Cymorth Llywodraeth Cymru yn galluogi busnes trydanol i ehangu a chreu 30 o swyddi
Welsh Government support enables electrical business expansion and creation of 30 jobs
- Busnes o Sir Gaerfyrddin i ehangu gyda chyllid Llywodraeth Cymru, gan greu 30 o swyddi dros bum mlynedd.
- Mae'r prosiect yn rhan o gynlluniau ehangu uchelgeisiol sy’n cynnwys adeiladu pencadlys newydd.
- Mae safle cyflogaeth Cross Hands, lle bydd y busnes yn cael ei ehangu, wedi’i ddatblygu drwy fenter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin.
Mae cymorth Llywodraeth Cymru yn helpu busnes yn Sir Gaerfyrddin i ehangu ac adeiladu pencadlys newydd pwrpasol fel rhan o gynlluniau ehangu uchelgeisiol a fydd yn creu nifer o swyddi.
Bydd Williams Electrical (Cymru) Ltd yn datblygu pencadlys newydd yn Cross Hands gyda £312,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r prosiect yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i dyfu a chynnal busnesau sy'n eiddo i Gymru fel rhan o ymdrechion i gryfhau economi Cymru.
Bydd y prosiect yn gweld 24 o swyddi newydd yn cael eu creu dros dair blynedd, ac yna chwe swydd arall yn y ddwy flynedd ar ôl hynny. Bydd y swyddi newydd yn cynnwys prentisiaid a thrydanwyr cymwysedig a mwy na dwbl y gweithlu presennol.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Williams Electrical (Cymru) Ltd wedi ehangu'n gyson. Mae'r cwmni, sy'n darparu gwasanaethau trydanol a systemau ynni adnewyddadwy, bellach yn buddsoddi mewn capasiti ychwanegol er mwyn ymgymryd â phrosiectau masnachol mwy a chefnogi recriwtio yn y dyfodol.
Mae wedi prynu plot datblygu ar Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands ar gyfer ei bencadlys newydd.
Mae'r safle cyflogaeth wedi'i ddatblygu gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin drwy fenter ar y cyd ac mae'n cynnig plotiau datblygu i'w gwerthu ar gyfer defnydd cyflogaeth addas mewn lleoliad strategol gyda mynediad hawdd i rwydwaith ffyrdd yr A48.
Bydd y symudiad yn treblu ei ofod swyddfa presennol, gan helpu'r busnes i ddelio â phrosiectau masnachol ar raddfa gynyddol fawr, creu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau a darparu atebion ynni adnewyddadwy i gwsmeriaid ledled de Cymru a thu hwnt.
Dywedodd Cyfarwyddwr Williams Electrical (Cymru) Ltd, Wayne Williams:
“Pan wnaethon ni ddechrau Williams Electrical Contractors (Cymru) Ltd yn 2015, dim ond dau berson, un fan a gweledigaeth oedd gennym i adeiladu busnes dibynadwy sy'n creu cyfleoedd yn lleol.
“Rydyn ni'n hynod falch o ba mor bell rydyn ni wedi dod.
“Mae cymorth gan Lywodraeth Cymru a Busnes Cymru wedi ein helpu i barhau i dyfu, creu swyddi medrus a buddsoddi yn ein dyfodol.
“Rydyn ni'n falch o fod yn fusnes o Gymru ac yn ddiolchgar i bawb sydd wedi ein helpu i gyrraedd lle rydyn ni heddiw.”
Mae'r gwerthiant tir ar Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands yn rhan o Fenter ar y Cyd â Chyngor Sir Caerfyrddin.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, y Cynghorydd Hazel Evans:
“Rydyn ni wrth ein bodd yn gweld busnes lleol llwyddiannus yn buddsoddi yn ei ddyfodol ac yn creu cyfleoedd cyflogaeth newydd yn Sir Gaerfyrddin.
Bydd datblygu pencadlys newydd ar Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands yn cefnogi twf parhaus cwmni Williams Electrical wrth greu prentisiaethau a swyddi medrus i bobl leol.
Mae'r buddsoddiad hwn yn enghraifft gadarnhaol o sut mae ein dull partneriaeth yn helpu busnesau i ehangu a chyfrannu at economi'r sir.”