English icon English
digidoldigital-2

Cymoedd Silicon Cymru: cyllid i gadw cenhedlaeth newydd o gwmnïau seiberddiogelwch yng Nghymru

Welsh Silicon Valleys: future funding will anchor a new generation of cyber security companies in Wales

Cyllid newydd i helpu i sicrhau bod Cymru’n gartref i arweinwyr technoleg y dyfodol.

Mae’r Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan, wedi cyhoeddi cymorth ariannol o £250,000 i helpu i greu'r genhedlaeth nesaf o gwmnïau technoleg yng Nghymru. Gwnaeth y cyhoeddiad yn ystod ei hymweliad chwe diwrnod â Gogledd America.

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo’r cymorth hwn fel arian cyfatebol ar gyfer busnesau seiber newydd sy’n cael eu creu gan y rhai sy’n graddio o hyb technoleg Alacrity Foundation yng Nghasnewydd. Nod y sefydliad yw meithrin arweinwyr newydd ym maes uwchdechnoleg drwy ei raglen sy’n rhoi’r cyfle i raddedigion gael hyfforddiant busnes ymarferol, dysgu sgiliau meddalwedd a chael eu mentora – fel rhan o gwrs 15 mis sy’n cael ei gyflwyno mewn dull ‘bootcamp’.

Bydd yr arian newydd yn helpu i sbarduno cwmnïau seiberddiogelwch newydd graddedigion Alacrity.

Daw’r arian newydd ar ôl i Lywodraeth Cymru ddarparu mwy na £3.7m ers 2011 i Alacrity, law yn llaw ag arian cyfatebol gan Wesley Clover a Sefydliad Waterloo, i greu busnesau newydd ym maes technoleg yng Nghymru.  Ac mae hyd at £5m o arian cyfatebol ychwanegol wedi’i neilltuo gan Lywodraeth Cymru er mwyn sbarduno’r cwmnïau newydd a’u helpu i dyfu a ffynnu yng Nghymru.

Cyhoeddodd y Gweinidog y cyllid newydd yn dilyn cyfarfod â’r Cymro Syr Terry Matthews sy’n ŵr busnes ym maes technoleg ac yn Gadeirydd Wesley Clover International, a'r Athro Simon Gibson, Cadeirydd Alacrity Foundation.

Wrth siarad yn ystod ei hymweliad, dywedodd y Gweinidog: "Mae'r arian hwn yn ymrwymiad pellach gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Cymru’n parhau'n gartref cryf i'n sector technoleg sy'n werth  £8.5bn – ac yn tyfu.

"Bydd gan y rhai sy'n graddio o'r rhaglen entrepreneuriaeth yr holl botensial a'r holl sgiliau sydd eu hangen i fod yn arweinwyr cwmnïau technoleg hynod lwyddiannus yng Nghymru.

"Rydyn ni, wrth gwrs, am weld y dalent honno'n cael ei meithrin a'i dysgu yng Nghymru, ac am weld eu sgiliau a'u dyfeisgarwch yn cael eu defnyddio er budd busnesau Cymru. 

"Dyna pam ein bod wedi gwneud y penderfyniad hwn – rydym am sicrhau bod cymorth ar gael i helpu graddedigion Alacrity i wneud eu marc yn y byd technoleg.

"Mae gennym sector technoleg a seiberddiogelwch hynod gryf yng Nghymru, ac mae cymorth rhaglenni fel Alacrity Foundation yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i gynnal a chefnogi cwmnïau sy'n gweithio ar flaen y gad ym maes technoleg."

DIWEDD