Cymru i ddefnyddio’r tair wythnos nesaf i sicrhau bod ysgolion yn cael ailagor yn ddiogel
Wales to use next three weeks to ensure safe return to school
Mae’r cyfyngiadau ‘aros gartref’ i barhau mewn grym yng Nghymru am dair wythnos arall wrth i’r plant lleiaf ddechrau mynd yn ôl i’r ysgol ddydd Llun. Dyna fydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn ei gyhoeddi heddiw.
Bydd yn dweud bod yr achosion o’r coronafeirws, diolch i waith tîm Cymru, ar eu lefel isaf ers diwedd Medi, a bod un o bob tri oedolyn yng Nghymru wedi cael eu brechlyn.
Bydd y Prif Weinidog yn siarad am arwyddion cynnar calonogol, a bydd yn edrych ymlaen at yr adolygiad nesaf pan fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried p’un a fydd modd i’n holl ddisgyblion cynradd a rhyw fyfyriwr hŷn I ailddechrau dysgu wyneb yn wyneb o ddydd Llun 15 Mawrth, cyn belled â bod y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn parhau i wella.
Bydd yr adolygiad nesaf o’r rheoliadau yn ystyried y cyfyngiadau ar siopau dianghenraid a gwasanaethau cysylltiad agos.