Cymru ac Iwerddon yn gyrru cydweithrediad newydd ymlaen
Wales and Ireland drive forward new collaboration
Wrth i dimau rygbi Cymru ac Iwerddon wynebu ei gilydd yn y Chwe Gwlad heddiw, cyhoeddodd y Cwnsler Cyffredinol Jeremy Miles gyllid gwerth dros €6 miliwn ar gyfer tri phrosiect newydd a fydd yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng ein dwy wlad.
Gyda chymorth cyllid o un o raglenni’r UE, sef y rhaglen Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Iwerddon wedi bod yn cydweithio i fynd i’r afael â meysydd sydd o bwys i’r ddwy wlad fel y newid yn yr hinsawdd, ymchwil dechnolegol, datblygu cynaliadwy a thwristiaeth ers 2007.
Bydd y cynlluniau a gyhoeddir heddiw yn:
- Tyfu llinad y dŵr ar ddŵr gwastraff amaethyddol i gynhyrchu bwyd anifeiliaid ar gyfer y diwydiant cig eidion a’r diwydiant llaeth, wrth helpu i daclo llygredd mewn dŵr croyw a dŵr arfordirol
- Manteisio ar dreftadaeth naturiol a diwylliannol Pen Llŷn yng Nghymru a phenrhyn Iveragh yn Iwerddon i hybu cyfleoedd ecodwristiaeth gynaliadwy drwy gydol y flwyddyn mewn cymunedau arfordirol
- Cynnal astudiaeth fanwl o boblogaeth a chynefin dwy rywogaeth o adar dŵr i ddeall yn well sut y bydd y newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar gymunedau arfordirol ar y ddwy ochr i Fôr Iwerddon
Mae pob un o’r prosiectau hyn yn pwysleisio mantais cydweithio ar draws ffiniau ar bryderon a rennir, gan gysylltu prosiectau a hybu buddiannau cyffredin i roi budd i gymunedau a busnesau ar y ddwy ochr i Fôr Iwerddon.
Wrth gyhoeddi’r cyllid newydd, dywedodd Mr Miles “Mae Cymru yn dal i fod yn genedl sydd â chysylltiadau rhyngwladol. Mae ein perthynas â’n cymdogion agos, Iwerddon ac Ewrop, yn parhau i fod yn gryf, a bydd gweithio fel tîm ar draws ffiniau yn y modd hwn yn parhau i fod yn rhan hanfodol o’n strategaeth ryngwladol, a lansiwyd fis diwethaf.
“Dyma brosiectau ardderchog sy’n ymdrin â materion mawr mewn ffordd glyfar a chreadigol. Mae gan Lywodraeth Cymru record wych o helpu i wthio prosiectau cydweithredol dros y llinell fantais, a dyna pam y mae hi mor bwysig ein bod yn gallu parhau i fuddsoddi cyllid fel hwn yn y dyfodol yn y rhannau hynny o Gymru sydd ei angen fwyaf.
“Rydym yn pwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru a’r DU yn parhau’n rhan o gyfnod nesaf y rhaglen Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd, fel y gallwn barhau i ennill tir a chydweithio yn rhan o raglenni mawr sy’n gweithio ar draws ffiniau ar y materion hyn. Mae ein gwaith tîm ag Iwerddon drwy’r rhaglen hon, ac â gweddill cyfandir Ewrop, yn werthfawr a hanfodol.”
Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, “Mae’r prosiectau hyn yn enghraifft ardderchog o Strategaeth Ryngwladol Cymru. Drwy’r Strategaeth hon, ein nod yw dod â phawb ynghyd, gan sicrhau ein bod yn defnyddio ein hasedau i weithio mewn partneriaeth gydag eraill a diogelu buddiannau pobl Cymru.
“Mae menter Iwerddon Cymru yn rhan o’r rhaglen Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd. Mae’n hanfodol bwysig bod Cymru a’r DU yn rhan o gyfnod nesaf y rhaglen hon. Mae angen inni sicrhau ein bod ni i gyd yn cyd-dynnu, yn cydweithio i sicrhau bod ein hymdrechion yn cael yr effaith fwyaf posibl, ac yn cydweithredu mewn rhaglenni mawr gan weithio ar draws ffiniau i ddiogelu buddiannau a rennir – gydag Iwerddon, fel yr ydym yn ei wneud drwy’r prosiectau hyn, yn ogystal â gyda gweddill cyfandir Ewrop.”
Nodiadau i olygyddion
BRAINWAVES aims to address the problem of pollution of freshwater and coastal water resources along the west coast of Wales and south-east coast of Ireland in a creative way – by growing duckweed.
Duckweeds grow naturally on waste streams and contain high quality protein including essential amino acids, which can be used in animal feeds for the beef and dairy industry. This creates a “reduce, reuse and recycle”, full-circle use of nutrients, by using natural plant growth to create new nutrients to feed the agri-economy, and addressing pollution problems by minimising waste water.
Aberystwyth University and University College Cork will jointly receive €1.1m funds to research technological systems to maximise duckweed growth, and develop state-of-the-art demonstration systems.
Mr Miles said “This is a great way to help the transition to a sustainable, circular economy. Through cross-border collaboration, Wales and Ireland are taking a novel, innovative approach to preserving resources, creating local jobs – and treating waste water as a resource and an opportunity to create something good.”
Contact details
Marcel Jansen, University College Cork, M.Jansen@ucc.ie, 00353 (0)87 260 7216
Dr Dylan Gwynn-Jones, Aberystwyth University, dyj@aber.ac.uk, 01970 622318.
ECHOES will deliver €2.7m to Aberystwyth University and University College Cork, together with partners Compass Informatics, the British Trust for Ornithology, and Geo Smart Decisions. The partnership will focus on a detailed study of two species of birds to better understand the impact of climate change on coastlines on both sides of the Irish Sea.
Surveys of grassland and marsh vegetation foraged by Greenland white-fronted geese, and open mud and sand flats used by curlews, will flag up vulnerable areas along Wales-Ireland coastlines. The evidence gained will be used to develop an online platform and tools to help landowners, farmers, policy-makers and residents adapt to and manage the impacts of climate change on the local region.
Contact details
Crona Hodges, Geo Smart Decisions, crona.hodges@geosmartdecisions.co.uk, 07717 826250
Fiona Cawkwell, University College Cork, f.cawkwell@ucc.ie
LIVE will develop a cooperative network focusing on the natural and cultural heritage of the Llŷn Peninsula in Wales, and western Iveragh, co Kerry in Ireland. Stakeholders of the Ecoamgueddfa in north Wales will share their knowledge and experience to support the establishment of an eco-museum in Ireland.
€2.66m funds will support University College Cork and partners Bangor University, Kerry County Council, South Kerry Development partnership, Gwynedd Council and the National Trust to maximise the cultural heritage of the Llŷn and Iveragh peninsulas and further develop sustainable year-round eco-tourism options in coastal communities.
Contact details
Dr Pat Meere, University College Cork, p.meere@ucc.ie 00353 (0)21 4903056
Dr Einir Young, Bangor University, e.m.young@bangor.ac.uk 01248 382316