English icon English
visit2-2

Cymru’n anfon cannoedd o beiriannau anadlu i India

Hundreds of ventilators to be sent to India from Wales

Bydd cyfarpar meddygol yn cael ei anfon o Gymru i gefnogi’r ymateb rhyngwladol brys i’r pandemig coronafeirws yn India.

Mae Llywodraeth Cymru a GIG Cymru yn darparu oddeutu 600 o grynodyddion ocsigen a mwy na 300 o beiriannau anadlu a fydd yn cael eu hanfon i India yn y dyddiau nesaf.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething: “Mae COVID-19 yn fygythiad byd-eang ac felly nid yw ond yn iawn ein bod ni’n rhan o’r ymateb byd-eang, gan gefnogi cenhedloedd eraill.

“Rydym wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth India ar y gwaith logisteg ar gyfer trefnu i gludo’r cyflenwadau hyn i India a’u dosbarthu i’r ysbytai lle mae'r mwyaf o’u hangen.”

Aeth y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething a Chadeirydd cangen Cymru o Gymdeithas Prydain ar gyfer Meddygon o Dras Indiaidd (BAPIO) yr Athro Keshav Singhal i ymweld â Chanolfan Ddosbarthu Genedlaethol GIG Cymru ddydd Llun (10 Mai) i archwilio’r cyflenwadau.

Mae’r hediadau’n cael eu trefnu gan Swyddfa Dramor y Gymanwlad a Datblygu.