Cymru yn pleidleisio dros roi diwedd ar gosbi plant yn gorfforol.
Wales votes to end the physical punishment of children
Cymru yw’r wlad ddiweddaraf i ymuno â’r grŵp dethol o tua 58 o wledydd ar draws y byd i roi diwedd ar gosbi plant yn gorfforol.
Mewn pleidlais hanesyddol heddiw (dydd Mawrth 28 Ionawr) yn y Senedd, pleidleisiodd Aelodau’r Cynulliad o 36 i 14 i gymeradwyo’r Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru).
Fe gafodd y Bil ei arwain drwy gydol y broses gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, sydd wedi bod yn ymgyrchu ers amser dros hawliau plant ac i roi diwedd ar yr arfer o gosbi plant yn gorfforol.
Disgwylir i’r gyfraith newydd ddod i rym yn 2022 ac fe fydd ymgyrch helaeth yn cael ei chynnal i godi ymwybyddiaeth ledled Cymru i roi gwybod i’r cyhoedd am y newidiadau.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: “Rwy’n falch iawn bod Cymru wedi cymryd y cam hwn, ac unwaith eto wedi rhoi hawliau plant wrth galon ein gwaith yma yng Nghymru.
“Dylai amddiffyn plant a rhoi’r cychwyn gorau iddyn nhw mewn bywyd fod yn flaenoriaeth i ni bob amser.
“Mae’r byd wedi newid, a does dim lle mewn cymdeithas fodern i gosbi plant yn gorfforol. Mae Cymru yn ymuno â’r Alban fel y rhannau cyntaf o’r Deyrnas Unedig i gyflwyno newid cadarnhaol drwy’r darn allweddol yma o ddeddfwriaeth.”
Yn ystod taith y Bil drwy’r Senedd, cafwyd cefnogaeth i egwyddorion y Bil gan amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys y Coleg Brenhinol Pediatreg, y Coleg Nyrsio Brenhinol, y Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol, Cymdeithas y Cyfarwyddwyr Addysg a phob heddlu yng Nghymru.
Fe gafodd y Bil gefnogaeth hefyd gan nifer o elusennau plant, gan gynnwys yr NSPCC, Barnardo’s Cymru, Achub y Plant, Gweithredu dros Blant a Plant yng Nghymru. Mae Comisiynydd Plant Cymru hefyd wedi croesawu’r newid i’r gyfraith.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan: “Does dim lle i gosb gorfforol yng Nghymru – does dim y fath beth â smacio cariadus a does dim cyfiawnhad i berson mawr daro person bach. Rwy’ wrth fy modd i ni bleidleisio i newid y gyfraith er mwyn helpu i amddiffyn ein plant a chenedlaethau’r dyfodol.
“Mae ymchwil annibynnol yn awgrymu bod agweddau tuag at gosbi plant yn gorfforol yn newid – roedd 81% o rieni a gwarcheidwaid plant yng Nghymru yn anghytuno bod angen smacio plentyn drwg ac mae 58% o oedolion Cymru yn credu ei bod eisoes yn erbyn y gyfraith i gosbi plant yn gorfforol.”
“Rwy’ wedi ymgyrchu ers amser am newid y gyfraith fel hyn, ac rwy’ am ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi’r ddeddfwriaeth hon dros y blynyddoedd.
“Bydd y newid i’r gyfraith yn arwain at eglurder i rieni, gweithwyr proffesiynol a phlant nad yw’n dderbyniol cosbi plentyn yn gorfforol yng Nghymru.”
Gan groesawu’r cyhoeddiad, dywedodd yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru: “Rwy’ mor falch, ac wrth fy modd bod Cymru wedi ymuno â sawl gwlad arall ar draws y byd i amddiffyn plant rhag cosb gorfforol yn yr un ffordd ag y mae oedolion yn cael eu hamddiffyn. Does byth cyfiawnhad dros daro plentyn – llongyfarchiadau i Lywodraeth Cymru ac i aelodau’r Senedd sydd wedi rhoi blaenoriaeth i hawliau plant drwy basio’r ddeddfwriaeth hon."