Cymru yn symud i lefel rhybudd dau
Wales moves to alert level two
A lefelau’r coronafeirws yn dal i fod yn isel a’r cyfraddau brechu yn parhau i fod yn well nag yn unrhyw ran arall o’r DU, bydd Prif Weinidog Cymru yn cadarnhau heddiw y bydd Cymru yn symud i lefel rhybudd dau ddydd Llun.
O ddydd Llun, Mai 17, bydd busnesau lletygarwch dan do yn cael ailagor, bydd lleoliadau adloniant dan do hefyd yn ailagor, a chaiff mwy o bobl fynd i gweithgareddau wedi’u trefnu dan do ac yn yr awyr agored.
Bydd y Prif Weinidog hefyd yn cadarnhau y bydd teithio rhyngwladol yn ailddechrau o ddydd Llun, ond caiff mesurau diogelu ychwanegol eu rhoi ar waith ar gyfer y rheini sy’n dychwelyd o rai gwledydd er mwyn atal y coronafeirws rhag dod yn ôl i mewn i Gymru.
Yn gynharach yr wythnos hon, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gymorth ariannol i fusnesau y mae cyfyngiadau’r coronafeirws yn dal i effeithio arnynt – bydd modd iddynt hawlio hyd at £25,000 yn rhagor i helpu gyda’u costau.
Hwn oedd cyhoeddiad cyntaf y llywodraeth newydd, gan arwyddo rhan gyntaf pecyn gwerth £200m sydd wedi’i neilltuo i helpu busnesau sy’n dioddef yn sgil y pandemig.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:
“Diolch i waith caled pawb a’r ymdrechion rydych chi’n dal i’w gwneud, fe allwn ni gymryd cam arall tuag at lacio cyfyngiadau’r coronafeirws a symud i lefel rhybudd dau ddydd Llun.
“Bydd modd i letygarwch dan do ailagor, cam y bydd llawer ohonon ni’n ei groesawu wrth inni edrych ymlaen at fwynhau diod, pryd o fwyd a chwmni ffrindiau a theulu mewn caffi neu dafarn.
“Drwy ddal ati i gadw’r rheolau a gweithredu ein rhaglen frechu lwyddiannus, rydyn ni’n gwneud cynnydd da iawn o ran rheoli’r feirws a chadw’r cyfraddau yn isel.
“Ond dydy’r pandemig ddim drosodd – mae’r amrywiolyn newydd o India sy’n peri pryder yn dro arall yn stori’r pandemig hwn nad oedden ni am ei weld, ac rydyn ni’n ei fonitro’n ofalus.”
Mae’r newidiadau i gyfyngiadau’r coronafeirws, a ddaw i rym ddydd Llun 17 Mai, yn cynnwys y canlynol:
- Gall lleoliadau lletygarwch dan do ailagor - gall chwe pherson o hyd at chwe aelwyd (heb gynnwys plant o dan 11 oed) archebu
- Gall pob llety gwyliau ailagor yn llawn
- Gall lleoliadau adloniant, gan gynnwys sinemâu, neuaddau bingo, alïau bowlio, canolfannau chwarae dan do, casinos, arcedau difyrion a theatrau ailagor. Gall sinemâu, theatrau, neuaddau cyngerdd a meysydd chwaraeon werthu bwyd a diod cyn belled â’i fod i’w fwyta a’i yfed wrth eistedd i wylio’r perfformiad;
- Gall atyniadau dan do i ymwelwyr ailagor, gan gynnwys amgueddfeydd ac orielau;
- Gall hyd at 30 o bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau dan do wedi’u trefnu a hyd at 50 o bobl mewn gweithgareddau awyr agored wedi’u trefnu. Mae hyn yn cynnwys derbyniadau priodas a the angladd.
Bydd teithio rhyngwladol yn ailddechrau ddydd Llun 17 Mai. Bydd system goleuadau traffig yn cael ei chyflwyno, a fydd yn cyd-fynd â’r system a fydd yn cael ei defnyddio yn Lloegr a’r Alban. Bydd gwledydd yn cael eu dosbarthu i gategorïau gwyrdd, oren a choch. Mae hyn yn golygu y gall pobl sy’n byw yng Nghymru deithio i nifer bach o gyrchfannau tramor heb orfod bod mewn cwarantin ar ôl dychwelyd. Mae cwarantin yn orfodol o hyd i’r rhai sy’n cyrraedd o wledydd nad ydynt ar y rhestr werdd.
O ddydd Llun 24 Mai ymlaen, bydd statws brechiad ar gael ar bapur i bobl yng Nghymru sydd wedi cael dau ddos o’r brechiad ac sydd angen teithio ar frys i wlad sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddangos prawf o’u brechiadau Covid.
Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gynghori pobl i beidio â theithio dramor ond pan fydd hynny’n hanfodol.
Os bydd yr amodau o ran iechyd y cyhoedd yn aros yn gadarnhaol, bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf yn ystyried y canlynol:
- Newidiadau pellach o ran cwrdd â phobl mewn cartrefi preifat;
- Cynyddu nifer y bobl a all gwrdd yn yr awyr agored a nifer y bobl a all fynd i weithgareddau a digwyddiadau wedi’u trefnu, gan gynnwys derbyniadau priodas, i 50 dan do a 100 yn yr awyr agored;
- Caniatáu i ddigwyddiadau mwy o faint gael eu cynnal dan do ac yn yr awyr agored.