Cynllun gwerth £2m i helpu i wneud twristiaeth a lletygarwch yn fwy hygyrch
£2m scheme to help make tourism and hospitality more accessible
Cyhoeddodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price, fod busnesau twristiaeth a lletygarwch ledled Cymru yn cael eu hannog i wneud cais am gynllun grant newydd gwerth £2m i wella hygyrchedd a chreu profiadau mwy cynhwysol i ymwelwyr.
Mae'r cynllun grant Croeso i Bawb yn cael ei lansio heddiw i gefnogi gwelliannau ymarferol sy'n helpu i gael gwared ar rwystrau i ymwelwyr anabl a'r rhai sy'n teithio gyda nhw.
Bydd y cynllun yn helpu busnesau i wneud newidiadau sy'n galluogi mwy o bobl i gynllunio a mwynhau eu hymweliad yn hyderus, gan gefnogi uchelgais ehangach Llywodraeth Cymru i wneud Cymru'n gyrchfan fwy hygyrch a chroesawgar i bawb.
Gallai prosiectau gynnwys toiledau ac ystafelloedd gwely hygyrch, dolenni clyw gwell, mannau chwarae cynhwysol, mannau synhwyraidd, mannau gorffwys, seddi awyr agored hygyrch a llwybrau gwell i ymwelwyr sy'n sicrhau bod mannau ymwelwyr yn fwy croesawgar a phleserus i bawb.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price:
“Mae chwarter yr holl ymwelwyr â Chymru yn anabl; os yw Cymru'n dweud 'croeso' i'r byd, ni all y gair hwnnw ddod gyda phrint mân - mae'n rhaid i'r croeso i Gymru fod yn real i bawb.
“Mae'n rhaid ei fod yn wir i ymwelwyr anabl, ymwelwyr niwroamrywiol a phobl â chyflyrau a rhwystrau cudd. Dyna pam rydyn ni'n lansio Croeso i Bawb, i helpu busnesau twristiaeth a lletygarwch i agor eu drysau yn ehangach fyth.
“Mae bod yn hygyrch yn dda i fusnesau, ond, yn fwy na hynny, mae'n rhan annatod o ystyr 'lletygarwch'.”
Er mwyn helpu gyda'r broses ymgeisio, bydd busnesau'n gallu defnyddio canllawiau a phecyn cymorth ymarferol.
Cafodd hyn ei greu mewn cydweithrediad â PIWS, sefydliad nid-er-elw yng Nghymru, i annog ymgeiswyr i ystyried pob cam o brofiad ymwelwyr, deall yr hyn sy'n gweithio'n dda, nodi rhwystrau, a blaenoriaethu gwelliannau a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf.
Dywedodd Davina Carey-Evans, o PIWS:
“Yn PIWS, rydyn ni'n falch o gyfrannu ein harbenigedd o ran profiad bywyd i gefnogi'r gwaith o ddatblygu'r cynllun hwn. Mae'r gwelliannau hygyrchedd mwyaf effeithiol yn deillio o wrando ar bobl anabl a defnyddio eu mewnwelediad i greu amgylcheddau arloesol, cynhwysol.
“Nid gofyniad cyfreithiol yn unig yw hygyrchedd; mae'n fuddsoddiad strategol. Drwy fuddsoddi mewn safleoedd a chyfleusterau hygyrch, gall busnesau twristiaeth wella boddhad cwsmeriaid, cefnogi a chadw staff, denu marchnadoedd newydd, a chreu adenillion mesuradwy o fuddsoddi, gan helpu i sicrhau bod Cymru yn gyrchfan wirioneddol groesawgar i bawb.”
Gofynnir i fusnesau yn y sector twristiaeth a lletygarwch gyflwyno ceisiadau erbyn 21 Medi 2026.
Dywedodd perchennog Bythynnod Gwyliau Stangwrach, ac enillydd Gwobr Twristiaeth Genedlaethol Hygyrch a Chynhwysol Croeso Cymru 2025, Grace Maidment:
“Yn Stangwrach rydyn ni'n wirioneddol angerddol am letygarwch cynhwysol a chreu gofod lle gall pawb deimlo bod croeso iddynt. Mae pawb yn haeddu'r cyfle i fwynhau seibiant hamddenol a chofiadwy – ni waeth beth fo'u symudedd, eu hoedran, neu eu hangen am gymorth.
“Rydyn ni wedi cynllunio ein bythynnod yn ofalus i groesawu ein holl westeion, p'un a ydynt teithio fel unigolyn, gyda gofalwr, gyda theulu, neu fel rhan o grŵp mwy. Mae bod yn hygyrch i'r holl westeion yn gwneud synnwyr busnes llwyr ac wedi ein galluogi i groesawu gwesteion na fyddent efallai wedi gallu ymweld fel arall. Rydyn ni’n hynod falch o fod wedi cael ein cydnabod gan y wobr ac yn croesawu'r cyfleoedd y mae cynllun Croeso i Bawb yn eu darparu.”