Cymru'n cyflwyno gofynion ynysu llymach ar gyfer pobl sy'n teithio o Ddenmarc
Wales introduces stricter isolation requirements to people travelling from Denmark
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yn cyflwyno gofynion ynysu llymach ar gyfer pobl sy'n teithio o Ddenmarc i Gymru o 4am heddiw (dydd Sadwrn 7 Tachwedd).
Bydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i unrhyw un sy'n cyrraedd i’r DU o Ddenmarc dros nos ynysu am 14 diwrnod. Bydd hyn nid yn unig yn berthnasol i'r unigolion hynny, ond i'w haelwydydd hefyd.
Mae hyn yn cyd-fynd â'r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn gweithredu pwerau mewnfudo, sy'n golygu y gwrthodir mynediad i’r DU i unrhyw un nad yw’n wladolyn Prydeinig ac unrhyw deithwyr sy’n byw ym Mhrydain sydd wedi bod yn Nenmarc neu deithio drwy’r wlad yn ystod yr 14 diwrnod diwethaf.
Cymerwyd camau brys yn dilyn adroddiadau gan awdurdodau iechyd yn Nenmarc bod achosion eang o SARS-CoV-2 wedi'u canfod ar ffermydd mincod, gyda lledaeniad dilynol feirws amrywiad minc i'r gymuned leol.
Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd:
"Mesur rhagofalus yw hwn sy'n seiliedig ar dystiolaeth gynnar gan Awdurdodau Iechyd yn Nenmarc. Drwy gymryd camau pellach nawr, cau coridorau teithio a'i gwneud yn ofynnol i unigolion a'u haelwydydd ynysu, ein nod ni yw atal risg i Gymru a'r DU rhag y straen newydd yma.
"Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cysylltu â thrigolion Cymru sydd wedi bod yn Nenmarc yn ystod yr 14 diwrnod diwethaf i egluro y byddwn yn ei gwneud yn ofynnol iddynt hwy a'u haelwydydd ynysu fel mesur rhagofalus ychwanegol.
"Mae'r mesurau hyn yn cael eu rhoi ar waith gan feddwl am ddiogelwch y cyhoedd. Mae'r rhain yn ddyddiau cynnar ac mae angen i ni fod yn ofalus iawn wrth ddysgu mwy am y sefyllfa hon sy'n datblygu.”