Cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer Ailwladoli Dinasyddion Cymru
Welsh Government Support for the Repatriation of Welsh Citizens
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth parhaus i gefnogi y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn ei hymdrechion i ailwladoli Gwladolion Prydeinig, gan gynnwys y rhai hynny o Gymru, sydd yn gorfod aros dramor ar hyn o bryd o ganlyniad i’r cyfyngiadau symud byd-eang oherwydd Covid-19.
Meddai Eluned Morgan, y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol:
“Mae ein rhwydwaith o 21 o swyddfeydd tramor yn gweithio gyda’r Swyddfa Dramor ac yn chwarae eu rhan yn ailwladoli dinasyddion o Gymru ledled y byd, gan gynnwys o Peru, India, Fietnam, De Affrica, Awstralia a Seland Newydd.
“Rydym wedi bod yn gweithio’n agos hefyd â’r Swyddfa Dramor ar achos Ymgynghorydd Gofal Dwys o Ogledd Cymru sydd yn dal yn India. O ganlyniad i’n cefnogaeth, mae’r ymgynghorydd i gyrraedd yn ôl yn y DU yn ddiweddarach heddiw (21 Ebrill).”
“Rydym yn annog yn gryf bod dinasyddion o Gymru sydd dramor ar hyn o bryd yn dychwelyd adref cyn gynted â phosibl”.