Cymru yn lansio ymgynghoriad ar Gynllun Dychwelyd Ernes
Wales Launches Consultation on Deposit Return Scheme
Lansiodd y Dirprwy Brif Weinidog â chyfrifoldeb am Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, ymgynghoriad Cynllun Dychwelyd Ernes sy’n cyflawni dros Gymru ar safle hanesyddol Ffatri Corona Pop ym Mhorth ar 18 Awst.
Bydd yr ymgynghoriad 12 wythnos, sy'n para tan 10 Tachwedd, yn llywio dull Cymru o weithredu cynllun sy'n cynnwys cynwysyddion diodydd gwydr ac yn blaenoriaethu ailddefnyddio dros ddulliau ailgylchu traddodiadol.
Gyda Chymru eisoes â'r ail gyfradd ailgylchu uchaf yn y byd, mae'r cynllun dychwelyd ernes hwn yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw drwy gefnogi'r newid i
ailddefnyddio, sy'n darparu llawer mwy o fanteision amgylcheddol nag ailgylchu yn unig.
Mae tystiolaeth ryngwladol yn dangos bod ailddefnyddio yn lleihau cost deunyddiau i gynhyrchwyr wrth ddarparu llwybrau clir i ddatgarboneiddio. Mae'r ymgynghoriad yn archwilio sut y gall cynnwys gwydr fynd i'r afael â sbwriel, gwella seilwaith ailgylchu wrth fynd, a chreu cyfleoedd economaidd drwy ailddefnyddio.
Mae ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid, gan gynnwys cynhadledd genedlaethol a gweithdai sector-benodol, wedi llywio datblygiad yr ymgynghoriad. Bydd y cynllun yn ategu'r polisïau amgylcheddol presennol ac yn cefnogi taith Cymru tuag at sero net.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies: "Mae Cymru bob amser wedi arwain drwy esiampl o ran gweithredu amgylcheddol, ac mae'r cynllun dychwelyd ernes yn ein cam beiddgar nesaf ymlaen.
"Roedd ymweld â'r hen Ffatri Corona Pop, a oedd ar un adeg yn ganolfan ar gyfer poteli gwydr y gellir eu hailddefnyddio, yn ein hatgoffa nad ydyn ni'n gwneud rhywbeth newydd – rydyn ni'n dychwelyd i'r gorau o'n treftadaeth ddiwydiannol wrth adeiladu dyfodol cynaliadwy.
"Drwy roi ailddefnyddio yng nghanol ein dull gweithredu, nid yn unig rydyn ni'n mynd i'r afael â gwastraff – rydyn ni hefyd yn creu model y gall gwledydd eraill ei ddilyn. Bydd y cynllun hwn yn sbarduno arloesi, yn creu swyddi gwyrdd, ac yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur ar yr un pryd.
"Rwy'n annog busnesau a'r holl randdeiliaid i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn a helpu i lunio cynllun sydd wir yn cyflawni dros Gymru."
Daw'r ymgynghoriad i ben ar 10 Tachwedd 2025. Mae'r manylion llawn ar gael yma: Cyflwyno Cynllun Ddychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd yng Nghymru | LLYW.CYMRU