Cymru i groesawu beicwyr gyda chronfa Tour de France gwerth £4.5m
Wales to welcome cyclists with £4.5m Tour de France fund
- Buddsoddiad o £4.5m gan Lywodraeth Cymru ar gyfer seilwaith twristiaeth feicio - i greu gwaddol parhaol yn sgil dyfodiad y Tour de France i Gymru yn 2027
- Bydd y cyllid yn creu rhwydwaith cenedlaethol o ganolfannau, llwybrau a chyfleusterau beicio er lles cymunedau ac ymwelwyr
Bydd beicwyr a chymunedau ledled Cymru yn elwa ar fuddsoddiad newydd gwerth £4.5m gan Lywodraeth Cymru mewn seilwaith twristiaeth feicio. Mae hyn yn rhan o waith ehangach sydd â'r nod o adael gwaddol iechyd, chwaraeon ac economaidd parhaol yn sgil dyfodiad Grand Départ y Tour de France i Gymru yn 2027.
Bydd modd gwylio'r Tour de France yn rhad ac am ddim, ac mae disgwyl iddo ddenu mwy na miliwn o ymwelwyr i'r cymalau yng Nghymru a chyrraedd cynulleidfa fyd-eang o 150 miliwn o wylwyr teledu, ar draws 190 o wledydd. Mae'r gronfa hon yn sicrhau bod y manteision yn para ar ôl i'r camerâu adael.
Bydd y cyllid yn creu rhwydwaith cenedlaethol o arwyddion a chanolfannau beicio mawr a bach y bydd pobl am ymweld â nhw. Gallai'r cyfleusterau gynnwys mannau parcio diogel i feiciau, cyfleusterau storio, gorsafoedd gwefru e-feiciau, stondinau cynnal a chadw, dŵr, gwasanaethau llogi beiciau a gwybodaeth am feicio.
Dywedodd y Gweinidog dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price:
"Wrth i Tour de France eleni ddirwyn i ben, rydym eisoes yn edrych ymlaen at gyffro croesawu'r digwyddiad i Gymru y flwyddyn nesaf. Pan fydd Cymru'n cynnal digwyddiadau mawr fel hyn, rwy'n benderfynol o sicrhau ein bod yn rhoi cynlluniau gwaddol cadarn ar waith fel bod y manteision yn para ymhell ar ôl y digwyddiad ei hun.
"Bydd y Tour de France yn rhoi cyfle unigryw i ni hyrwyddo Cymru ar lwyfan y byd, denu ymwelwyr a buddsoddiad, annog ffyrdd iachach a mwy egnïol o fyw, a chreu cyfleoedd parhaus i gymunedau a busnesau ar hyd a lled Cymru."
Ychwanegodd Heledd Fychan, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon:
"Mae'r Tour de France yn un o brif ddigwyddiadau'r byd chwaraeon ac mae ei groesawu i Gymru y flwyddyn nesaf yn gyfle gwych.
"Mae sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar effaith a gwaddol y digwyddiad yn hanfodol, a bydd cyllid heddiw yn helpu i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd trwy ddarparu mwy o gyfleusterau ar gyfer beicio ledled y wlad."
Dywedodd Geraint Thomas, cyn-enillydd y Tour de France a Llysgennad Beicio Cymru:
“Mae Grand Départ y Tour de France yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth ar gyfer beicio yng Nghymru.
“Mae’r buddsoddiad hwn mewn seilwaith parhaol yn golygu y bydd mwy o bobl – boed yn feicwyr profiadol neu’r rhai sy’n cychwyn arni – yn gallu mwynhau popeth sydd gan Gymru i’w chynnig ar ddwy olwyn, ymhell ar ôl diwedd y ras.”
Mae Cymru eisoes yn cynnig cyfleoedd o'r radd flaenaf i feicio ar hyd llwybrau ar y ffordd, llwybrau graean, hamdden a beicio mynydd. Bydd y buddsoddiad yn adeiladu ar y sylfaen hon i drawsnewid Cymru yn gyrchfan twristiaeth feicio sydd gyda'r gorau yn y byd.
Bydd £2m ar gael yn 2026-27, gan godi i £2.5m yn 2027-28, ac fe gaiff ei ddarparu drwy gronfa gyfalaf y Pethau Pwysig. Bydd angen i bob prosiect a gymeradwyir nid yn unig ychwanegu gwerth at brofiadau ymwelwyr, ond hefyd ddarparu manteision i'r cymunedau sy'n croesawu twristiaid.
Awdurdodau lleol ac awdurdodau parc cenedlaethol fydd yn arwain y gwaith cyflenwi. Bydd modd gwneud cais o 10 Awst 2026, a'r dyddiad cau yw 25 Medi 2026 am 1pm.