Cynllun i ddenu rhagor o feddygon teulu i’r Canolbarth a’r Gorllewin i barhau am ddwy flynedd arall
Scheme to bring more GPs to Mid and West Wales extended for two years
Heddiw, (ddydd Mawrth 20 Hydref) cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, y bydd y cynllun llwyddiannus i ddenu meddygon teulu i’r Canolbarth a’r Gorllewin yn parhau.
Mae’r cynllun Cymrodyr Academaidd, a lansiwyd yn 2016, yn cynnig cyllid i feddygon teulu sy’n cyflwyno cais llwyddiannus, i’w galluogi i barhau i addysgu, gwneud ymchwil, neu ddilyn astudiaeth ôl-radd tra maen nhw'n cael y cyfle i weithio yn y Canolbarth neu’r Gorllewin.
Hyd yn hyn, mae dau gymrawd wedi cwblhau’r cynllun ar gyfer y Canolbarth a’r Gorllewin ym Mhrifysgol Abertawe, ac wedi gweithio mewn practisau meddygon teulu yn yr ardal leol. Bydd dau gymrawd arall yn gorffen eleni.
Mae’r Gweinidog bellach wedi neilltuo £755,000 ar gyfer parhau â’r cynllun am ddwy flynedd arall hyd at 2022/23.
Dywedodd Mr Gething: “Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn denu rhagor o feddygon teulu i ardaloedd yng Nghymru, yn enwedig ardaloedd gwledig yn y Gorllewin, lle y bu’n anodd recriwtio yn y gorffennol.
Yn y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi denu mwy na digon o ymgeiswyr wrth lenwi cyfleoedd hyfforddi i feddygon teulu.
“Mae’r cynllun Cymrodyr Academaidd yn helpu i recriwtio meddygon teulu i weithio mewn practisau meddygon teulu yn y Canolbarth a’r Gorllewin. Mae hynny’n sicrhau bod y practisau hyn yn fwy cynaliadwy, ac yn hwb i’n hymdrechion i recriwtio meddygon teulu dan hyfforddiant sy’n dechrau ar eu gyrfaoedd. Mae’n bleser mawr gennyf gyhoeddi y bydd y cynllun hwn yn parhau am ddwy flynedd arall.”
Dywedodd Dr Chris Horn, sydd wedi cwblhau'r cynllun: "Fel Cymrawd Academaidd, gweithiais mewn dau bractis yn ardal Hywel Dda rhwng mis Ionawr 2017 a mis Ionawr 2019. Roedd fy wythnos waith (tri diwrnod ym Mhrifysgol Abertawe a dau ddiwrnod yn y practis) yn caniatáu i mi gadw lan gyda fy ngwaith meddygaeth, wrth dal i archwilio byd addysgu ac ymchwil.
Heb y cyfle i 'flasu' y meysydd gwaith hyn, efallai nad byddaf wedi ystyried ehangu fy ngorwelion fel hyn, na chael y cyfle. Credaf y bydd y portffolio gyrfa yr wyf wedi'i datblygu o fudd i mi, a'm cleifion, yn awr a tan ddiwedd fy ngyrfa.
Roedd y ddau bractis yn groesawgar iawn a derbyniais y cynnig o bartneriaeth gyda’r cyntaf, Meddygfa Tywi, Nantgaredig, cyn diwedd fy mlwyddyn gyda nhw. Dyma le yr wyf hyd heddiw ac rwy'n gobeithio, tan ddiwedd fy ngyrfa.
Heb y cynllun hwn mae'n annhebyg y byddwn wedi baglu ar draws yr ardal wledig hyfryd hon yng Ngorllewin Cymru. Ardal yr wyf yn falch o'i galw'n gartref gyda fy ngwraig a dau blentyn."
Dywedodd Kim Davies, Rheolwr Practis: "Roedd cael Chris i ymuno â ni fel partner yn hwb mawr i gynaliadwyedd hirdymor y practis. Gall fod yn anodd recriwtio a denu meddygon teulu newydd i'r rhan hon o Gymru. Ond mae'r cynllun Cymrodyr Academaidd yn rhoi cyfle i bobl fel Chris fyw a gweithio yma, ac i weld beth gall y rhan wych hon o'r byd ei chynnig. Rwy'n gobeithio y bydd mwy o bractisau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn elwa o'r cynllun hwn fel rhydem ni wedi."