Cymru’n troi’r pedalau tuag at Grand Départ y Tour de France

Wales' cycling tourism gets a Grand Départ with £4.5m investment

  • Bydd buddsoddiad o £4.5 miliwn yn helpu i roi hwb i dwristiaeth feicio ledled Cymru cyn Grand Départ y Tour de France yn 2027, gan ddenu mwy o ymwelwyr, cefnogi busnesau lleol a chreu etifeddiaeth barhaol i feicio
  • Mae 54 o brosiectau wedi cael cyfran o £3.19 miliwn i wella cyfleusterau a seilwaith beicio, gan gynnwys hybiau beicio, cynlluniau llogi beiciau, llwybrau a mannau gwefru ar gyfer e-feiciau
  • Bydd Cronfa Croeso i Feicwyr: Busnes yn Barod gwerth £1.3 miliwn yn helpu busnesau a sefydliadau cymunedol i fod yn fwy croesawgar i feicwyr a manteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil mwy o ymwelwyr

Mae Cymru yn paratoi i groesawu Grand Départ y Tour de France yn 2027, gyda buddsoddiad o £4.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru i roi hwb i dwristiaeth feicio, denu ymwelwyr a chefnogi economïau lleol.

Mae'r buddsoddiad yn cynnwys £3.19 miliwn ar gyfer 54 o brosiectau llwyddiannus drwy raglen Croeso i Feicwyr. Bydd y prosiectau'n gwella cyfleusterau a seilwaith beicio, gan helpu ymwelwyr i ddarganfod llwybrau newydd, ymweld ag atyniadau lleol a manteisio i'r eithaf ar yr hyn sydd gan gymunedau Cymru i'w gynnig.

Bydd £1.3 miliwn pellach yn cefnogi Cronfa Croeso i Feicwyr: Busnes yn Barod, gan helpu busnesau a sefydliadau cymunedol i fod yn fwy croesawgar i feicwyr.

O gysylltiadau beicio ar arfordir Môn i ddringfeydd heriol y de, nod y buddsoddiad yw sicrhau y bydd manteision y Tour de France yn para ymhell ar ôl i'r ras ddod i ben.

Ymhlith y prosiectau sy’n elwa:

Yng Ngogledd Cymru, bydd £100,000 yn cefnogi Llwybr Beicio Arfordirol Porth Môn yng Nghaergybi, gan wella cysylltiadau beicio o un o brif byrth Cymru. Bydd y prosiect, sy’n cael ei gyflawni gan Gyngor Sir Ynys Môn, yn ei gwneud yn haws i drigolion ac ymwelwyr archwilio arfordir, cymunedau ac atyniadau’r ynys ar gefn beic, gan greu mwy o gyfleoedd i fusnesau twristiaeth lleol.

Yng Nghanolbarth Cymru, bydd £100,000 yn creu rhwydwaith o hybiau beicio yn y Trallwng, y Drenewydd, Machynlleth, Llandrindod a Llanfyllin. Bydd prosiect Hybiau Beicio Gogledd Powys, a gyflwynir gan Gyngor Sir Powys, yn darparu parcio beiciau, gorsafoedd atgyweirio, cyfleusterau golchi beiciau, mannau gwefru i e-feiciau a gwybodaeth i ymwelwyr. Bydd yr hybiau yn helpu beicwyr i ddarganfod atyniadau cyfagos, gan gynnwys Castell Powis a’r Amgueddfa Feicio Genedlaethol, ac yn annog ymwelwyr i archwilio cymunedau lleol a gwario ynddynt.

Yn Ne Cymru, bydd beicwyr yn gallu dilyn olion y Tour de France drwy Gylchdaith Brenin y Mynyddoedd. Gyda chefnogaeth o £64,800 drwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae’r prosiect yn cael ei ysbrydoli gan gystadleuaeth ddringo enwog y Tour de France. Bydd marcwyr dwyieithog yn cael eu gosod ar nifer o ddringfeydd heriol, gan gynnwys Epynt, Rhigos, Penrhys a Maerdy. Bydd y gylchdaith yn annog selogion beicio i herio’u hunain ar y dringfeydd hyn, gan roi mwy o resymau i ymwelwyr aros yn hirach ac archwilio’r cymunedau cyfagos.

