Cynllun £1.55miliwn i helpu i blannu mwy o goed ar agor i geisiadau
£1.55m scheme to help plant more trees opens for application
Mae cynllun buddsoddi cyfalaf gwerth £1.55 miliwn i helpu i gynyddu capasiti yn y sector coedwigaeth i blannu mwy o goed a chyfrannu at adferiad gwyrdd ar agor i geisiadau.
Mae Cynllun Adfer y Diwydiant Coedwigaeth, fel rhan o’r Rhaglen Goedwigaeth Genedlaethol, ar agor i geisiadau oddi wrth fentrau sy’n ymwneud â chynaeafu coed yn gynaliadwy yng Nghymru a/neu dyfu coed yng Nghymru i’w plannu yng Nghymru.
Un o nodau allweddol y cynllun hwn yw gwella capasiti meithrinfeydd coed i gyflenwi coed. Bydd cymorth hefyd ar gael ar gyfer:
- cyfarpar paratoi’r tir;
- cyfarpar ar gyfer gwaith diogelwch ar goed y mae clefyd (Chalara) coed ynn yn effeithio arnynt; a
- chyfarpar neu dechnoleg briodol sy’n helpu i gynaeafu pren sy’n gwella’r ffordd y caiff coedwigoedd eu rheoli’n gynaliadwy a chydnerthedd o ran adnoddau naturiol.
Bydd prosiectau cymwys yn gallu manteisio ar grant sengl gwerth uchafswm o 200,000 Ewro. Bydd y cynllun ar agor i geisiadau tan 18 Hydref 2020.
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Rwy’n ymrwymedig i gynyddu faint o goetir sy’n cael ei greu yng Nghymru.
“I gyflawni hyn, bydd angen i Lywodraeth Cymru ddarparu’r cymorth cywir ar gyfer plannu coed, ond bydd sicrhau sector coedwigaeth cadarn sy’n tyfu yng Nghymru hefyd yn hanfodol.
“Er bod y sector yn gyffredinol wedi profi ei gadernid yn ystod argyfwng Covid-19, rwy’n gwerthfawrogi bod y pandemig wedi bod yn her i lawer o gontractwyr a busnesau yn y diwydiant coedwigaeth, gan gynnwys y sector meithrinfeydd coed.
“Bydd Cynllun Adfer y Diwydiant Coedwigaeth yn chwarae rôl bwysig o ran helpu i gynyddu capasiti’r sector i blannu mwy o goed ac mae bellach ar agor i geisiadau. Bydd y cyllid hwn yn galluogi ein sector coedwigaeth i gyfrannu at adferiad gwyrdd a nodau hirdymor ein Rhaglen Goedwigaeth Genedlaethol.”
DIWEDD