English icon English
Nathan Shephard-2

Cymorth Llywodraeth Cymru yn helpu dyn o Dorfaen i lansio busnes trwsio beiciau

Welsh Government support helps Torfaen man launch bicycle repair business

Mae dyn o Dorfaen ar ben ei ddigon wedi derbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru i lansio busnes trwsio beiciau yn ystod y cyfyngiadau symud Coronafeirws. 

Mae Nathan Shephard wedi derbyn grant o £1,500 i dderbyn cymwysterau er mwyn gwireddu ei freuddwyd, ar amser pan bo nifer y bobl sy’n defnyddio beiciau wedi cynyddu ledled y wlad.

Cafodd gyngor a chefnogaeth drwy raglenni Cymru’n Gweithio a Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, ac mae’n trwsio ac yn rhoi gwasanaeth i feiciau yn ei sied yn yr ardd, ble y mae’n dilyn canllawiau pellter cymdeithasol a hylendid pan fydd cwsmeriaid yn danfon a chasglu eu beiciau. 

Meddai Nathan, 28: “Dwi wedi ymddiddori mewn beiciau erioed ac mae gen i feddwl mecanyddol iawn.  Fel plentyn, roeddwn bob amser yn datod teganau ac yn eu rhoi yn ȏI at ei gilydd, ac roeddwn yn arfer adeiladu pethau gyda fy Nhad-cu yn ei garej. 

“Dwi’n meddwl mai dyma wnaeth imi ddechrau’r busnes yma ac roeddwn yn cael fy ysgogi drwy gredu’n gryf na fyddwch wir yn gweithio ddiwrnod o’ch bywyd os ydych yn mwynhau eich gwaith. 

“Ond mae’r wybodaeth a gewch pan fyddwch yn dechrau busnes yn ormodol weithiau. 

“Diolch byth, mae rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy Torfaen wedi helpu i’w wneud yn llawer haws.  Alla i ddim diolch digon iddyn nhw. 

“Mae nhw wedi fy helpu i baratoi cynllun busnes ac wedi helpu imi gael cyllid ar gyfer yswiriant, offer, cardiau busnes a thaflenni oedd yn hollbwysig imi wrth ddechrau.” 

Mae Shephard’s Bike Maintenance yn gwasanaethu ac yn trwsio berynnau, geriau, a breciau ymhlith pethau eraill a chynnal beiciau.  

Ychwanegodd Nathan: “Mae’n therapiwtig iawn gweld problem gyda beic a’i gael i weithio unwaith eto. 

“Roedd un cwsmer wedi mynd i siop feiciau fawr a dywedwyd wrtho y byddai’n costio £200 i’w drwsio.  Edrychais ar y beic ac roeddwn yn gallu gwneud y gwaith yn llawer rhatach.”

“Fy nod yn y pen draw yw cael siop a gwerthu beiciau a’u trwsio.”

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Rydyn ni’n wynebu ansicrwydd economaidd na welwyd mo’i debyg oherwydd yr argyfwng coronafeirws, felly mae’n hanfodol ein bod yn manteisio ar bob cyfle i bobl Cymru wrth inni anelu at adeiladu yn ȏl yn well wedi’r pandemig. 

“Dwi’n hynod o falch fod rhaglenni fel Cymru’n Gweithio a Cymunedau am Waith a Mwy yn cael effaith bositif gan helpu’r bobl fwyaf difreintiedig yn ein cymunedau.  Dwi’n dymuno pob llwyddiant i Nathan at y dyfodol gyda’i fusnes trwsio beiciau.” 

I siarad gyda rhywun ynghylch dechrau busnes yn Nhorfaen, ffoniwch dîm Cymunedau am Waith a Mwy ar 01495 742 131.

Mae’n bosibl cysylltu gyda Shephard’s Bike Maintenance ar 07367 180 775.