Cymorth i gymunedau a sefydliadau wrth i Gymru geisio mynd i’r afael â’r argyfwng bioamrywiaeth
Support for communities and organisations as Wales looks to tackle biodiversity crisis
Wrth i arbenigwyr a’r rhai sy’n gweithredu ledled Cymru i adfer natur ymgynnull yng Nghynhadledd Partneriaethau Bioamrywiaeth Cymru, heddiw mae y cynllun newydd, Cynllun Meithrin Capasiti yr Adferiad Gwyrdd yn agor ar gyfer y sector amgylcheddol.
Cafodd y cynllun grant ei ddatblygu fel un o gyfres o ymatebion i waith y Tasglu Adferiad Gwyrdd o dan arweiniad Syr David Henshaw, fel cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru.
Bydd y cynllun yn helpu i feithrin twf y sefydliadau llai yn ogystal â grwpiau mwy sefydledig fel y gallant ehangu eu swyddogaethau wrth gyflymu yr adferiad gwyrdd yn eu hardaloedd lleol a thrwy arbenigedd benodol.
Mae cynyddu buddsoddiad wrth warchod ein treftadaeth naturiol yn hanfodol – ond mae yr un mor bwysig ein bod yn cefnogi twf y sector yng Nghymru, fel y gallwn fanteisio i’r eithaf ar effaith y buddsoddiad newydd a chefnogi sefydliadau i ysgogi rhwymedigaethau gan gyllidwyr eraill a gan ein cymunedau.
Caiff y cynllun newydd ei gyflawni mewn partneriaeth â Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a ddaw â chyfoeth o arbenigedd wrth gefnogi sefydliadau y sector gwirfoddol, i gynyddu eu cadernid, cryfhau eu heffaith a datblygu cynlluniau hirdymor uchelgeisiol.
Bydd y cynllun yn cynnig grantiau o rhwng £5,000 a £100,000. Mae ceisiadau ar agor heddiw (Tachwedd 23) gan gau ar Ionawr 10, 2021.
Eleni gwelwyd ymgyrch newydd gan Lywodraeth Cymru i adfer safleoedd a rhywogaethau sy’n cael eu gwarchod, ac i ymestyn cynefinoedd er lles natur a’n cymunedau.
Bu ymateb gwych gan y gymuned i’r alwad hon, ac mae ein cynllun creu capasiti wedi’i gynllunio fel y gallwn weld llawer mwy ohonynt yn y flwyddyn nesaf a thu hwnt.
Mae enghreifftaiu gwych ledled Cymru yn ein cynllun Natura 2000, ac mae dyfarniadau grant wedi’u cadarnhau ar ei gyfer yn ddiweddar - un o gyfres o fentrau newydd eleni yn canolbwyntio ar natur.
Mae’r rhain yn cynnwys:
Gogledd Cymru:
- Darparu cyllid cyfalaf i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i helpu i wella ac adfer safleoedd Natura 2000 ledled y parc.
- Gwarchod y fadfall ddŵr gribog yng Nghadwraeth Natur Globe Way ym Mwcle, Sir y Fflint, drwy gefnogi yr Ymddiriedolaeth Gwarchod Amffibiaid ac Ymlusgiaid i adfer pyllau dŵr a dolydd blodau gwyllt.
Y Canolbarth:
- Cefnogi Cymdeithas Bori Mynydd Mallaen i ddod â rhannau o fynyddoedd Cambria i statws cadwraeth ffafriol, drwy ddefnyddio diadelloedd o ddefaid brodorol i helpu i reoli’r amgylchedd.
- Gweithio gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Faesyfed er mwyn rheoli rhostir a glaswelltir yn well yng Ngwarchodfa Natur Gilfach.
De-orllewin Cymru:
- Gweithio gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro i ddefnyddio gwartheg sy’n pori a rheoli tir i helpu i adfer cynefinoedd mursennod y de a pili pala frith y gors – dau o rywogaethau Cymru sydd o dan fygythiad fwyaf.
- Cefnogi Cymdeithas Bori Mynydd Mallaen i ddod â rhannau o fynyddoedd Cambria i statws cadwraeth ffafriol, trwy ddefnyddio diadelloedd o ddefaid brodorol i helpu i reoli yr amgylchedd.
- Helpu Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru i wella cadernid cynefinoedd, taith pysgod ac ansawdd y dŵr yn Afon Penfro, a Dwyrain a Gorllewin y Cleddau.
De-ddwyrain Cymru:
- Prosiect Adfer Ecosystem Glaswelltiroedd Aberbargoed, fydd yn helpu i adfer cynefinoedd pili pala frith y gors.
- Helpu Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent i gysylltu cynefinoedd coetiroedd ac amrywiaeth fiolegol yng Nghoedwig Dyffryn Gŵy.
Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:
“I atal a gwyrdroi y dirywiad mewn bioamrywiaeth yng Nghymru, mae angen inni gryfhau ein sector gwirfoddol fel eu bod yn y safle gorau i gefnogi mwy o gymunedau i weithredu mwy.
“Gofynnais i Syr David Henshaw i ddod â grŵp at ei gilydd allai gysylltu’n eang i helpu i benderfynu ar y camau y gallwn eu cymryd ar hyn o bryd i gefnogi ein huchelgeisiau am Adferiad Gwyrdd. Dwi’n hynod ddiolchgar am ei waith ac yn falch y gall cyhoeddiad heddiw gefnogi’r syniadau sydd wedi eu cynnig. Dwi’n gobeithio gwneud cyhoeddiadau pellach i gefnogi gwaith y grŵp yn yr wythnosau nesaf.”
“Rydyn ni wedi cynyddu’r cyllid sydd ar gael eleni yn sylweddol ar gyfer popeth o brosiectau tyfu bwyd cymunedol sy’n dod â mwy o natur i’n cymunedau, i adfer mwyngloddiau metel hanesyddol fydd yn gwella iechyd afonydd ar ôl canrifoedd o ddifrod.
“Bydd ein cynllun creu capasiti yn helpu inni barhau i wella ein huchelgeisiau ac i ddarparu hyd yn oed mwy o’r gwaith hwn, sydd mor sylfaenol i lesiant ein cenedl, trwy dryddydd sector sy’n ffynnu.”
Ychwanegodd y Gweinidog: “Dwi’n edrych ymlaen at glywed barn partneriaid drwy gydol Cynhadledd Partneriaethau Bioamrywiaeth Cymru, a byddem yn annog pawb yng Nghymru sydd â diddordeb yn ein treftadaeth naturiol i gymryd rhan yng ngweithgareddau ar-lein yr wythnos.”
Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol:
“Natur yw ein treftadaeth hynaf ac ni fu erioed mor bwysig i edrych ar ôl natur, a dyna pam y mae yn un o brif flaenoriaethau cyllido strategol Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.
“Rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i’n galluogi i gyflawni Cynllun Adeiladu Capasiti yr Adferiad Gwyrdd i gefnogi elusennau amgylcheddol yng Nghymru yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn.
“Mae’r cyllid y byddwn yn ei ddarparu yn mynd tuag at gefnogi’r sefydliadau hyn i feithrin cadernid drwy hyfforddiant i ddatblygu eu sgiliau busnes – megis llywodraethu, sicrwydd ariannol a rheoli prosiectau i sicrhau y gallant ffynnu a gwella’r gwasanaethau y maent yn eu cynnig.
“Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb gwneud cais am grant gysylltu â ni ymlaen llaw am adborth a chyngor ynghylch eu prosiect drwy anfon ebost at natur@heritagefund.org.uk neu ffonio 029 2034 3413.”
DIWEDD