cymeradwyo’r cynlluniau ar gyfer adeiladu pont newydd dros yr Afon Dyfi, ar yr A487 i’r gogledd o Fachynlleth.
Bydd y cynllun gwerth £46 miliwn yn gwella diogelwch ar y ffordd, yn atgyfnerthu’r cysylltiadau rhwng cymunedau, yn creu cyfleoedd teithio llesol ac yn sicrhau rhagor o gydnerthedd rhag llifogydd – yn ogystal â gwella cysylltiadau trafnidiaeth a helpu i ddatblygu’r economi yn y rhan hon o Gymru ymhellach
Mae’r bont bresennol dros yr Afon Dyfi yn bont garreg gul a adeiladwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Nid yw’n hawdd gweld y traffig sy’n dod arni ac nid oes unrhyw lwybrau cerdded. Mae’r afon Dyfi yn wynebu Llifogydd yn rheolaidd, sy’n effeithio’n sylweddol ar gymunedau ar y naill ochr a’r llall o’r bont. Mae disgwyl i achosion o lifogydd ddigwydd yn fwy aml yn sgil y newid yn yr hinsawdd. Gall cau’r bont amharu ar allu’r gymuned i ddefnyddio gwasanaethau allweddol fel gofal Iechyd, addysg a thrafnidiaeth gyhoeddus ym Machynlleth a thu hwnt.
Bydd y datblygiad newydd yn cynnwys traphont ar draws y gorlifdir a phont afon ar draws yr Afon Dyfi a fydd tua 480m i fyny’r afon o’i chymharu â’r bont bresennol. Bydd y prosiect yn ategu gwaith Llywodraeth Cymru ar y Fargen Dwf ar gyfer Canolbarth Cymru sy’n cael ei datblygu ar hyn o bryd.
Bydd camau lliniaru traffig a gwell systemau draenio ar yr A493 i’r gogledd o’r bont er mwyn amddiffyn y bythynnod presennol a bydd bwnd yn cael ei adeiladu er mwyn amddiffyn Parc Eco Dyfi rhag llifogydd.
Bydd symud y traffig mwyaf o’r bont a adeiladwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a darparu llwybr cerdded a beicio yn gwella cyfleoedd teithio llesol, gan wneud tref Machynlleth a’r ardal o’i hamgylch yn fwy deniadol i dwristiaid.
Dywedodd Ken Skates:
“Mae’r A487 yn llwybr allweddol rhwng Gogledd a De Cymru, gan gysylltu Gwynedd, Powys, Ceredigion a Sir Benfro. Mae hefyd yn llwybr lleol pwysig sy’n sicrhau mynediad at amwynderau a gwasanaethau Machynlleth.
“Mae gwelliannau eisoes yn cael eu gwneud ymhellach i’r Gogledd drwy ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd ac mae’n gwbl glir fod angen cymryd camau er mwyn gwella’r rhan hon o’r A487. Bydd y gwaith yma’n sicrhau llwybr diogel a dibynadwy a fydd yn cysylltu’r cymunedau o amgylch Machynlleth, gan sicrhau gwell mynediad sy’n fwy dibynadwy i wasanaethau bws a thrên yn y dref.
“Mae’r llwybr newydd yn newyddion da i Ogledd a Chanolbarth Cymru a bydd yn sicrhau nifer o fanteision gan gynnwys gwell amddiffyniad rhag llifogydd. Gan fod y newid yn yr hinsawdd yn cynyddu perygl llifogydd mae’n bwysig ein bod yn amddiffyn cartrefi a busnesau a bydd y cynllun hwn yn sicr yn cyfrannu at hyn.
“Bydd y seilwaith hanfodol hwn hefyd yn ategu’r gwaith mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi’r Fargen Dwf ar gyfer Canolbarth Cymru wrth ddatblygu cyfleoedd economaidd newydd yn y rhan bwysig hon o Gymru.
“Mae twristiaeth yn bwysig i Ddyffryn Dyfi a bydd symud y traffig trwm o’r bont garreg restredig bresennol yn creu rhagor o gyfleoedd cerdded a beicio a fydd yn wych ar gyfer pobl leol a hefyd dwristiaid.”
Bydd cam nesaf y broses yn cynnwys gwaith dylunio manwl a rhagor o waith ymchwilio ar y safle. Gallai’r gwaith adeiladu ddechrau yn ystod Haf 2020, yn amodol ar y broses statudol, a gallai gael ei gwblhau erbyn Haf 2022.
Nodiadau i olygyddion
- Please find attached an artist's impression of the new bridge.
- The length of the scheme is approximately 1200m with approximately 725m on viaduct or bridge structures
- The cost of £46m takes into account the changes made during the scheme development and current inflation levels
- The project was part of a budget agreement between the Welsh Government and the Welsh Liberal Democrats in 2014.