English icon English

Cymorth ychwanegol ar gael i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn ym mhob gweithle yng Nghymru

Extra help on offer to promote gender equality in Welsh workplaces

Ar Ddiwrnod Ryngwladol y Menywod, mae'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi buddsoddiad ychwanegol o £6,000,000 i wella cydraddoldeb rhwng y rhywiau ym mhob gweithle drwy Cymru.

Mae prosiect Cenedl Hyblyg 2, a ddarperir gan Chwarae Teg ac a ariennir drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop, wedi cynorthwyo 3498 o fenywod ac wedi cydweithio â 695 o gyflogwyr hyd yn hyn, er mwyn hyrwyddo datblygiad gyrfaol menywod a helpu i leihau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau

Mae'r prosiect, a fydd bellach yn cael ei ymestyn tan 2023, yn cefnogi menywod mewn gwaith i ddatblygu eu gyrfaoedd drwy ddarparu cymwysterau arweinyddiaeth achrededig a mentora, ac y mae’n cefnogi busnesau i weithredu strategaethau cydraddoldeb ac arferion gwaith modern.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, Jeremy Miles,

"Rydym yn falch o'n record o fuddsoddi mewn sgiliau i wella cyfleoedd pobl i symud ymlaen yn eu gyrfa a chael enillion uwch, yn ogystal â hyrwyddo cyfle cyfartal yn y gweithle, ac rydym am barhau â'r gwaith hwn.

"Y mis diwethaf, lansiais ein cynigion ni ar sut y gallem ddefnyddio unrhyw arian buddsoddi rhanbarthol newydd, a fyddai'n canolbwyntio ar leihau anghydraddoldebau a gwella cynhyrchiant ein busnesau.

"Mae gennym gyfle gwirioneddol i adeiladu ar waith gyda'n partneriaid, a chynyddu ffyniant ym mhob rhan o Gymru drwy fuddsoddiad rhanbarthol parhaus lle caiff penderfyniadau ariannu eu gwneud gan Lywodraeth Cymru, nid gan Lywodraeth San Steffan. Mae'n rhaid i ni fanteisio ar y cyfle euraidd hwn.”

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog sy'n gyfrifol am gydraddoldeb,

"Rwy'n falch iawn bod y cyllid ychwanegol hwn wedi'i ddarparu i alluogi prosiect Cenedl Hyblyg 2 i barhau i helpu i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau, gan ganolbwyntio ar naw rhan allweddol o economi Cymru.

"Rydyn ni'n awyddus iawn i adeiladu ar lwyddiant prosiectau blaenorol i helpu mwy o fenywod i ymgymryd â rolau arwain, a chyflogwyr i fanteisio i'r eithaf ar sgiliau menywod. Yr wythnos hon byddwn yn lansio ein cynllun i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru, sy'n ein herio i ddangos arweinyddiaeth a gweithredu newid hirdymor. Rwy'n falch o ddweud, rydym yn barod amdani."

Dywedodd Prif Weithredwr Chwarae Teg, Cerys Furlong,

"Mae chwarae teg yn falch o allu parhau i gyflawni ein rhaglen Cenedl Hyblyg 2, sy'n cael ei hariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd. Nid oes amheuaeth bod y rhaglen wedi darparu gwerth sylweddol i economi Cymru hyd yn hyn. Mae cannoedd o fusnesau wedi cael cymorth, a miloedd o fenywod ledled Cymru wedi cael codiadau cyflog gwerth dros £3 miliwn hyd yma. 

"Mae'r busnesau yr ydym wedi cydweithio â nhw hwy wedi dweud wrthym eu bod yn fwy cynhyrchiol erbyn hyn, ac wedi gwella’u prosesau recriwtio a chadw staff. Yn ogystal, mae’r menywod sydd wedi cael ein cymorth wedi nodi eu bod yn meddu ar fwy o sgiliau ac yn fwy hyderus, a bod hynny wedi eu galluogi i symud ymlaen yn eu gyrfa. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â rhagor o fenywod a busnesau yng ngorllewin Cymru a'r Cymoedd dros y 3 blynedd nesaf, gan alluogi menywod i gyflawni a ffynnu yn economi Cymru."