Cynllun newydd i wneud GIG Cymru yn wyrddach ac yn addas i'r dyfodol
New plan to make NHS Wales greener and fit for the future
Mae cynlluniau uchelgeisiol i helpu GIG Cymru i leihau ei allyriadau yn gyflymach er mwyn gwneud y system iechyd a gofal yn fwy cynaliadwy yn cael eu cyhoeddi heddiw.
Mae sefydliadau'r GIG eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol, gan leihau allyriadau o ffynonellau nad ydynt yn y gadwyn gyflenwi, gan gynnwys adeiladau a thrafnidiaeth, bron i chwarter rhwng 2018-19 a 2024.
Ond er gwaethaf y gwelliant hwn, mae allyriadau cyffredinol GIG Cymru wedi cynyddu yn ystod yr un cyfnod, yn bennaf o ganlyniad i allyriadau sy'n cael eu priodoli i gadwyn gyflenwi fawr y gwasanaeth iechyd.
Mae Cynllun Cyflawni Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru wedi'i adnewyddu, a gyhoeddir yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru, yn nodi map trywydd clir i'r GIG gyflawni ei uchelgeisiau hinsawdd a chyflawni'r targed cyfreithiol Sero Net 2050.
Bydd y cynllun yn helpu sefydliadau GIG Cymru i wneud y canlynol:
- Cynyddu effeithlonrwydd ynni a defnyddio ynni adnewyddadwy
- Hyrwyddo teithio mwy cynaliadwy gan staff a chleifion
- Gweithio gyda chyflenwyr i leihau'r effaith amgylcheddol
- Cyflawni cynaliadwyedd amgylcheddol
- Lleihau gwastraff
- Gweithio mor gynaliadwy â phosibl.
Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Rydyn ni'n ymdrechu i greu system iechyd fwy cynaliadwy a fydd yn lleihau ei heffaith ar yr amgylchedd ac yn sicrhau manteision ehangach i iechyd y cyhoedd.
"Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Gall y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru chwarae ei ran drwy gymryd camau syml, megis lleihau gwastraff, arbed ynni a gweithio mor gynaliadwy â phosibl, gan hefyd ganolbwyntio ar ddarparu gofal o ansawdd uchel.
"Bydd gwella cynaliadwyedd ac effaith amgylcheddol y Gwasanaeth Iechyd yn helpu'r sector cyhoeddus a Chymru i leihau ein hôl troed carbon a chyflawni ein hymrwymiadau Sero Net erbyn 2050."
Mae nifer o brosiectau cynaliadwyedd arloesol wedi rhoi hwb i ymdrechion i leihau allyriadau carbon yn GIG Cymru.
Mae mentrau cynaliadwyedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn arwain yr ymgyrch mewn unedau gofal dwys – gan hyrwyddo'r ddau nod o wella gofal cleifion a lleihau gwastraff ariannol ac amgylcheddol.
Enillodd y Tîm ICU Gwyrdd wobr Cymru sy'n Gyfrifol yn Fyd-eang yng Ngwobrau Cynaliadwyedd Cymru y GIG ac mae gwaith y tîm wedi'i gynnwys mewn canllawiau ymarferol a gynlluniwyd i helpu unedau gofal dwys i leihau eu hôl troed carbon.
Dros y pum mlynedd diwethaf, mae'r tîm wedi lleihau gwastraff plastig yn yr uned gofal dwys tua 2 tunnell y flwyddyn, gan arbed degau o filoedd o bunnoedd. Nod yr ymgyrch Menig i Ffwrdd yw lleihau faint o fenig nad ydynt yn ddi-haint sy'n cael eu gwisgo.
Mae'r ymgyrch ar y trywydd iawn i arbed tua £15,000 eleni ynghyd ag arbed defnyddio plastig sydd gyfwerth â thua 490,000 o fenig (neu tua 30 pâr o fenig fesul claf y dydd) ym maes gofal critigol.
Mae cynlluniau eraill yn cynnwys ailgylchu poteli a ddefnyddir i fwydo cleifion, cynnig dŵr tap yfed yn lle dŵr di-haint i gleifion a gosod goleuadau LED.
Jack Parry-Jones, ymgynghorydd mewn meddygaeth gofal dwys i oedolion a chyn-gadeirydd y Tîm ICU Gwyrdd, a oedd yn arwain nifer o'r mentrau.
Dywedodd: "Rydyn ni'n ceisio diogelu byd, a Chymru sy'n werth goroesi amdani a byw ynddi. Ein mantra mabwysiedig yw pobl, y blaned ac elw.
"Pobl – gofal ardderchog i'n cleifion, eu perthnasau a'n staff. Y blaned – amgylchedd glân yng Nghymru gyda bioamrywiaeth wedi'i ddiogelu. Ac elw – darparu gofal iechyd darbodus sy'n seiliedig ar werthoedd."
Nodiadau i olygyddion
- NHS Wales emissions from non-supply chain (including buildings and transport) have continued to decrease, totalling 263 ktCO2e in 2024, compared with 340 ktCO2e in the 2018-19, which was the baseline[1] year.
- However, overall NHS Wales emissions have increased to 1,160 ktCO2e in 2024 compared with 964 ktCO2e in the 2018-19 baseline year, primarily driven by a continuing increase in emissions from supply chain.
- The current NHS Wales Decarbonisation Strategic Delivery Plan sets a target of reducing emissions by 16% by 2025, compared with the 2018-19 baseline year. This reduction has already been achieved for non-supply chain emissions (23% reduction) but not for the supply chain (44% increase).
- NHS Wales total emissions increased by 7% between 2023 and 2024, compared with a 13% overall increase at the public sector level.
- Of the total NHS Wales emissions for 2024, 77% came from supply chain, 15% from buildings, and 6% from transport. Waste and medical gases account for the remainder.
[1] The original published 2018-18 baseline for NHS Wales was 1,001 ktCO2e. The methodology for the original NHS Wales 2018-19 baseline differs from the public sector reporting (PSR) methodology, hence the Welsh Government Energy Service (WGES) developed an adjusted baseline (removing patient and visitor travel emissions) to mirror the PSR methodology. The adjusted NHS Wales 2018-19 baseline is 964 ktCO2e. As directed by the Health and Social Care Climate Emergency Programme Board, the adjusted baseline figure will be used in preference to the original baseline figure.