Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i warantu cyllid parhaus er mwyn i blant barhau i dderbyn prydau ysgol am ddim yn ystod pandemig y coronafeirws
Wales has become the first country in the UK to guarantee ongoing funding for children to continue to receive free school meals during the coronavirus pandemic
Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i warantu cyllid parhaus er mwyn i blant barhau i dderbyn prydau ysgol am ddim drwy gydol gwyliau’r haf fel ymateb i bandemig y coronafeirws.
Heddiw (dydd Mercher, Ebrill 22) mae’r Gweinidog Addysg Kirsty Williams wedi cadarnhau y bydd pob plentyn sy’n gymwys yn derbyn swm cyfatebol i £19.50 yr wythnos.
Gyda chefnogaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £33m ar gael i helpu awdurdodau lleol i barhau i ddarparu prydau ysgol am ddim.
Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i warantu cyllid ac arweiniad ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim nes bod ysgolion yn ailagor neu tan ddiwedd mis Awst.
Pan gyhoeddodd y Gweinidog Addysg y byddai ysgolion yn cau ar gyfer dosbarthiadau arferol ar Fawrth 18, cadarnhaodd y byddai £7m ar gael i awdurdodau lleol i ddarparu trefniadau ar gyfer prydau ysgol am ddim.
Ar ôl mis o awdurdodau lleol yn darparu prydau ysgol am ddim i gymunedau ledled Cymru, ac yn dilyn adolygiad o’r posibilrwydd o fabwysiadu cynllun talebau cenedlaethol, dywedodd y Gweinidog Addysg mai’r ffordd ymlaen i Gymru oedd i’r awdurdodau lleol benderfynu beth sy’n gweithio orau i’w cymunedau lleol.
Dywedodd y Gweinidog Addysg: “Mae gennym ni hyder yn y ffordd mae awdurdodau lleol wedi ymateb yn gyflym i’r argyfwng yma ac rydym yn ymwybodol bod y dulliau gweithredu lleol yn gweithio’n dda.
“Ar ôl ystyried a fyddai cynllun talebau cenedlaethol yn gweithio, rydym wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â’r dull hwnnw o weithredu.
“Rwy’n falch o gadarnhau y byddwn yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol, yn ariannol a thrwy gyfarwyddyd adolygedig, i ddarparu atebion lleol tra mae’r ysgolion yn parhau ar gau.
“Gallaf gadarnhau y byddwn yn darparu £33m i alluogi awdurdodau lleol i barhau â’r ddarpariaeth prydau ysgol am ddim nes bod yr ysgolion yn ailagor neu hyd at ddiwedd mis Awst.”
Mae’r cadarnhad gan y Gweinidog yn golygu mai Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i ddarparu sicrwydd parhaus i gefnogi teuluoedd yn ystod gwyliau’r ysgol dros yr haf.
Yn y cyfarwyddyd adolygedig sydd wedi’i roi i awdurdodau lleol, mae Llywodraeth Cymru yn amlinellu tri opsiwn ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim sy’n gofyn am gyn lleied â phosib o ryngweithio cymdeithasol: - Darparu talebau - Dosbarthu eitemau bwyd i deuluoedd disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim - Trosglwyddo cyllid i gyfrifon banc teuluoedd sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (taliadau BACS) Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts (Sir y Fflint), Siaradwr Addysg CLlLC: “Mae awdurdodau lleol wedi gweithredu ar frys i sicrhau bod trefniadau yn eu lle i ddarparu prydau ysgol am ddim i deuluoedd cymwys. Rydyn ni’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu pecyn ariannol sy’n golygu y bydd awdurdodau lleol yn gallu parhau i ddarparu’r gefnogaeth hon drwy gydol gwyliau’r ysgol dros yr haf neu nes bydd yr ysgolion yn ailagor.” I gael gwybod sut bydd eich cyngor lleol yn darparu prydau ysgol am ddim, defnyddiwch y swyddogaeth chwilio am god post yma: https://llyw.cymru/prydau-ysgol-am-ddim-canllawiau-coronafirws-i-ysgolion Os ydych chi’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ond nad ydych yn eu derbyn eto, cysylltwch â’ch awdurdod lleol. |