English icon English
llysgennadalmaeneg-germanambassador-2

Cymru yn edrych ymlaen at berthynas gref â’i phartner masnachol pwysicaf wrth i Lysgennad yr Almaen i’r DU ymweld â lleoliadau allweddol

Wales looks forward to future relationship with its strongest trading partner as German Ambassador to UK visits key sites

Bydd Cymru’n gwneud popeth y gall i sicrhau bod ei pherthynas gref â’r Almaen yn parhau, gan fod ganddynt gysylltiadau masnachol gwerth mwy na £3bn, wrth i gyfnod newydd o drafodaeth â’r UE fynd yn ei flaen.

Dyna oedd neges Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, yn ystod ymweliad â Chymru gan y Dr Peter Wittig, Llysgennad yr Almaen i’r DU.

Bu Dr Wittig ym Mae Caerdydd, yn cyfarfod â’r Gweinidog a’r Prif Weinidog Mark Drakeford, cafodd ei dywys o gwmpas Prifysgol Caerdydd a bu hefyd yn trafod masnach gydag aelodau o Lywodraeth Cymru. Wedyn aeth i dderbyniad yng nghastell Caerdydd ar gyfer y diaspora Almeinig.

Y diwrnod canlynol, ymwelodd y Llysgennad â busnesau Almeinig yn y Gogledd, yn cynnwys Innogy ym Mostyn a’r ffatri Airbus ym Mrychdyn.

Yr Almaen yw un o brif bartneriaid masnachol Cymru.

Yn 2018 aeth ychydig dros 18 y cant o holl nwyddau Cymru a allforiwyd y tu allan i’r DU i’r Almaen, nwyddau gwerth cyfanswm o dros £3biliwn.

Mae’r Almaen hefyd yn cyfrannu’n gryf at y diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Mae’r nifer o ymwelwyr o’r Almaen i Gymru yn fwy nag o unrhyw wlad arall, ar wahân i Iwerddon – sef cyfanswm blynyddol o 87,000 o ymwelwyr, yn ôl ffigurau diweddar.

Mae hyn y cyfrif am wyth y cant o dwristiaeth ryngwladol, ac am tua saith y cant o’r holl wariant gan dwristiaid.
Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: “Roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â Dr Wittig, ac o gael y cyfle i drafod y berthynas rhwng yr Almaen a Chymru heddiw ac yn y dyfodol.

“Tu allan i’r DU, yr Almaen yw ein partner masnachol pwysicaf, ac mae trafodaethau megis y rhain yn hollbwysig wrth i ni edrych ar ffyrdd i ni gydweithio ar wella’r cysylltiadau sydd rhyngom.”

Aeth y Gweinidog ymlaen i ddweud: “Wrth i’r DU adael yr UE, ein safbwynt ni yw bod Cymru yn dal i fod yn agored i fusnes gyda’i phartneriaid Ewropeaidd.

“Rydym yn awyddus i wneud cymaint ag y gallwn i sicrhau bod y cysylltiadau economaidd, diwylliannol a masnachol cryf rydym eisoes wedi eu creu gyda nifer o wledydd yn yr UE yn dal i ffynnu.

“Fel yr egluron ni yn ein Strategaeth Ryngwladol yn ddiweddar, rydym yn gweithio’n galed i sicrhau nad ydym yn colli’r cysylltiadau hanfodol hynny rydym wedi eu sefydlu gyda phartneriaid Ewropeaidd, megis yr Almaen.”

Ychwanegodd: “Mae gennym sylfaen hynod o gref o fusnesau Almeinig yng Nghymru sy’n cyflogi gweithwyr Cymreig. Roeddwn yn falch iawn bod Dr Wittig wedi cael cyfle i weld y gwaith mae Innogy yn ei wneud ar y prosiect fferm wynt alltraeth Gwynt y Môr yn eu canolfan yn Sir y Fflint ym mhorthladd Mostyn.”

Mae Gwynt y Môr yn un o’r ffermydd gwynt alltraeth masnachol mwyaf yn y byd, gyda’r gallu gosod i gynhyrchu 576 o megawatiau.

Mae cyfanswm o 160 tyrbin gwynt yn cynhyrchu digon o drydan i gyflenwi tua 400,000 o aelwydydd yn flynyddol ag ynni adnewyddadwy.

Dywedodd Dr Wittig: “Hoffwn ddiolch yn fawr i Lywodraeth Cymru am y gwahoddiad caredig.

