English icon English

Cymru yw’r wlad gynta yn y DU i fynnu dyfais fonitro ar bob cwch pysgota masnachol

Wales first in UK to require all commercial fishing boats have monitoring devices

Cymru heddiw yw’r wlad gyntaf yn y DU i fynnu bod System Monitro Cychod (VMS) yn cael ei gosod ar ei holl gychod pysgota masnachol trwyddedig.

Mae eisoes gofyn ar bysgotwyr i osod dyfais o’r fath ar gychod 12m a mwy ond mae Gorchymyn yn dod i rym heddiw sy’n golygu bod cychod llai, mwy na 350 ohonyn nhw, yn gosod dyfais o’r fath.

Cychod o dan 12 metr o hyd yw tua 97% o holl gychod pysgota cofrestredig Cymru.

Bydd y VMS yn trosglwyddo lleoliad, dyddiad, amser, cyflymder a chwrs y cwch, o leiaf unwaith bob 10 munud, wrth iddo bysgota.

Mae hyn yn bwysig er mwyn cael darlun llawn a chywir o weithgarwch cychod pysgota ym Mharth Cymru, ac o gychod sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru pa le bynnag maen nhw, i reoli amgylchedd y môr a physgodfeydd yn well.

Dechreuodd ymgynghoriad yn 2019 ar ofynion cychod o dan 12m ac er mwyn cefnogi’r diwydiant pysgota, mae dyfeisiau VMS wedi’u cynnig am ddim i gychod o’r fath yng Nghymru. Ond oherwydd rheolau Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop, o heddiw, rhaid i bysgotwyr brynu eu dyfeisiau eu hunain.

Dechreuwyd eu gosod yn ddi-dâl ym mis Rhagfyr 2020 ond nid oes unrhyw waith monitro wedi cael ei wneud o gychod o dan 12m tan heddiw, pan ddaw’r ddeddfwriaeth i rym.

Mae dros 98% o gychod y categori hwn wedi cael VMS. Mae’r VMS yn cael ei gosod ar y cwch gan beiriannydd cymwys a chan ymgynghori’n llawn â’r perchennog.

Meddai’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Mae’n dda gen i mai Cymru yw’r wlad gynta’ yn y DU i fynnu fod holl gychod pysgota masnachol Cymru a chychod sy’n pysgota ym Mharth Cymru yn cael VMS.

“Rydyn ni am sicrhau bod gan Gymru ddiwydiant pysgota cynaliadwy a llewyrchus ac mae’r ddyfais yn hanfodol i allu rheoli pysgodfeydd ac amgylcheddol y môr yn effeithiol.

“Roedd rhoi’r system ar gyfer cofnodi dalfeydd cychod o dan 10m ar waith yn 2020 yn golygu bod gennym wybodaeth well am yr hyn sy’n cael ei ddal ac o gyfuno hynny â’r VMS, bydd gennym ddarlun llawnach o bysgota yng Nghymru a ble mae’n digwydd.

“Bydd yn rhoi tystiolaeth hefyd i’r diwydiant o darddiad dalfeydd ac am ardaloedd pysgota a gellir defnyddio hynny i ddatrys anghydfodau â defnyddwyr eraill y môr.

“Rydym wedi gweithio’n glos â’r diwydiant ac wedi cynnig cyllid sylweddol trwy Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop i helpu i baratoi pysgotwyr ar gyfer y gofyn newydd hwn.”