English icon English
Vaughan Gething-23

Cymru yn UDA - tyfu gyda'n gilydd ar gyfer dyfodol economaidd uchelgeisiol.

Wales in the USA – growing together for ambitious economic futures.

Heddiw, bydd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, yn dechrau cyfres o sgyrsiau gydag arweinwyr busnes, arbenigwyr masnach ac entrepreneuriaid yn Atlanta a Birmingham (Alabama) i drafod sut mae polisi economaidd yr Unol Daleithiau yn creu twf mewn lleoedd sydd angen buddsoddiad a chymorth.

Cyn llofnodi Cytundeb Cyfeillgarwch Rhyngwladol gyda Dinas Birmingham, mae'r Gweinidog yn cyfarfod ag arweinwyr a busnesau rhanbarthol i hyrwyddo cryfderau economaidd Cymru a dysgu gwersi o'u cynlluniau ar gyfer twf cynhwysol.

Wrth nodi cenhadaeth Llywodraeth Cymru i helpu pobl ifanc i gynllunio dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru, bydd Gweinidog yr Economi yn hyrwyddo meysydd allweddol o gryfder gyda chysylltiadau â marchnad yr Unol Daleithiau, gan gynnwys teledu a ffilm, lled-ddargludyddion, technoleg, ynni adnewyddadwy a gweithgynhyrchu uwch.

Daw'r trafodaethau yn dilyn y newyddion ddoe bod Great Point Studios - sydd hefyd â stiwdios yn Atlanta - wedi prynu Seren Stiwdios gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd i greu cyfleusterau cynhyrchu o'r safon uchaf a chyfleoedd ar gyfer swyddi newydd yn y sector.

Bydd y Gweinidog yn siarad â'r Progressive Policy Institute mewn digwyddiad yn Atlanta ddydd Iau, gan ddod ag entrepreneuriaid, arbenigwyr masnach a swyddogion y ddinas ynghyd i rannu gwybodaeth am gefnogi twf lleol a thrafod sut mae polisi economaidd yr Unol Daleithiau yn cefnogi eu cynlluniau.

Bydd Moneypenny o Wrecsam hefyd yn croesawu’r Gweinidog yn eu hyb yn Atlanta yn dilyn cyfarfod gyda thîm Airbus yn yr Unol Daleithiau. 

Yn fuan ar ôl arwyddo Cytundeb Cyfeillgarwch Rhyngwladol newydd rhwng Cymru a Birmingham gyda Maer y ddinas Randall Woodfin, bydd y Gweinidog Vaughan Gething yn ymweld â'r Innovation Depot, uned hybu busnes ar gyfer busnesau technoleg newydd.

Wrth siarad cyn yr ymweliad, dywedodd Gweinidog yr Economi: "O'r diwydiant teledu i led-ddargludyddion, mae Cymru'n rhagori mewn marchnadoedd gyda buddsoddwyr a chleientiaid o'r Unol Daleithiau sy'n cefnogi swyddi medrus, o safon.

"Gyda'n sylfaen sgiliau gweithgynhyrchu gwych a chyfleoedd niferus ar gyfer ynni gwynt a llanw, mae Cymru mewn sefyllfa berffaith i fanteisio ar gyfleoedd sydd eisoes yn creu swyddi yma yn yr Unol Daleithiau."

"Mae ein Strategaeth Ryngwladol yn cynnig cymorth wedi'i dargedu i fanteisio ar botensial twf y sectorau hyn fel y gall mwy o bobl gynllunio dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru. Mae teithiau masnach diweddar Llywodraeth Cymru wedi arwain at fuddsoddiad newydd gan yr Unol Daleithiau yng Nghymru o'r diwydiant hapchwarae, gyda Phencadlys newydd Rocket Science i led-ddargludyddion i fuddsoddiad $100m KLA yn eu canolfan yng Nghasnewydd.

