English icon English

Cymorth Llywodraeth Cymru yn helpu i greu swyddi technegol newydd ym Mhort Talbot

Welsh Government support helps create new tech jobs in Port Talbot

Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, wedi cyhoeddi bod Keytree Ltd, ymgynghorwyr a datblygwyr cynnyrch dylunio a thechnoleg rhyngwladol llwyddiannus yn creu 38 o swyddi newydd yn eu safle ym Mhort Talbot gyda chymorth Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £500,000 fydd yn golygu y bydd y cwmni yn ehangu eu canolfan ym Mhort Talbot ac yn creu swyddi newydd o safon uchel, gan bron iawn ddyblu nifer y gweithwyr.

Gyda pencadlys yn Llundain, mae gan Keytree brosiectau ar draws 100 o wledydd a swyddfeydd yn Sydney, Madrid a Bangalore yn ogystal â Phort Talbot.

Bydd cyhoeddiad heddiw yn gweld y swyddfa ym Mhort Talbot yn ehangu, ac mae’n rhan o gynlluniau ar gyfer rhagor o dwf yn y dyfodol. Bydd yn gweld nifer o weithrediadau’r cwmni yn cael eu lleoli yno, gan gynnwys eu Canolfan Rheoli Cymwysiadau.

Bydd y cyllid gan Lywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi Keytree wrth sefydlu hwb arloesi.

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

“Mae’n newyddion gwych bod Keytree yn ehangau eu gweithrediadau ym Mhort Talbot ac mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynlluniau y cwmni i ddatblygu.

“Mae’r cwmni sy’n adnabyddus yn rhyngwladol gan weithio gyda rhai o’r enwau mwyaf yn y byd busnes megis BP a Jaguar Land Rover, ac rydym yn croesawu creu 38 o swyddi crefftus o safon uchel yma yng Nghymru.

“Dwi hefyd yn falch o ymrwymiad y cwmni i recriwtio y doniau gorau o sefydliadau addysg lleol, ac rydym yn cydweithio’n agos â Phrifysgolion Abertawe a Caerdydd yn ogystal â Choleg Castell-nedd Port Talbot wrth wneud hynny.

“Mae diweithdra yng Nghymru bellach yn is nag erioed a dwi’n falch ein bod ni, fel Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi busnesau i greu swyddi newydd a rhoi hwb pellach i’n heconomi ffyniannus.”

Meddai Prif Swyddog Gweithredol Keytree, Dan McNamara:

"Gwnaethom y penderfyniad ychydig flynyddoedd yn ôl i sefydlu swyddfa yn Ne Cymru yn seiliedig ar safon y doniau lleol, y sefydliadau addysgol gwych, y lleoliad rhagorol ac ymagwedd flaengar Llywodraeth Cymru.

“Mae cefnogaeth a gweledigaeth strategol y tîm hwnnw wedi galluogi inni greu swyddfa fodern a chyflogi rhai o’r doniau gorau un o’r rhanbarth.

“Bu hyn yn allweddol i helpu inni barhau i ddarparu atebion digidol eithriadol i’n cwmseriaid ledled y byd ac rydym yn edrych ymlaen at ragor o dwf a llwyddiant yn y rhanbarth."