“Gall Cymru a’r Almaen ymffrostio yn y clymau agos sydd gennym eisoes mewn llawer o feysydd – busnes, diwylliant, masnach a phobl – clymau y gallwn ymddiried ynddynt ac y gallwn eu hatgyfnerthu.

“Dylai’r ffaith hon ein hannog i oresgyn ansicrwydd y tair blynedd diwethaf – gallwn fod yn feiddgar ac yn uchelgeisiol er mwyn llunio perthynas a fydd yn parhau yn y dyfodol.

“Yr Almaen yw’r gyrchfan bwysicaf ar gyfer allforion o Gymru – gyda bron i un rhan o bump o allforion Cymreig yn mynd i’r Almaen, tra bod allforion o’r Almaen i Gymru yn werth £3.2 biliwn yn 2018.

“Gallaf weld mwy o gyfleoedd mewn llawer o sectorau – yn cynnwys ynni adnewyddadwy, cysylltiadau academaidd agosach fyth, ymchwil ar ddiwydiannau’r dyfodol a phrosiectau seilwaith ar y cyd.”

Nodiadau i olygyddion

5 peth nad oeddech chi o bosib yn ei wybod am y cysylltiadau rhwng Cymru â’r Almaen

1 - Un o bartneriaid masnachu mwyaf Cymru

Yr Almaen oedd cyrchfan ychydig dros 18 y cant o’r holl nwyddau a allforiwyd o Gymru i wledydd y tu allan i’r DU yn 2018. Roedd gwerth y nwyddau hyn ychydig mwy na £3 biliwn. Yn ôl sector cynnyrch, y categorïau mwyaf arwyddocaol oedd ‘Peirianwaith ac offer trafnidiaeth’, ‘Mwynau, tanwydd, deunyddiau iro etc.’, a ‘Nwyddau gwneuthuredig’.

2 - Cysylltiadau prifysgol

Ar ôl Tsieina, o’r Almaen y daw’r nifer mwyaf o fyfyrwyr o unrhyw wlad y tu allan i’r DU i astudio mewn prifysgol yng Nghymru. Ym mlwyddyn academaidd 2018/19, amcangyfrifir bod 680 o fyfyrwyr o’r Almaen wedi cofrestru ar eu blwyddyn gyntaf yn un o wyth prifysgol Cymru.

3 - Gefeillio trefi

Mae amryw o drefi a dinasoedd Cymru wedi gefeillio â thref neu fwrdeistref yn yr Almaen. Mae Caerdydd wedi gefeillio â mwy nag un ardal yn yr Almaen, a’r cysylltiad rhyngddi â Stuttgart a sefydlwyd gyntaf. Mae Aberystwyth wedi gefeillio â Kronberg im Taunus, Abertawe â Mannheim, Casnewydd â Heidenheim a Wrecsam ag ardal Märkischer Kreis.

4 - Mae Cymru yn denu llawer o ymwelwyr o’r Almaen

Mae’r Almaen yn cyfrannu’n sylweddol at y diwydiant Twristiaeth yng Nghymru. O ran nifer yr ymwelwyr o unrhyw wlad â Chymru, mae’r Almaen yn rhannu’r ail safle. O’r Iwerddon y daw’r nifer mwyaf. Yn ôl ffigurau diweddar, mae cyfanswm o 87,000 o ymwelwyr yn dod o’r Almaen bob blwyddyn. Mae hyn yn cynrychioli wyth y cant o’r holl ymweliadau rhyngwladol, a thua saith y cant o gyfanswm y gwariant twristiaeth.

5 - Sefydlwyd un o allforion mwyaf adnabyddus Cymru gan fewnfudwyr o’r Almaen a oedd yn hiraethu am gartref

Ivan Levinstein ac Otto Isler, a oedd wedi mewnfudo i Gymru o’r Almaen, sefydlodd cwmni Wrexham Lager ym 1881. Roedden nhw’n awyddus i ail-greu’r lager roedden nhw wedi ei fwynhau gartref – dewisodd y ddau yr ardal hon yn arbennig oherwydd ansawdd y dŵr tanddaearol ar gyfer bragu

Capsiynau:

1 - Dr Peter Wittig, Llysgennad yr Almaen i'r DU, gyda Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

2 + 3 Y Llysgennad yn ymweld â chanolfan Innogy, ym Mhorth Mostyn yn Sir y Fflint.