Cymorth Llywodraeth Cymru gwerth £20 miliwn - dros 800 o ffermwyr wedi gwneud cais.
Welsh Government support of £20 million - more than 800 farmers have applied.
Mae dros 800 o fusnesau fferm wedi gwneud cais am gyfran o dros £20 miliwn o ddau gynllun cymorth.
Ym mis Ebrill, cadarnhaodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Faterion Gwledig, Huw Irranca-Davies, ddau gynllun ariannu i gefnogi buddsoddiad mewn seilwaith fferm, a fydd yn helpu i wella ansawdd pridd, aer a dŵr, meithrin gwytnwch i effaith bosibl newid yn yr hinsawdd a chydymffurfio â'r Rheoliadau Adnoddau Dŵr.
Mae'r ddau gynllun wedi cael eu cynllunio i alluogi ffermwyr i wella gwaith rheoli slyri drwy ddarparu cymorth ar gyfer capasiti storio ychwanegol a/neu atal dŵr glaw rhag mynd i mewn i storfeydd slyri i leihau lefel y capasiti storio sydd ei hangen.
Cafwyd nifer uchel o geisiadau am gymorth seilwaith. Mae dyfarniadau grant gwerth £1.06m eisoes wedi'u derbyn o dan y cynllun Gorchuddio Iardiau ac mae dros 700 o Ddatganiadau o Ddiddordeb wedi dod i law ar gyfer y Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau.
Er bod galw uwch na'r disgwyl, gwahoddir pob ymgeisydd cymwys i'r Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau i symud ymlaen i'r cam nesaf a bydd angen iddynt gyflwyno eu ceisiadau llawn erbyn 9 Rhagfyr 2024.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog: “Rwy'n falch iawn bod lefel mor uchel o ddiddordeb wedi bod yn y cynlluniau hyn gyda dros 800 o fusnesau fferm yn gwneud cais am gymorth. Bydd hyn yn eu galluogi i adeiladu gwytnwch i amodau tywydd eithafol - ac yn helpu i wella ansawdd dŵr yn ein hafonydd ac is-afonydd.
“Ni fu ymwybyddiaeth y cyhoedd o gyflwr ein hafonydd erioed yn uwch. Mae hyn yn rhoi'r sector amaethyddol mewn sefyllfa bwerus i helpu i wella ansawdd ein hamgylchedd afonydd.
"Mae ffermwyr, perchnogion tir a busnesau amaethyddol ar flaen y gad yn yr ymdrech hon, ac felly mae'n hanfodol ein bod yn rhoi'r cymorth iddynt ddatblygu arferion cynaliadwy ac atebion arloesol.
“Dros y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni wedi gweld yr effaith mae'r tywydd gwlyb wedi ei chael ar amaethyddiaeth – sydd hefyd yn dangos pwysigrwydd buddsoddi mewn gwytnwch.
“Bydd cenedlaethau'r dyfodol yn ffermio mewn amodau llawer mwy heriol. Mae'n rhaid inni weithredu heddiw i addasu ac ymateb i'r heriau hyn – gan gymryd camau i adeiladu gwytnwch yn erbyn effeithiau posibl newid yn yr hinsawdd.
“Byddwn yn annog pawb sydd wedi cael eu dewis i gyflwyno eu ceisiadau llawn a manteisio i'r eithaf ar y cyllid sydd ar gael.”