Cymorth ychwanegol i ddysgwyr sydd wedi'u mabwysiadu a dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal
Extra support for adopted and care experienced learners
Bydd hyfforddiant arbenigol yn cael ei roi i athrawon ac yn cryfhau'r gefnogaeth mewn ysgolion i blant sydd wedi'u mabwysiadu ac sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
Yn aml, mae plant sydd wedi'u mabwysiadu ac sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn wynebu heriau ychwanegol yn y maes addysg oherwydd trawma cynnar neu effaith esgeulustod, a all effeithio ar y ffordd y maent yn gweld y byd ac yn ymgysylltu ag ef. Mae'r hyfforddiant rhad ac am ddim hwn, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei ddarparu gan Adoption UK Cymru, yn rhoi'r wybodaeth a'r adnoddau ymarferol sydd eu hangen ar athrawon a staff ysgolion i ddeall ac ymateb i'r heriau unigryw hyn.
Gall ysgolion feithrin dealltwriaeth o wraidd y teimladau a'r ymddygiad. Rhennir strategaethau â nhw sy'n seiliedig ar dystiolaeth i'w helpu i reoleiddio emosiynau a chreu amgylchedd dosbarth sy'n gefnogol, a thosturiol, lle mae dysgwyr sydd wedi'u mabwysiadu ac sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn teimlo'n ddiogel ac yn gallu setlo i ddysgu.
Dywedodd athro a gwblhaodd yr hyfforddiant y llynedd yn Ysgol Gynradd Sili:
"Fel rhiant sydd wedi mabwysiadu ac aelod o staff roedd yn hyfryd cael clywed gan Julie [Julie Mosely, Adoption UK] a ddaeth i'r ysgol i addysgu staff am yr effeithiau y gall trawma eu cael ar blant sy'n cael eu mabwysiadu. Rhoddodd gyfle i staff ddysgu am sut y gall trawma ym mywyd cynnar plentyn effeithio arnynt trwy gydol eu plentyndod, gan gynnwys pethau sydd wedi digwydd yn ystod beichiogrwydd. Roedd yr hyfforddiant yn rhoi golwg newydd i staff ar yr hyn y mae'r plant hyn yn gorfod ei wynebu, ac yn darparu strategaethau iddynt i'w cefnogi."
Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Sant Illtyd, Roger Hardy, sydd hefyd wedi cwblhau'r hyfforddiant:
"Er fy mod wedi cael hyfforddiant ar drawma o'r blaen, gwelsom hyfforddiant Julie yn hynod o ddefnyddiol ac fe wnaeth wella ein dealltwriaeth o'r heriau sy'n wynebu plant sydd wedi'u mabwysiadu neu sydd wedi bod mewn gofal. Mae wedi ein helpu i addasu ein harferion ar gyfer y plant hyn, ac wedi cael budd ehangach i weddill poblogaeth yr ysgol. Roedd yr hyfforddiant yn dda a chafodd ei gyflwyno mewn ffordd arbenigol."
Dywedodd Swyddog Addysg Arweiniol (Cymru) Adoption UK, Julie Moseley:
"Mae Baromedr Mabwysiadu Adoption UK yn tynnu sylw at angen dybryd: mae tri chwarter y rhieni sydd wedi mabwysiadu yng Nghymru yn dweud bod angen mwy o gefnogaeth ar eu plant yn yr ysgol na'u cyfoedion, ac mae 42% yn wynebu heriau cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl. Er mwyn diwallu'r anghenion hyn mewn gwirionedd, mae'n rhaid i ni arfogi gweithwyr addysg proffesiynol o ddechrau eu gyrfaoedd gyda'r ddealltwriaeth a'r adnoddau i gefnogi dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn effeithiol. Mae'r hyfforddiant hwn nid yn unig yn fuddiol, mae'n hanfodol."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:
"Mae pob dysgwr yn haeddu cyfleoedd cyfartal i lwyddo, waeth beth fo'u cefndir neu eu profiadau cyn cyrraedd yr ystafell ddosbarth. Trwy sicrhau bod ysgolion yn deall anghenion cymhleth dysgwyr a fabwysiadwyd ac sydd â phrofiad o fod mewn gofal, gallant gefnogi'r dysgwyr hyn yn well i gyflawni eu potensial llawn. Rwy'n falch ein bod yn ariannu'r hyfforddiant hwn, a hoffwn ddiolch i Adoption UK Cymru am ddarparu'r rhaglen hyfforddi arloesol a hanfodol hon."
I gael rhagor o wybodaeth am hyn, ewch i: Supporting care experienced learners:Taking a trauma informed approach to behaviour|Adoption UK