Cynllun ariannu'r UE o ran Iechyd Digidol ar agor ar gyfer ceisiadau o Gymru
Digital health EU funding scheme open for Welsh applications
Cyhoeddodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price, y bydd cwmnïau a sefydliadau o Gymru yn gallu cael mynediad at gyllid ymchwil a datblygu wrth i Gymru ddod yn bartner rhanbarthol gyda chynllun mawr gan yr UE.
Mae Cymru wedi ymuno â phrosiect UNITE, Dyffrynnoedd Iechyd Digidol Ewrop, a grëwyd i bontio'r gagendor iechyd digidol yn Ewrop a thrawsnewid gofal iechyd drwy arloesi mewn technoleg.
Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan raglen Horizon Ewrop yr UE ac mae'n dod â rhanbarthau Ewropeaidd at ei gilydd i adeiladu ecosystem gysylltiedig ar gyfer iechyd digidol, gan alluogi gwaith datblygu, profi ac ehangu datrysiadau gofal iechyd arloesol.
Dyma'r grant cyntaf o'r UE y mae Llywodraeth Cymru wedi'i sicrhau ers Brexit – gyda Llywodraeth Cymru yn derbyn cyllid o fwy na £700,000 i gefnogi cyfranogiad yn y cynllun, gan sicrhau bod sefydliadau Cymru yn gallu cymryd rhan lawn mewn cyfleoedd partneriaeth a chyllid newydd.
Mae busnesau bach a chanolig, byrddau iechyd, prifysgolion a chyrff arloesi yng Nghymru yn cael eu hannog i ymgysylltu'n gynnar, datblygu partneriaethau a pharatoi syniadau prosiect sy'n cyd-fynd â heriau gofal iechyd allweddol.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price:
“Mae sbarduno twf economaidd sy'n cael ei arwain gan arloesi, cryfhau partneriaethau rhyngwladol Cymru, a sicrhau bod technolegau newydd yn darparu manteision diriaethol i wasanaethau cyhoeddus a busnesau ledled Cymru yn gonglfeini allweddol ein cenhadaeth cynhyrchiant economaidd newydd.
“Bydd y fenter fawr hon yn cyflawni ar yr holl agweddau hynny, gyda ffocws ar fynd i'r afael â heriau gofal iechyd cyffredin, fel anghenion poblogaethau sy'n heneiddio a phwysau ar y gweithlu drwy gysylltu'r byd diwydiant, darparwyr gofal iechyd, y byd academaidd a'r sector cyhoeddus.
“Fel un o'r rhanbarthau sydd ymhlith partneriaid UNITE, bydd Cymru'n chwarae rhan ganolog wrth lunio ecosystem newydd ar gyfer arloesi ym maes iechyd digidol ac yn cael mynediad at rwydwaith o ranbarthau iechyd digidol Ewrop, gan gynnig cyfleoedd newydd i'n sefydliadau sector mwyaf arloesol gydweithio'n rhyngwladol a chael gafael ar gyllid.
“Yn hollbwysig, bydd hyn yn cefnogi'r gwaith o fabwysiadu atebion arloesol ar gyfer GIG Cymru, gan gryfhau safle Cymru yn y farchnad fyd-eang ar gyfer iechyd digidol.”
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am raglen UNITE drwy gofrestru yma ar gyfer gweminar am ddim ar 3 Medi 2026 11am-12pm.
Neu, ffoniwch Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu ewch i Busnes Cymru
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd eraill yn rhaglen Horizon Ewrop drwy e-bostio HorizonEurope@llyw.cymru