English icon English

Cymru'n symud gam yn nes at ddod â digartrefedd i ben

Wales moves a step closer to ending homelessness

Bydd ein cynlluniau uchelgeisiol i ddod â digartrefedd yng Nghymru i ben yn symud gam arall ymlaen heddiw pan fyddwn yn cyflwyno manylion allweddol y newid i bolisi a deddfwriaeth ger bron y Senedd.

Ar Ddiwrnod Digartrefedd y Byd (dydd Mawrth, 10 Hydref), bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, yn cyflwyno Papur Gwyn sy'n nodi sut bydd Llywodraeth Cymru am ddod â digartrefedd yng Nghymru i ben.

Mae diwygio cyfraith tai yn rhan allweddol o'r Rhaglen Lywodraethu (2021-2026) a'r Y Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru i ddod â phob math o ddigartrefedd yng Nghymru i ben, drwy ei wneud yn beth 'prin, byr na fydd yn cael ei ailadrodd'.

Mae'r cynigion yn canolbwyntio ar wella mesurau atal ac ar ymyriadau cynnar, trwy gyflwyno pecyn o ddiwygiadau fydd yn gweddnewid y system bresennol yng Nghymru ar gyfer ymdrin â digartrefedd a thai.

Drwy ddiwygio deddfwriaeth, dywed Llywodraeth Cymru:

  • Caiff y risg o ddigartrefedd ei hatal mor gynnar â phosibl a bydd pob rhan o'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn rhannu'r cyfrifoldeb am ganfod ac atal digartrefedd;
  • Bydd Awdurdodau Tai Lleol yn cynnig gwasanaeth sy'n rhoi'r person a'i drawma yn gyntaf ac sy'n ymateb i anghenion y rhai sy'n wynebu digartrefedd;
  • Bydd y rhai sydd fwyaf tebygol o ddioddef digartrefedd yn elwa ar gynigion pwrpasol i leihau eu risg.

Mae'r Papur Gwyn wedi'i seilio'n helaeth ar ganfyddiadau Panel Adolygu Arbenigol Annibynnol y gofynnwyd iddynt adolygu'r ddeddfwriaeth bresennol a gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru.  Fel rhan o'r adolygiad hwn, mae dros 350 o bobl sydd â phrofiad byw o fod yn ddigartref wedi rhannu eu barn i helpu i ddatblygu'r cynigion.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: "Dylai fod gan bawb yng Nghymru rywle i'w alw'n gartref, a heddiw rydyn ni'n nodi pennod newydd i helpu pobl i aros yn eu cartrefi a rhwystro pawb yng Nghymru rhag profi digartrefedd."

"Hoffwn ddiolch i'r Panel Adolygu Arbenigol am ei adroddiad sydd wedi'n helpu i lunio ein Papur Gwyn. Bydd ei argymhellion wir yn helpu i ddod â ddigartrefedd i ben yma yng Nghymru.

"Rwyf hefyd am ddiolch i'r mwy na 350 o bobl sydd wedi rhannu'u profiadau gan ein helpu i lunio ein diwygiadau a sicrhau eu bod yn seiliedig ar realiti digartrefedd.

"Mae'r Papur Gwyn hwn yn gweithredu ar ein barn nad mater tai yn unig yw digartrefedd. 

"Mae'n cyflwyno cynllun radical ac uchelgeisiol i sicrhau bod yr holl wasanaethau'n gweithio gyda'i gilydd i ganfod risg digartrefedd yn fuan ac yn cymryd camau i'w atal rhag digwydd. 

"I'r rhai sy'n parhau mewn perygl, bydd gwasanaethau'n cael eu cyd-drefnu i sicrhau bod y cymorth iawn yn cael ei ddarparu gan y bobl iawn ar yr adeg iawn.

Dywedodd yr Aelod Dynodedig Siân Gwenllian: "Mae'r Papur Gwyn hwn yn nodi cynigion newydd i ddod â digartrefedd i ben fel bod gan bawb le i'w alw'n gartref ac na chaiff neb byth ei hun yn ddigartref.

"Rydym wedi ymrwymo i ddiwygio'r gyfraith a newid ein ffyrdd o weithio er mwyn gwneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl gan wella'r ffordd rydym yn helpu'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas."

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cymorth Pobl, Nick Taylor, “Mae’n dda gweld y Papur Gwyn yn cael ei gyflwyno gerbron y Senedd heddiw ar Ddiwrnod Digartrefedd y Byd. Fel y darparwr gwasanaethau cymorth mwyaf yng Nghymru i bobl ddigartref a’r rheini sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, mae Pobl yn cefnogi gwaith aml-asiantaethol gyda ffocws ar atal trawma i sicrhau bod cymorth yn cael i roi ar y cyfle cyntaf.

DIWEDD