Cynllun gwyddoniaeth yn ceisio ysbrydoli darpar beirianwyr Cymru
Science scheme aims to inspire Wales’ budding engineers
Er mwyn nodi Wythnos Wyddoniaeth Prydain, mae’r Gweinidog Addysg Kirsty Williams wedi cyhoeddi heddiw bod rhaglen i ddenu pobl ifanc i ddilyn gyrfa ym maes peirianneg yn cael ei hymestyn i ysgolion cynradd.
Ar hyn o bryd, mae Cynllun Addysg Beirianneg Cymru yn cynnal gweithgareddau i hyrwyddo pynciau a gyrfaoedd ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) ymysg myfyrwyr ysgolion uwchradd.
Mae’r cynllun bellach yn cael ei gynnig i blant o dan 11 oed ac mewn ysgolion yn Nwyrain Cymru. Mae’r gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc yn cynnwys datblygu sgiliau dylunio meddalwedd a gweithgynhyrchu digidol a chyfarfod â phobl o fyd diwydiant y gall plant eu hefelychu er mwyn eu hannog i ennill cymwysterau ym maes gwyddoniaeth.
Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys gweithgareddau sy’n hyrwyddo pynciau STEM ymysg menywod ifanc ac yn herio stereoteipiau ar sail rhyw.
Dywedodd Kirsty Williams:
“Mae’n bwysig o ran twf economaidd yng Nghymru bod digon o bobl yn mynd ymlaen i gael gyrfaoedd mewn meysydd STEM. Felly cynharaf yn y byd yr ydyn ni’n rhoi’r cyfle i’n plant ddysgu am wyddoniaeth - a hynny mewn ffordd hwyliog a diddorol - y mwyaf tebygol yw hi y byddant yn datblygu’r hyder a’r sgiliau i astudio pynciau gwyddonol yn ddiweddarach yn eu gyrfaoedd.
“Mae’n un o’m blaenoriaethau i hefyd i gael mwy o fenywod ifanc i astudio pynciau STEM. Bydd estyn y cynllun i fyfyrwyr iau ac i rannau eraill o Gymru yn caniatáu i fwy o ferched gredu bod gyrfa ym maes gwyddoniaeth neu beirianneg yn addas ar eu cyfer.
“Fe wyddom ni o fyd gwyddoniaeth fod i bob gweithred ymateb hafal a dirgroes. Rwy’n edrych ymlaen at gael yr ymateb yr hoffem ni ei weld - sef gweld mwy fyth o bobl ifanc yn mynd i faes gwyddoniaeth yng Nghymru!”
Dyma rai o weithgareddau Cynllun Addysg Beirianneg Cymru:
- F1 mewn Ysgolion (Blynyddoedd 7 i 13)
Cystadleuaeth lle mae timau o ddisgyblion yn dylunio ac yn cynhyrchu ceir rasio F1 wedi eu pweru â CO2 gan ddefnyddio meddalwedd dylunio cyfrifiadurol. Mae’r dysgwyr yn datblygu eu dealltwriaeth o ffiseg, erodynameg, dylunio a gweithgynhyrchu mewn ffordd ymarferol a dychmygus, yn ogystal â sgiliau fel arwain a gwaith tîm.
- Denu Merched i Faes STEM (Blynyddoedd 8 a 9)
Nod y fenter hon yw annog disgyblion benywaidd i gymryd diddordeb byw mewn pynciau STEM cyn iddynt wneud eu dewisiadau TGAU. Mae’n cynnig cyfleoedd i grwpiau o ddisgyblion ymweld â chwmni yng Nghymru neu adran mewn prifysgol. Ar hyn o bryd, mae’r cwmnïau sy’n croesawu ymweliadau yn cynnwys Ford, Wafer Fab, Safran Seats, Viridor, Sony a BT.
- Peirianwyr y Dyfodol – 11 i 14 oed
Gweithgaredd tîm er mwyn adeiladu a rhaglennu robot LEGO a fydd yn cyflawni tasgau ar thema hedfan a datrys problemau peirianneg eraill.
- Headstart Cymru – Blwyddyn 12
Cyrsiau preswyl sy’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr dreulio amser mewn Adran Peirianneg, Dylunio Cynnyrch neu Gyfrifiadura mewn prifysgol cyn iddynt gyflwyno eu cais UCAS.
- Her Ysgol Gynradd Jaguar – Blynyddoedd 2 i 6
Mae’r her yn gyfle i ysbrydoli pobl ifanc i ddod yn beirianwyr drwy ddylunio a chynhyrchu’r car cyflymaf posibl.