Bydd busnesau a sefydliadau cymunedol hefyd yn gallu paratoi ar gyfer croesawu mwy o feicwyr drwy Gronfa Croeso i Feicwyr: Busnes yn Barod gwerth £1.3 miliwn.

Bydd y gronfa, a gaiff ei darparu drwy awdurdodau lleol, yn helpu caffis, tafarndai, bwytai, darparwyr llety, atyniadau i ymwelwyr a sefydliadau cymunedol i wneud gwelliannau megis darparu parcio beiciau, mannau gwefru i e-feiciau a chyfleusterau atgyweirio.

Bydd y cymorth yn helpu busnesau i groesawu mwy o feicwyr a manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil Grand Départ y Tour de France. Bydd manylion am y broses ymgeisio ar gael drwy awdurdodau lleol maes o law.

Daw’r buddsoddiad wrth i Gymru baratoi i groesawu Grand Départ y Tour de France yn 2027. Bydd Croeso Cymru hefyd yn nodi 2027 fel Blwyddyn Beicio.

Bydd ymgyrch flaenllaw, offeryn mapio rhyngweithiol arloesol a fydd yn dod â llwybrau beicio a chyrchfannau o safon ryngwladol ynghyd, ynghyd â phrosiectau sy’n gweithio gyda busnesau a chymunedau, yn helpu i arddangos Cymru fel cyrchfan beicio ac yn annog ymwelwyr i weld mwy o’r wlad ar ddwy olwyn.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price:

“Mae Grand Départ y Tour de France yn gyfle unigryw i Gymru.

“Wrth i ni baratoi i groesawu ras feicio fwyaf y byd, rydym yn buddsoddi mewn cyfleusterau a phrofiadau a fydd yn annog mwy o bobl i archwilio Cymru ar ddwy olwyn, gan helpu busnesau lleol i elwa ar dwf twristiaeth feicio.

“O lwybrau arfordirol a hybiau beicio cymunedol i rai o ddringfeydd mwyaf heriol Cymru, bydd y prosiectau hyn yn helpu i droi cyffro’r Tour yn gyfleoedd parhaol i gymunedau ledled y wlad.

“Rydym am i’r manteision bara ymhell ar ôl i’r ras ddod i ben, gan greu etifeddiaeth barhaol i dwristiaeth, chwaraeon a’r economi yng Nghymru.”

Nodiadau i olygyddion

Mae’r prosiectau sydd wedi’u hariannu drwy raglen Croeso i Feicwyr yn cynnwys:

