
Cymorth i ffermio sy'n ystyriol o natur ar draws tirweddau mwyaf gwerthfawr Cymru
Support for nature-friendly farming across Wales’ most treasured landscapes
Mae cynllun newydd arloesol yn darparu cymorth ymarferol a chyllid pwrpasol i ffermwyr sy'n gweithio mewn Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol (yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol gynt) yng Nghymru ar gyfer prosiectau sy'n cefnogi natur i adfer a ffynnu.
Bydd y cynllun Ffermio Bro: (Ffermio mewn Tirweddau Dynodedig) gwerth £1.8m yn annog arferion ffermio sy'n ystyriol o natur mewn cydweithrediad rhwng ffermwyr a chyrff lleol sy'n gyfrifol am ardaloedd sy'n cael eu cydnabod a'u diogelu yn swyddogol am eu rhinweddau naturiol, diwylliannol a golygfaol unigryw.
Fe'i lansiwyd yn ffurfiol yr wythnos hon gan y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Faterion Gwledig, Huw Irranca-Davies, yn ystod ymweliad â Fferm Meend Uchaf yn Nyffryn Gwy. Mae'r tenantiaid yno eisoes yn gweithio'n agos gyda sefydliadau cadwraeth a Thirwedd Cenedlaethol Dyffryn Gwy i reoli'r tir gymaint er lles bywyd gwyllt â da byw.
Wrth siarad yn ystod ei ymweliad, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog: "Mae ein Parciau Cenedlaethol a'n Tirweddau Cenedlaethol yn wirioneddol arbennig ac unigryw. Er bod gan gyrff y tirweddau gyfrifoldeb i ofalu am yr ardaloedd gwerthfawr hyn, ein ffermwyr sy'n byw ac yn gweithio ynddynt ac sy'n eu hadnabod orau.
"Gweithio mewn partneriaeth, felly, sydd wrth galon Ffermio Bro i gyflawni prosiectau mwy a gwell ar draws ein tirweddau, oherwydd mae angen dull Cymru gyfan i fynd i'r afael â'r argyfwng natur. Bydd y cynllun hwn yn cefnogi ffermwyr i weithio gyda'i gilydd, gan ganiatáu i natur ffynnu ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd cynaliadwy ar draws ein tirweddau gorau. Bydd Ffermio Bro hefyd yn helpu i lywio Haen Gydweithredol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy i helpu i dargedu cyllid cydweithredol yn y dyfodol.
Bydd Ffermio Bro yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddiogelu 30% o dir, dŵr croyw a moroedd er lles natur erbyn 2030 (30 erbyn 30) drwy gyllido ystod eang o brosiectau cydweithredol megis:
• Plannu coetir dwysedd isel fel Ffridd
• Mesurau i wella afonydd a gwlyptiroedd
• Ffensys a gweithgareddau i hwyluso pori a gwella glaswelltiroedd ar dir uchel
• Creu dolydd gwair
• Lleihau allyriadau carbon ar ffermydd
• Gwella a hyrwyddo llwybrau mynediad a llwybrau â chaniatâd
• Gwella mawndiroedd
• Diogelu nodweddion tirweddau traddodiadol fel gwrychoedd, waliau cerrig a llechi
Disgwylir i'r prosiectau cyntaf ddechrau yr haf hwn, gyda'r mwyafrif yn cael eu cyflawni rhwng Medi 2025 a Ionawr 2026. Yn ogystal â galluogi gweithgarwch ar ffermydd, bydd y cyllid hefyd yn cefnogi carfan o gynghorwyr Ffermio Bro, sydd wedi'u lleoli o fewn cyrff y Tirweddau. Bydd yr ymgynghorwyr hyn yn gweithio'n agos gyda ffermwyr, gan helpu i gyflawni prosiectau cydweithredol llwyddiannus a'u cyfeirio at gymorth arall sydd ar gael.
Ychwanegodd y Dirprwy Brif Weinidog: "Rydyn ni'n gwybod pa ymyriadau fydd o fudd i natur, ond mae lleoedd fel Parciau Cenedlaethol hefyd yn ymwneud â diwylliant, traddodiadau, ac yn darparu profiadau gwych i'r gymuned ehangach.
"Bydd trwsio waliau cerrig a ffensys llechi, gwella llwybrau i gerddwyr a defnyddwyr eraill, a helpu i warchod nodweddion hanesyddol ar ein ffermydd yn cael effaith fawr – gan ganiatáu i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd fanteisio i'r eithaf ar ddarganfod, mwynhau a deall ein tirweddau anhygoel."