"Wrth i ni ganolbwyntio ar sicrhau gwell swyddi a lleihau'r gagendor sgiliau i fynd i'r afael â thlodi, rwy'n awyddus i ddysgu mwy am sut mae polisïau economaidd newydd yr Unol Daleithiau yn paru â thaleithiau a dinasoedd i gefnogi diwydiannau'r dyfodol mewn lleoedd sydd ei angen fwyaf.

"Mae gan Gymru gymaint i'w gynnig i'r byd gyda brand unigryw wedi'i adeiladu ar ansawdd ac uchelgais. Mae ein cryfderau allforio hirsefydlog a mwy diweddar - o awyrofod i deledu a ffilm – yn cefnogi'r sylfeini sy'n ein galluogi i agor drysau i allforwyr newydd sy'n cryfhau'r brand hwnnw wythnos ar ôl wythnos."

Yr UDA bellach yw marchnad allforio fwyaf Cymru. 

Ers 2021 mae busnesau wedi buddsoddi $ 500bn mewn gweithgynhyrchu ac ynni glân yr Unol Daleithiau, gan roi hwb i swyddi yn y meysydd sydd angen y buddsoddiad mwyaf.

Yn 2022 roedd allforion Cymru i'r Unol Daleithiau yn werth dros $4 biliwn, gan gyfrif am 20 y cant o allforion Cymru ac yn cynrychioli cynnydd o 6 y cant o'i gymharu â 2021.

Amcangyfrifir bod 320 o gwmnïau sydd â'u pencadlys yn yr Unol Daleithiau yng Nghymru, sy'n cyflogi ychydig o dan 49,000 o bobl.

Mae enghreifftiau nodedig yn cynnwys Amazon (Abertawe), GE (Nantgarw), General Dynamics (Merthyr Tudful), Kelloggs (Wrecsam), Kimberley Clark (Fflint), Meritor (Cwmbrân), Nordam Europe (Caerffili), Raytheon Systems (Sir y Fflint), KLA (Casnewydd) a Triumph Actuation Systems (Glannau Dyfrdwy).

Am y 10 mlynedd diwethaf, UDA fu mewnfuddsoddwr mwyaf Cymru yn gyson. Yn 2022-23, sicrhaodd Cymru 14 buddsoddiad o'r UDA, gan addo creu 836 o swyddi newydd a diogelu 537 o swyddi eraill.

Mae Llywodraeth Cymru yn uchelgeisiol ar gyfer y diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd yn ne Cymru a bydd yn parhau i'w ddatblygu ymhellach gyda chwmnïau mawr sy'n buddsoddi yn y clwstwr.  Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag is-adran SPTS KLA Corporation, adran sy'n darparu datrysiadau prosesu wafer i weithgynhyrchwyr dyfeisiau lled-ddargludyddion a microelectroneg, i gefnogi ei chynlluniau i ehangu gweithrediadau yng Nghasnewydd fel rhan o fuddsoddiad $100 miliwn a gyhoeddwyd eisoes gan greu 362 o swyddi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dod yn llofnodwr cynghrair o lywodraethau rhanbarthol Ewropeaidd, gan hyrwyddo twf, meithrin cydweithredu a datblygu cadwyni gwerth cryf yn y diwydiant lled-ddargludyddion. Bydd y Gweinidog yn galw am lefel newydd o uchelgais yn y DU i hybu buddsoddiad y tu hwnt i Lundain a De-ddwyrain Lloegr yn niwydiannau'r dyfodol.

Mae Rocket Science wedi cyhoeddi y bydd yn sefydlu ei stiwdio newydd yng Nghaerdydd, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol - gan greu 50 o swyddi medrus â chyflogau uchel i raddedigion a gweithwyr proffesiynol y diwydiant gemau, gan weithio'n uniongyrchol ar, a datrys rhai o'r prosiectau technegol anoddaf ar gyfer y gemau fideo mwyaf yn y byd. Sicrhawyd y prosiect mewnfuddsoddi hwn yn dilyn taith fasnach lwyddiannus o dan arweiniad Llywodraeth Cymru i'r Gynhadledd Datblygwyr Gemau yn San Francisco yn 2022.