  • Cyngor Bro Morgannwg – Hyb Llogi Beiciau i Deuluoedd Parc Gwledig Porthceri (£17,620)
  • Cyngor Sir Fynwy – Croesawu Beicwyr i Atyniadau Diwylliannol a Hamdden Sir Fynwy (£40,830)
  • Cyngor Bro Morgannwg – Rhaglen Seilwaith i Ymwelwyr sy’n Beicio ym Mro Morgannwg (£51,360)
  • Cyngor Sir Powys – Hybiau Beicio Gogledd Powys (£100,000)
  • Cyngor Sir Powys – Prosiect Hybiau Beicio De Powys (£100,000)
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr – Gorsaf Ail-lenwi Dŵr Hyb Beicio Bryngarw (£4,210)
  • Cyngor Sir Powys – Hybiau Beicio Cysylltiedig y Trallwng a Beiciau Pola (£44,950)
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri – Gwella Seilwaith Beicio yn Eryri (£48,758)
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful – Taith Taf Merthyr: Y Ddringfa (£78,212)
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr – Loceri Llogi Beiciau Porthcawl (£50,125)
  • Cyngor Bro Morgannwg – Llogi Beiciau Ynys y Barri (£52,544)
  • Cyngor Sir Caerfyrddin – Cyrchfan Feicio Amgueddfa Sir Gaerfyrddin a Pharc yr Esgob (£24,648)
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri – Llwybr y Mawddach: Gwella’r Profiad Beicio (£25,032)
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – Gwelliannau i Barcio Beiciau yng Ngerddi Bodnant (£3,884)
  • Cyngor Caerdydd – Gorsafoedd Gwefru E-feiciau (£32,000)
  • Cyngor Caerdydd – Loceri Beiciau Diogel (£90,000)
  • Cyngor Caerdydd – Gorsafoedd Cynnal a Chadw Beiciau (£28,000)
  • Cyngor Abertawe – Rhwydwaith Croesawu Beicwyr Bae Abertawe (£32,000)
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog – Cylchdaith Brenin y Mynyddoedd (£64,800)
  • Cyngor Sir Fynwy – Diweddaru Arwyddion y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol a Chysylltiadau Canol Tref ledled y Sir (£81,770)
  • Cyngor Gwynedd – O’r Mynydd i’r Môr (£86,848)
  • Cyngor Gwynedd – O’r Llechi i’r Lli (£77,952)
  • Cyngor Caerdydd – Arwyddion Cyfeirio i Feicwyr (£64,000)
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr – Gorsafoedd Atgyweirio BC Bike (£32,460)
  • Cyngor Sir Caerfyrddin – Hyb Beicio Nantgaredig (£80,000)
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili – Croeso i Gaerffili: Seilwaith Beicio Canol Tref (£100,000)
  • Cyngor Sir Caerfyrddin – Rhwydwaith Beicgwyliau Cynaliadwy Sir Gaerfyrddin (£100,000)
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen – Pont-y-pŵl: Y Porth Beicio Cyswllt (£100,000)
  • Cyngor Caerdydd – Arwyddion Croeso ar Ffiniau (£100,000)
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr – Loceri Llogi Beiciau Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr (£50,125)
  • Cyngor Bro Morgannwg – Hybiau Croeso i Feicwyr Bro Morgannwg (£32,000
  • Cyngor Sir y Fflint – Gweld Golygfeydd a Beicio: Parc Arfordir Sir y Fflint (£22,340)
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful – Merthyr yn Symud: Canol y Dref a Safleoedd Darganfod (£80,720)
  • Cyngor Dinas Casnewydd – Tŷ Tredegar (£14,814)
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot – Beicio, Gorffwys ac Ailwefru: Hybiau Croeso Beicio CNPT (£80,000)
  • Cyngor Sir Caerfyrddin – Gwelliannau Beicio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Sir Gaerfyrddin (£15,880)
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri – Gwefru’r Goedwig / E-feiciau Betws-y-Coed (£48,792)
  • Cyngor Caerdydd – Beiciau Cludo Trydan (£40,000)
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili – Croeso i Gaerffili: Tirnodau ac Arwyddion Beicio (£81,200)
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog – Llinell Govilon ar gyfer Beicio (£80,000)
  • Cyngor Sir Ceredigion – Cyfleusterau Trac Pwmp Llanbedr Pont Steffan (£22,380)
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf – Dyffrynnoedd Mawr Cymru: Gorsafoedd Beicio a Hybiau Ymwelwyr (£36,400)
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog – Taith Taf (£33,600)
  • Cyngor Sir Ceredigion – Gwelliannau i Lwybr Ystwyth (£100,000)
  • Cyngor Sir Ynys Môn – Gwelliannau i Lwybr Beicio Arfordirol Porth Môn Caergybi (£100,000)
  • Cyngor Bro Morgannwg – O’r Orsaf i’r Gyrchfan (£60,000)
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent – Llwybr Beicio Glan Llyn ym Mharc Bryn Bach (£59,784)
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili – Beicio Caerffili: Cyrchfannau Cysylltiedig, Cyfeirio a Seilwaith i Ymwelwyr (£99,975)
  • Cyngor Sir Penfro – Darganfod Sir Benfro ar Feic: Profiad Twristiaeth Feicio Cysylltiedig (£80,000)
  • Cyngor Abertawe – Canolfan Feicio Maes Awyr Abertawe (£80,000)
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog – Twnnel Ashford: Llwybr Mwy Diogel (£80,000)
  • Cyngor Sir Ynys Môn – Cysylltu Pobl, Lleoedd a Phrofiadau (£79,664)
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent – Rhwydwaith Cynaliadwy o Fannau Gwefru E-feiciau Solar i Flaenau Gwent (£68,000)
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – Llanrwst Agored (£36,720)