Cymru'n pleidleisio i ddiogelu ei hanifeiliaid anwes wrth i gyfraith newydd gael ei phasio yn y Senedd
Wales votes to protect its pets as new law passes Senedd
Mae pleidlais newydd ei phasio yn y Senedd yn cyflwyno rheoliadau newydd ar gyfer gwerthu anifeiliaid anwes. Bydd y rheoliadau hefyd yn gwahardd gwerthu cŵn a chathod bach gan drydydd parti.
Mae hyn yn golygu y bydd yn drosedd i werthu ci neu gath fach nad yw'r gwerthwr wedi'i fridio ei hun o 10 Medi ymlaen. Yr hyn sy’n hollbwysig yw bod y Rheoliadau newydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r gwerthwr fod wedi bridio'r ci neu'r gath fach "ar y safle" – sy'n rhoi terfyn ar deithiau hir a niferus i'r anifeiliaid ifanc, sy'n gallu bod yn anodd iddynt . Mae hyn yn berthnasol i deithio yng Nghymru a'r tu allan iddi, yn ogystal â gwahardd cŵn a chathod bach rhag cael eu cyflwyno i Gymru, i'w gwerthu.
Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:
"Mae ein hanifeiliaid anwes yn rhoi llawer o bleser inni, yn cwblhau ein teuluoedd, ac wedi ein helpu i fynd drwy gyfyngiadau symud anodd yn ystod y pandemig.
"Hoffwn ddiolch i holl aelodau'r Senedd am bleidleisio i wahardd gwerthiant trydydd parti o gŵn a chathod bach heddiw, pobl Cymru a ymatebodd i'n hymgynghoriad o blaid gwneud i hyn ddigwydd, ac rydym yn ddiolchgar i'r elusennau, milfeddygon, gwirfoddolwyr a sefydliadau sydd wedi gweithio'n ddiflino i helpu i lunio’r gyfraith i'r hyn sydd wedi'i basio heddiw.
"Rydym yn gobeithio y bydd gwaharddiad yn annog agweddau parchus a chyfrifol tuag at bob anifail, yn rhoi mwy o dryloywder i bobl sy'n dymuno croesawu cŵn neu gathod bach i'w cartrefi o ran sut y cawsant eu bridio, ac yn grymuso Awdurdodau Lleol i weithredu os oes ganddynt bryderon ynghylch sut mae cŵn a chathod bach yn cael eu bridio a'u gwerthu."
Meddai y Prif Swyddog Milfeddygol Christianne Glossop:
"Mae'r ffordd rydyn ni'n trin anifeiliaid yn adlewyrchu gwerthoedd ein cymdeithas. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru a Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru yn gweithio ar y cyd i hyrwyddo safonau uchel a pherchnogaeth gyfrifol o ran lles anifeiliaid. Bydd y gyfraith hon nawr yn cau bylchau i ddiogelu lles ein cŵn a'n cathod bach, tra'n ein haddysgu ni i gyd am yr hyn sy'n iawn ac yn deg i'n hanifeiliaid anwes."
Daw'r Rheoliadau i rym yn llawn ar 10 Medi. Yn ystod y cyfnod hwn, caiff Canllawiau Statudol eu cyd-gynhyrchu i gefnogi gorfodaeth gan Awdurdodau Lleol a bydd yr amserlen hon hefyd yn caniatáu i werthwyr presennol yr effeithir arnynt wneud newidiadau ac ystyried model gweithredu gwahanol i liniaru unrhyw effaith bosibl.
DIWEDD