English icon English

Cymru’n cyhoeddi ei rhaglen frechu fwyaf erioed rhag y ffliw

Wales announces largest ever flu vaccine programme

Heddiw (24 Gorffennaf), cyhoeddodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, ymgyrch frechu fwyaf erioed Cymru rhag y ffliw. Fel rhan o’r ymgyrch hon, bydd mwy o bobl yn elwa ar y rhaglen frechu am ddim rhag y ffliw.

Mae’r posibilrwydd y bydd COVID-19 yn cylchredeg yr un pryd â’r ffliw yn golygu bod y rhaglen frechu rhag ffliw eleni yn fwy pwysig byth. Yn ogystal ag ymestyn y rhaglen, mae’n bwysig bod yr unigolion hynny sydd yn y grwpiau sy’n gymwys i gael y brechlyn yn barod, gan gynnwys unigolion dros 65 oed, merched beichiog a phobl â chyflyrau meddygol, yn cael eu brechu yn gyntaf. Bydd cynyddu nifer y gweithwyr yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol sy’n cael y brechlyn hefyd yn flaenoriaeth allweddol y tymor hwn.

Yn amodol ar gadarnhad gan Lywodraeth y DU y bydd cyflenwad ychwanegol o’r brechlyn ar gael, bydd y canlynol yn cael eu cynnwys yn y rhaglen frechu rhag y ffliw eleni -

  • Pobl sy’n rhannu cartref gydag unigolion yn y grŵp gwarchod
  • Gostwng yr oedran cymhwystra o 65 oed i unigolion dros 50 oed – bydd y rhain yn cael eu brechu mewn dull graddol

Bydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn cysylltu â’r unigolion hynny sy’n gymwys.

Bydd cyflenwadau ychwanegol o’r brechlyn ar ffurf chwistrell trwyn, sy’n cael ei gynnig i blant, yn cael eu defnyddio i sicrhau bod y nifer mwyaf posibl o blant yn cymryd rhan yn y rhaglen frechu. Cynigir y rhaglen hon i blant rhwng 2 a 3 oed a phob plentyn mewn ysgolion cynradd.

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, “Y gaeaf hwn, yn fwy nag erioed, mae angen inni ddiogelu’r unigolion mwyaf agored i niwed yn ein cymuned a pharau i ddiogelu ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Drwy gynnig y brechlyn rhag y ffliw i fwy o bobl nag erioed o’r blaen, gallwn helpu i atal pobl rhag mynd yn sâl a lleihau’r pwysau ar y GIG y gaeaf hwn. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n gymwys i gael y brechlyn i’w gael.”

Dywedodd Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru: “Dylai pawb sy’n gymwys i gael brechlyn rhag y ffliw gan y GIG deimlo’n hyderus am ei gael er mwyn diogelu eu hunain ac eraill o’u cwmpas y gaeaf hwn. Bydd y rheini sy’n gymwys yn barod, sy’n cynnwys rhai o’r unigolion mwyaf agored i niwed yn ein cymuned, yn cael eu brechu’n gyntaf. Bydd ein rhaglen, wedyn, yn cael ei chyflwyno’n raddol i unigolion dros 50 oed a phobl sy’n rhannu cartref gydag unigolion sy’n gwarchod eu hunain.”