English icon English
Polytag Comp Blurred-2

Cynllun dychwelyd ernes digidol newydd ar gyfer poteli plastig i’w dreialu i gartrefi yn sir Conwy.

New digital deposit return scheme for plastic bottles to be trialled at households in Conwy county

Bydd trigolion tref yng Ngogledd Cymru yn cymryd rhan cyn bo hir mewn rhaglen beilot ar gyfer dull digidol newydd o olrhain ailgylchi, gan helpu Cymru ar y daith o fod yn economi ddi-wastraff, gylchol. 

Mae Llywodraeth Cymru yn ymuno â Polytag Ltd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a WRAP i dreialu cynllun dychwelyd ernes newydd yn Colwyn Heights, Conwy.

Bydd y treialon pedair wythnos – y cyntaf o’u bath yng Nghymru – yn cynnwys nifer o gartrefi yn yr ardal, ac mae i ddechrau yn y gwanwyn. 

Bydd trigolion yn derbyn cyfres o boteli wedi’u tagio gan Polytag, a byddant yn eu sganio wrth eu rhoi yn eu cynwysyddion ailgylchu, gan ddefnyddio ap am ddim. 

Bydd y poteli hefyd yn cael eu sganio wrth eu casgu gan dîm ailgylchu gwastraff cartref Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. 

Am bob potel sy’n cael ei sganio ar bob pen o broses y Cynllun Dychwelyd Ernes, bydd preswylwyr yn derbyn tocyn digidol – a phob tocyn werth 20c yr un.  

Yna caiff y tocynnau eu rhoi i godi arian i Ysgol Pen y Bryn, yr ysgol gynradd leol.

Mae Cynlluniau Dychwelyd Ernes digidol yn caniatáu i awdurdodau lleol, brandiau a rheoleiddwyr fonitro cyfraddau ailgylchu, fel y gallant ddadansoddi arferion aelwydydd. 

Mae canolfan Polytag ar Lannau Dyfrdwy, Gogledd Cymru, ac mae eisoes wedi gweld llwyddiant y dechnoleg yn dilyn treialon ym mhentref Greasby yn y Wirral, mewn partneriaeth ag Ecosurety, ble y cafodd 91% o’r pecynnu wedi ei dagio ei ailgylchu yn llwyddiannus.

Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Dwi’n falch iawn o weld bod treialon y cynllun dychwelyd ernes digidol newydd yn digwydd yn y gwanwyn, a hoffwn ddiolch i bob partner – gan gynnwys Polytag, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a WRAP – am y gwaith y maent wedi ei wneud nid yn unig i sicrhau y gall y treialon ddigwydd, ond hefyd i sicrhau eu bod yn cael eu cynnal yn ddiogel ac yn unol â chanllawiau Covid-19. 

“Bydd mesurau fel y rhain yn caniatáu system mwy hyblyg i ddefnyddwyr na gorofod dychwelyd eitemau megis poteli neu y cynwysyddion eu hunain, a bydd yn cysylltu’n dda gyda seilwaith presennol y systemau casglu deunydd ailgylchu o gartrefi gan yr awdurdodau lleol. 

“Trwy fanteisio ar y technolegau newydd, gallwn symud yn nes at ein llwybr tuag at economi gylchol – a dwi’n edrych ymlaen at weld canlyniadau’r treialon unwaith y byddan nhw wedi digwydd.” 

Meddai Phil Sutton, sylfaenydd Polytag a’r Prif Swyddog Technoleg: “Rydyn ni’n falch iawn bod technoleg Polytag wedi ei gynabod gan lywodraeth genedlaethol fel ateb i wella cyfraddau ailgylchu yn gyflymach.  

“Rydyn ni’n hyderus y bydd Polytag yn cael ei gynnwys yn rhwydd o fewn casgliadau gwastraff presennol, a bydd defnyddwyr yn gweld y manteision ar unwaith – fedrwn ni ddim aros i’r rhaglen beilot ddechrau!”

Ychwanegodd Emma Hallett o WRAP Cymru: “Rydyn ni’n teimlo’n gyffrous iawn i fod yn rhan o’r cynllun peilot arloesol hwn, ac yn awyddus i ddeall sut y gall technoleg ddigidol helpu inni adeiladu ar lwyddiant Cymru yn y maes ailgylchu.” 

Meddai y Cynghorydd Greg Robbins, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant:  “Rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan o’r cynllun peilot hwn ar gyfer ailgylchu.  Mae’n gyfle cyffrous i ddefnyddio technoleg i olrhain a gwneud y gorau o ddeunyddiau ailgylchu wrth godi arian i’r ysgol leol.” 

Diwedd