Cynllun Dychwelyd Ernes sy’n cyflawni dros Gymru
A Deposit Return Scheme that delivers for Wales
Heddiw, cadarnhaodd y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies y bydd Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen â Chynllun Dychwelyd Ernes sy’n cyflawni dros Gymru.
Cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd y penderfyniad mewn datganiad ysgrifenedig.
Eglurodd fod materion wedi cael eu hachosi gan Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, ‘a etifeddodd Llywodraeth y DU’ gan y weinyddiaeth flaenorol.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies: “Gyda Chymru eisoes yn ail yn y byd am ailgylchu, mae'n ein rhoi mewn sefyllfa unigryw o roi cynllun ar waith mewn gwlad sydd eisoes â chyfraddau ailgylchu uchel.
“Mae hynny'n golygu bod datblygu Cynllun Dychwelyd Ernes a fydd yn sicrhau budd i Gymru yn gofyn am ddull sy'n edrych ar Mwy Nag Ailgylchu; un a fydd yn cefnogi Cymru i adeiladu ar ein cynnydd hyd yma a chymryd y cam nesaf drwy gefnogi'r newid i ailddefnyddio.
“Gan gydnabod yr ymdrech y mae pawb ledled Cymru wedi'i wneud i sicrhau ein cynnydd o ran ailgylchu, mae hefyd yn golygu ei bod yn hanfodol y bydd cyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes yn adeiladu ar y cynnydd y mae pawb wedi gweithio mor galed i'w gyflawni, ac na fydd yn tynnu oddi wrtho.”
Mae’r datganiad ysgrifenedig yn mynd ymlaen i esbonio’r sail resymegol dros y penderfyniad heddiw.
“Mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU a Llywodraethau Datganoledig, rydym wedi bod yn gweithio i gychwyn proses ar y cyd i benodi'r Sefydliad Rheoli Ernes ar gyfer ein cynlluniau priodol yn ddiweddarach y mis hwn,” meddai’r Dirprwy Brif Weinidog.
“Fodd bynnag, yn yr amser sydd ar gael, ni fu'n bosibl mynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud â gweithredu datganoli a achoswyd gan Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, a etifeddodd Llywodraeth y DU gan y weinyddiaeth flaenorol.
“Yn anffodus, mae hyn yn golygu na allwn fwrw ymlaen â'r broses ar y cyd na hysbysu Sefydliad Masnach y Byd mewn perthynas â'r cynllun ar hyn o bryd. ”
Ailadroddodd y Dirprwy Brif Weinidog ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno “Cynllun Dychwelyd Ernes ar gyfer Cymru, gan gefnogi proses bontio’r wlad i economi gylchol.
“Mae ein gwaith ymgysylltu gweithredol â'r diwydiant wedi tynnu sylw at y ffaith bod amrywiaeth o safbwyntiau ar hyn o bryd ynghylch y ffordd orau o sicrhau'r newid i ailddefnyddio,” meddai.
“Felly, byddwn yn parhau â'n gwaith ymgysylltu gweithredol i ddatblygu cynllun sy'n cefnogi'r newid i ailddefnyddio ar gyfer yr holl gynwysyddion diodydd, gan gynnwys y rhai a wneir o wydr.
“Wrth wneud hynny, byddwn hefyd yn parhau i ddysgu o arferion gorau rhyngwladol.
“Ochr yn ochr â gwaith datblygu Cynllun Dychwelyd Ernes Cymru, byddwn hefyd yn parhau â'n gwaith i wella ein hailgylchu, ar ôl gweld cynnydd unwaith eto yn ein cyfraddau ailgylchu diweddaraf eleni.
DIWEDD