English icon English
FE Funding-2

Cymorth iechyd meddwl a chynnydd cyflogau staff ymhlith £23m ychwanegol i addysg bellach

Mental health support and staff pay rise among £23m increase in further education spending in Wales

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu manylion am y £23m ychwanegol bydd yn ei ddarparu i golegau addysg bellach, gan gynnwys colegau chweched dosbarth a dysgu oedolion yn y gymuned, ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Heddiw cadarnhawyd y bydd staff yn derbyn codiad cyflog o 2.75% ar ôl i Lywodraeth Cymru ddarparu cyllid o £6m i sicrhau bod athrawon coleg yn cael yr un cyflog ag athrawon ysgol. 

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu £2m ychwanegol i ddatblygu cymorth iechyd meddwl a lles mewn colegau ledled Cymru. Bydd hyd at £80,000 ar gael i golegau unigol i gefnogi myfyrwyr a staff. Bydd hyd at £800,000 hefyd ar gael i gefnogi prosiectau cydweithredol rhwng colegau.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau â'i chronfa datblygu sgiliau gwerth £10m, a gynlluniwyd ar gyfer colegau i fynd i'r afael â bylchau mewn sgiliau swyddi penodol yn eu hardaloedd. Bydd £5m eto ar gael i golegau ei fuddsoddi mewn datblygiad proffesiynol staff, gan gynnwys datblygu sgiliau digidol a’r Gymraeg.

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

"Mae ein colegau addysg bellach yn chwarae rhan hollbwysig mewn addysg ôl-16 mewn trefi a dinasoedd ledled Cymru, yn ogystal â'r amrywiaeth eang o wasanaethau a chyfleoedd gwaith maent yn eu darparu i gymunedau lleol.

"Mae sicrhau bod gan fyfyrwyr o bob oed fynediad at gymorth iechyd meddwl yn un o'm blaenoriaethau ac rwy'n falch ein bod yn darparu cyllid ychwanegol i golegau i ddatblygu eu gwasanaethau cymorth rheng flaen.

"Mae hefyd wedi bod yn egwyddor bwysig i mi fod staff addysg bellach yn cael cyflog cyfartal ag athrawon ysgol, felly rwyf wrth fy modd bod y codiad cyflog eleni wedi'i gytuno."