English icon English

Cymru'n dathlu llwyddiant ysgubol yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru 2025

Wales celebrates super success at Skills Competition Wales 2025

Gan baratoi'r ffordd ar gyfer Rownd Derfynol WorldSkills UK yn ddiweddarach eleni, bydd Cystadleuaeth Sgiliau Cymru 2025 yn sbardun i bencampwyr y dyfodol.

Wrth i Gymru baratoi i gynnal rowndiau terfynol WorldSkills UK am y tro cyntaf yn ddiweddarach eleni, mae cystadleuaeth sgiliau flaenllaw wedi cychwyn calendr cystadleuol 2025 gyda chanlyniadau rhagorol.

Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru - sy'n cael ei rhedeg gan brosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru - yn sbardun i gyfranogwyr gystadlu mewn digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol fel WorldSkills UK ac International, ac EuroSkills.

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae'r prosiect yn ceisio meithrin talent a hybu rhagoriaeth ar draws sectorau sgiliau trwy gydweithio â rhwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau dan arweiniad cyflogwyr.

Yn ystod y cystadlaethau - a gynhaliwyd rhwng 21 Ionawr a 13 Chwefror - gwelwyd dros 1,000 o gynrychiolwyr o bob rhan o Gymru yn cystadlu ar draws 20 sector.

O blith yr holl dalent, cafodd 253 eu cydnabod fel y gorau yn eu maes gydag 86 medal aur, 81 arian ac 86 medal efydd wedi'u dyfarnu mewn seremoni yn Abertawe neithiwr [13 Mawrth]. Cafodd 282 o gystadleuwyr eraill gydnabyddiaeth Canmoliaeth Uchel.

Roeddent yn arddangos eu harbenigedd mewn meysydd fel y celfyddydau coginio, datblygu gwefannau, peirianneg awyrennol ac ynni adnewyddadwy, ac mewn meysydd newydd hefyd gan gynnwys ynni adnewyddadwy a gweithgynhyrchu ychwanegion.

Roedd Daisy Cullen, o Aberdulais, yn rhan o dîm a gipiodd fedal aur yn y categori Sgiliau Sero Net. Dywedodd:

"Roeddwn i'n ansicr iawn am gystadlu ar y dechrau - rydw i wastad wedi bod yn angerddol am ynni gwyrdd, ond rydw i wedi cael trafferth gyda gorbryder yn y gorffennol felly roedd cynnig fy enw yn teimlo'n frawychus. Ond roeddwn i'n gwybod y byddai'n ffordd wych o godi fy hyder, ac yn dda ar gyfer fy CV a'm profiad cyffredinol felly penderfynais fynd amdani.

"Mae ennill medal aur gyda fy nhîm yn golygu cymaint. Y fedal ddiwethaf i mi ei hennill oedd medal karate yn yr ysgol gynradd, a dwi wastad wedi teimlo'n genfigennus o'r bechgyn rygbi a phêl-droed â'u tlysau nhw. Mae ennill rhywbeth fel hyn, ar gyfer rhywbeth sy'n bwysig i fi, yn anhygoel. Rwy' mor falch o'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni gyda'n gilydd, beth bynnag fyddai'r canlyniad wedi bod."

Yn y seremoni yn Arena Abertawe, bu Gweinidog Sgiliau Llywodraeth Cymru, Jack Sargeant, yn helpu i ddosbarthu'r gwobrau i'r gorau ym mhob rhanbarth. Dywedodd:

"Mae hyfforddiant galwedigaethol yn agos at fy nghalon ac mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn cynnig cyfle gwych i bobl ifanc brofi eu hunain a datblygu eu sgiliau.

"Mae helpu pobl ifanc i gael ddyfodol addawol yn flaenoriaeth i'n llywodraeth ac mae cystadlaethau fel hyn yn eu hannog i wthio ffiniau mewn modd adeiladol.

"Wrth gyfarfod enillwyr medalau WorldSkills 2024, rwy' wedi gweld sut mae'r cystadlaethau hyn yn datblygu gyrfaoedd - rwy'n hyderus y bydd y dalent newydd hon yr un mor llwyddiannus. Llongyfarchiadau i'r holl gystadleuwyr a phob lwc i'r rhai sy'n cynrychioli Cymru yn genedlaethol a thu hwnt.

"Bydd yn anrhydedd i Gymru gynnal WorldSkills UK fis Tachwedd eleni. Rwy'n edrych ymlaen at weld y dalent anhygoel yn cael ei arddangos."

Am ragor o wybodaeth am gystadlaethau sgiliau yn eich ardal chi, chwiliwch am 'Ysbrydoli Sgiliau Cymru'.