Cymru yn denu £4.6bn o fewnfuddsoddiad byd-eang yn ystod y flwyddyn ddiwethaf
Wales attracts £4.6bn of global inward investment in the last year
Wrth i fwy na 300 o uwch arweinwyr diwydiant a busnes baratoi i ymgynnull yng Nghasnewydd i archwilio cyfleoedd buddsoddi cyffrous ledled Cymru, datgelwyd bod y wlad wedi denu £4.6bn o fewnfuddsoddiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Bydd Uwchgynhadledd Buddsoddi Cymru, sy'n cael ei chynnal gan Lywodraeth Cymru yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICCW) ddydd Llun 1 Rhagfyr, yn denu buddsoddwyr byd-eang o 27 o wledydd i brofi arloesedd sy'n arwain y byd mewn digwyddiad cyntaf o'i faint ers i Gymru gynnal Uwchgynhadledd NATO yn 2014.
Ers hynny, mae Cymru wedi gweld twf dramatig mewn diwydiannau newydd sydd wedi ffynnu yn ystod y ddegawd diwethaf – fel deallusrwydd artiffisial, ynni glân, lled-ddargludyddion a sectorau creadigol.
Bydd buddsoddwyr byd-eang, arweinwyr busnes a chwmnïau o Gymru yn dod at ei gilydd i arddangos cyfleoedd a meithrin partneriaethau fel rhan o uchelgais y Prif Weinidog i sicrhau buddsoddiad mawr a fydd yn darparu ffyniant hirdymor a mwy o swyddi cynaliadwy o safon i Gymru.
O'r 250 o gwmnïau y disgwylir iddynt fod yn bresennol, bydd 150 o'r rhain yn newydd i Gymru.
Ymhlith y Cymry a fydd yn estyn croeso cynnes bydd enillydd Tour de France Geraint Thomas a'r cyflwynydd teledu Alex Jones.
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:
"Yn ystod y flwyddyn ers i mi gyhoeddi y byddai'r uwchgynhadledd hon yn digwydd, mae Cymru wedi denu tua £4.6bn o fewnfuddsoddiad o bob cwr o'r byd.
"Mae digwyddiadau fel hyn yn rhoi ffocws hanfodol i fusnes a'r llywodraeth weithio gyda'i gilydd a gwneud cytundebau a fydd o fudd i gymunedau ledled Cymru.
"Mae Cymru'n cynnig buddsoddi cymhellol diolch i'n seilwaith o'r safon uchaf, gweithlu medrus, a lleoliad strategol sy'n rhoi mynediad i brif farchnadoedd y DU ac Ewrop.
"Rydyn ni'n creu'r amodau i fusnesau lwyddo a thyfu, ac mae Cymru'n denu mwy o fuddsoddiad byd-eang nag erioed."
Ar hyn o bryd mae 1,545 o fusnesau tramor yn weithredol yng Nghymru, sy'n cyflogi mwy na 176,500 o bobl ledled y wlad.
Yn 2024–25, sicrhaodd Cymru 65 o brosiectau Buddsoddi Uniongyrchol Tramor – cynnydd o 23% flwyddyn ar ôl blwyddyn a'r ail dwf uchaf yn y DU. Creodd y prosiectau hyn 2,470 o swyddi newydd a diogelu 1,652 yn fwy, yr uchaf o unrhyw ran o'r DU.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
"O led-ddargludyddion yng Nghasnewydd i brosiectau ynni adnewyddadwy ar draws ein harfordiroedd, mae Cymru ar flaen y gad yn y diwydiannau a fydd yn diffinio'r ddegawd nesaf.
"Ein rôl fel llywodraeth yw gweithio mewn partneriaeth â busnesau, gan ddileu rhwystrau a chreu'r amodau cywir i fuddsoddiadau ffynnu.
"Bydd y cwmnïau fydd yn bresennol yn yr uwchgynhadledd yn gweld drostynt eu hunain pam mai Cymru yw'r dewis call – a rydym yn barod i droi sgyrsiau'n ymrwymiadau."