English icon English

Cymru'n symud i wahardd rasio milgwn

Wales moves to ban greyhound racing

Heddiw [dydd Mawrth, 18 Chwefror] dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies mai nawr yw’r adeg gywir i symud i wahardd rasio milgwn yng Nghymru.

Mewn datganiad yn y Senedd heddiw, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog: "Rwy’n falch o rannu gyda’r Senedd heddiw fy mod wedi gweld cryfder y teimladau ar hyn, ac rwyf wedi gwrando.

“Mae'r mater wedi cael ei drafod yn y Senedd ac, fel y dangoswyd yr wythnos diwethaf, mae ganddo gefnogaeth drawsbleidiol glir.

"Daeth dros 1100 o ymatebion i law i'n hymgynghoriad ar fodel cenedlaethol ar gyfer lles anifeiliaid, a oedd yn cynnwys cwestiynau yn ymwneud â milgwn. Yn yr ymgynghoriad hwnnw, canfu'r cwestiwn a oedd yn gofyn am dystiolaeth a barn ar waharddiad graddol fod bron i ddwy ran o dair o'r ymatebwyr o blaid gwaharddiad o'r fath.

“Roedd dros 35,000 o bobl wedi llofnodi deiseb i wahardd rasio milgwn yng Nghymru.

“Mae hyn yn cyd-fynd â gwaith ymgyrchu gan "Cut the Chase", sy'n cynnwys y Blue Cross, Dogs Trust, Greyhound Rescue Wales, Hope Rescue, a'r RSPCA,

“Rydym hefyd yn nodi’r hyn sy’n digwydd mewn gwledydd eraill ar draws y byd sy’n cymryd camau i wahardd y gweithgaredd hwn.

“O ganlyniad, rwy’n credu mai nawr yw’r adeg gywir i gynnig gwahardd rasio milgwn yng Nghymru.

“Rydyn ni’n falch o fod y genedl gyntaf yn y DU i wneud hyn.

"Rydw i eisiau i waharddiad ddod i rym cyn gynted â phosib. Bydd gwaith i'w wneud i sicrhau bod y cŵn, eu perchnogion, a'r rhai sy'n ymwneud â'r diwydiant o amgylch y trac rasio, yn gallu dechrau rhoi’r gorau i’r gweithgaredd hwn gan barhau i ddiogelu lles cŵn sydd ar hyn o bryd yn y diwydiant, y gymuned leol a'r economi leol."

Y cam nesaf fydd sefydlu Grŵp Gweithredu. Bydd y Grŵp yn ymgysylltu â rhanddeiliaid, yn dysgu o ddulliau gwledydd eraill, fel Seland Newydd lle mae'r llywodraeth yn cyflwyno Bil i roi terfyn ar rasio milgwn, ac yn cynghori'r Llywodraeth ar sut y bydd gwaharddiad yn dod i rym, y dull deddfwriaethol, a phryd y bydd yn cael ei gyflawni.