Cynllun grant ar gyfer arloesi a thechnoleg yn agor i sefydliadau yng Nghymru
Grant scheme for innovation and technology opens for Welsh organisations
- Gall sefydliadau wneud cais am grantiau o £50,000 i £250,000 i fuddsoddi mewn offer a thechnoleg newydd
- Bydd y cyllid yn helpu sefydliadau i hybu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd, cefnogi twf hirdymor, ac annog prosiectau economi gylchol sy'n effeithlon o ran adnoddau
- Mae ceisiadau nawr ar agor ac yn cau am 11:59pm ar 25 Medi 2026
Mae ceisiadau bellach ar agor am y rownd ddiweddaraf o gyllid SMART i helpu sefydliadau ledled Cymru i fuddsoddi mewn offer a thechnoleg newydd.
Mae'r rownd ariannu yn agored i fusnesau, prifysgolion, sefydliadau ymchwil, colegau addysg bellach, sefydliadau'r trydydd sector a Byrddau Iechyd y GIG sy'n gweithredu yng Nghymru.
Ers ei lansio yn 2023, mae Cymorth Arloesi Hyblyg SMART (SFIS) wedi cefnogi 171 o sefydliadau ledled Cymru, gan ddarparu mwy na £20.1 miliwn o gyllid hyd yma.
Mae'r cyllid wedi helpu sefydliadau i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd; gwella'r ffordd maen nhw'n gweithio a thyfu eu busnesau. Mae hefyd wedi dod â busnesau, prifysgolion a phartneriaid yn y sector cyhoeddus at ei gilydd i droi syniadau newydd yn fanteision ymarferol i bobl a chymunedau ledled Cymru.
Mae rownd ddiweddaraf Cronfa Offer Cyfalaf Cymorth Arloesi Hyblyg (SFIS) SMART yn cynnig grantiau rhwng £50,000 a £250,000 i helpu sefydliadau i weithio'n fwy effeithlon a chynyddu cynhyrchiant. Anogir hefyd brosiectau sy'n lleihau gwastraff, ailddefnyddio deunyddiau a gwneud gwell defnydd o adnoddau.
Rhaid i brosiectau llwyddiannus ddangos sut y bydd buddsoddiad mewn offer neu dechnoleg newydd yn gwella cynhyrchiant ac yn dod â manteision ehangach i Gymru. Gall y gronfa gefnogi prynu a gosod peiriannau ac offer sy'n helpu sefydliadau i wella perfformiad ac aros yn gystadleuol yn y dyfodol.
Yn ystod ymweliad â REECO Automation Ltd, a dderbyniodd Grant Ymchwil a Datblygu Cymorth Arloesedd Hyblyg SMART gwerth £100,000 yn 2025, gwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni drosto'i hun y roboteg ac awtomeiddio uwch sy'n cael eu datblygu gan y cwmni.
Y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
"Nid oes prinder syniadau, talent ac uchelgais gwych yng Nghymru, ac rydym yn falch o gefnogi sefydliadau i arloesi, tyfu a llwyddo.
"Mae arloesi yn hanfodol i yrru cynhyrchiant a'n helpu i gyflawni ein huchelgais ehangach o gau'r bwlch cynhyrchiant gyda gweddill y DU.
"Drwy gefnogi buddsoddiad mewn offer modern, awtomeiddio a thechnolegau uwch, bydd y gronfa hon yn helpu sefydliadau i gynyddu cynhyrchiant, cryfhau cystadleurwydd a chreu gwerth economaidd hirdymor i Gymru."
"Rwy'n annog sefydliadau cymwys i archwilio'r gronfa ac ystyried gwneud cais am y gefnogaeth werthfawr hon."
Dywedodd Rosie Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Reeco:
"Mae REECO wedi elwa'n fawr o Grant Arloesi SFIS gan Lywodraeth Cymru.
"Mae'r cyllid wedi cefnogi datblygu sawl cynnyrch newydd, gan gynnwys ein palletiser robotig agnostig, meddalwedd AMR newydd ac, yn fwy diweddar, meddalwedd roboteg dynolffurf ar gyfer cymwysiadau codi ac ail-osod diwydiannol.
"Mae'r grant wedi rhoi cymhelliant ychwanegol i REECO gyflymu arloesedd, datblygu cynhyrchion newydd a mynd i mewn i farchnadoedd newydd.
"Byddem yn argymell bod unrhyw wneuthurwr o Gymru yn edrych ar y cyfle cyllido hwn i helpu i wireddu eu cynlluniau arloesi a sbarduno twf busnes."
Mae ceisiadau ar agor tan 23:59 ar 25 Medi 2026.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth a manylion cais.
Disgwylir penderfyniadau cyllido o'r wythnos sy'n dechrau ar 26 Hydref 2026.