English icon English
FM Presser Camera 2

Cynllun newydd i gadw Cymru ar agor ac yn ddiogel yn ystod y gaeaf “heriol” sydd o’n blaenau

New plan to keep Wales open and safe during “challenging” winter ahead

Heddiw (dydd Gwener 8 Hydref), bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cyhoeddi cynlluniau newydd i gadw Cymru ar agor ac yn ddiogel yn ystod y misoedd anodd sydd o’n blaenau dros yr hydref a’r gaeaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Cynllun Rheoli’r Coronafeirws ar ei newydd wedd. Yn y Cynllun, rhoddir manylion bras y camau gweithredu allweddol a allai gael eu rhoi ar waith i reoli lledaeniad y feirws.

Ar gyfer y tair wythnos nesaf, yn dilyn yr adolygiad diweddaraf o’r rheoliadau coronafeirws, bydd Cymru yn parhau ar lefel rhybudd sero. Felly, bydd pob busnes ar agor a bydd y lefel isaf o gyfyngiadau ar waith yng Nghymru.

Wrth iddo siarad cyn y gynhadledd i’r wasg, dywedodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog:

“Mae gaeaf heriol iawn o’n blaenau ni. Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu ac maen nhw hefyd yn rhagweld y bydd y ffliw yn dychwelyd y gaeaf hwn.

“Y brechlyn yw’r amddiffyniad gorau sydd gennym ni o hyd yn erbyn y coronafeirws. Y mwyaf o bobl a fydd yn cael eu brechu’n llawn, y gorau oll fydd ein siawns o reoli lledaeniad y feirws ofnadwy hwn. 

“Byddwn ni’n parhau i ganolbwyntio ar gynyddu nifer y bobl sy’n cael brechiadau COVID-19 ar draws y grwpiau oedran a’r grwpiau blaenoriaeth yn ogystal â chyflwyno’r brechiad atgyfnerthu. Rydyn ni hefyd yn annog pob un sy’n gymwys i fynd i gael y brechiad rhag y ffliw eleni.

“Mae amrywiaeth o fesurau eraill y gallwn ni i gyd eu cymryd hefyd i ddiogelu ein hunain a’n teuluoedd a’n ffrindiau – mesurau fel golchi ein dwylo, cwrdd â llai o bobl a gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do.

“Mae’r mesurau hyn wedi ein helpu ni i gadw’n ddiogel drwy gydol y pandemig a byddan nhw hefyd yn helpu i’n diogelu rhag feirysau eraill y gaeaf, fel y ffliw a heintiau anadlol eraill.”

Mae’r fersiwn ddiweddaraf o’r Cynllun Rheoli’r Coronafeirws yn cyflwyno dwy senario gynllunio ar gyfer y pandemig dros gyfnod y gaeaf. O dan y senario gyntaf, sy’n cael ei galw yn Covid Sefydlog, mae Cymru yn aros ar lefel rhybudd sero drwy gydol yr hydref a’r gaeaf, gyda phob busnes yn gallu agor.

Credir mai hon yw’r senario fwyaf tebygol ar gyfer y dyfodol, wrth inni ymgyfarwyddo â byw gyda’r coronafeirws a symud allan o’r pandemig yn raddol i sefyllfa lle y bydd y feirws yn dod yn salwch tymhorol.

O dan y senario hon, os bydd nifer yr achosion yn syrthio, gallai mesurau gael eu llacio ymhellach fel ymateb i hynny. Os bydd nifer yr achosion yn codi, ar y llaw arall, gallai rhai mesurau presennol gael eu cryfhau i ddiogelu iechyd pobl.

Mae’r ail senario gynllunio yn cael ei galw yn Covid Brys. Mae’r senario hon wedi ei chynllunio i ymateb i unrhyw newidiadau sydyn yn y sefyllfa. Gallai’r newidiadau hyn gael eu hachosi gan ymddangosiad amrywiolyn newydd, a fydd yn lledaenu’n gyflym, neu gallai’r lefelau imiwnedd a fydd wedi eu meithrin yn sgil cael y brechlyn ostwng. O ganlyniad, bydd y pwysau yn sgil y pandemig yn cynyddu, a bydd perygl y gallai’r Gwasanaeth Iechyd fod o dan ormod o bwysau. 

Mewn senario o’r fath, byddai’r system lefelau rhybudd a chyfyngiadau yn cael ei defnyddio mewn modd cymesur i ddiogelu iechyd pobl, rheoli lledaeniad yr haint a diogelu’r Gwasanaeth Iechyd. Ond dim ond pan na fydd unrhyw opsiwn arall ar ôl y bydd y lefelau rhybudd a’r cyfyngiadau yn cael eu rhoi ar waith.

Helpwch i ddiogelu Cymru:

  • Ewch i gael eich brechiadau COVID-19, gan gynnwys y brechiad atgyfnerthu pan fyddwch yn cael eich gwahodd
  • Cymerwch brawf a hunanynysu os oes gennych symptomau
  • Cofiwch ei fod yn fwy diogel allan yn yr awyr agored nag o dan do
  • Cadwch eich pellter lle bo hynny’n bosibl
  • Golchwch eich dwylo’n rheolaidd
  • Gwisgwch orchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do
  • Sicrhewch fod digon o awyr iach mewn mannau o dan do
  • Gweithiwch gartref pan fydd hynny’n bosibl
  • Defnyddiwch Bàs COVID mewn clybiau nos a digwyddiadau mawr.