Cynlluniau ar gyfer clwstwr technoleg newydd yng Nglynebwy yn mynd rhagddynt
Plans for new tech cluster in Ebbw Vale move forward
Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru i greu clwstwr technoleg newydd cyffrous yng Nglynebwy yn symud ymlaen yn sgil buddsoddiad mewn technoleg 5G, campws newydd ar gyfer profion seiber a llety newydd ac arloesol ar gyfer busnesau.
Drwy brosiect newydd o’r enw Datgloi 5G Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn dod â chysylltedd symudol 5G i gefnogi cynlluniau peilot ar draws y byd addysg, trafnidiaeth, twristiaeth a ffermio ym Mlaenau Gwent a gerllaw yn Sir Fynwy.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cadarnhau ei bod yn gweithio gyda Thales UK Ltd ar ResilientWorks, prosiect gwerth £7m ym Mlaenau Gwent i sefydlu campws profi seiberddiogelwch ar gyfer cerbydau a seilwaith ynni cysylltiedig ac annibynnol. Bydd y campws newydd yn cynnwys labordai ymchwil, trac prawf a stryd enghreifftiol y gall busnesau newydd, busnesau bach a chanolig, cwmnïau rhyngwladol a Llywodraethau i gyd eu defnyddio i brofi technoleg newydd hanfodol ac i feithrin hyder yn y dechnoleg honno.
Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Blaenau Gwent yn cydweithio i ddarparu llety newydd i fusnesau yn yr ardal. Mae hyn yn cynnwys prosiect newydd The Box, gyda chefnogaeth rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, a fydd yn gweld hyb newydd o safleoedd swyddfeydd hyblyg wedi’u dylunio a'u trawsnewid o gynwysyddion llongau ar yr hen safle gwaith yng Nglynebwy.
Gyda'i gilydd mae'r ymyriadau'n gweithio i greu clwstwr technoleg newydd a chyffrous yng Nglynebwy, man y gall busnesau uwch-dechnoleg sefydlu, buddsoddi a ffynnu ynddo.
Dywedodd Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: "Drwy'r Cymoedd Technoleg mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i greu clwstwr technoleg newydd yng Nglynebwy a fydd yn denu, yn cefnogi ac yn ysgogi busnesau technoleg arloesol.
“Mae clystyru seilwaith digidol sydd ar flaen y gad, llety modern a deniadol a chwmni angori technoleg yn gallu gweithredu fel magnet i ddenu busnesau newydd i’r ardal.
“Bydd ein buddsoddiad yn Datgloi 5G Cymru ynghyd â llety arloesol newydd i fusnesau drwy The Box a phartneriaeth gyffrous gyda Thales ar brofion seiber ar gyfer cerbydau awtonomaidd yn help i wneud Glynebwy yn gartref amlwg ar gyfer busnesau technoleg newydd a bydd yn helpu i sbarduno’r arloesi, y cydweithredu a’r ffyniant economaidd hirdymor yr ydym am ei weld yn yr ardal.”
Gan weithio gyda chymunedau ar draws Blaenau Gwent a Sir Fynwy, bydd rhwydwaith 5G yn cael ei ddefnyddio i helpu i drawsnewid busnesau gwledig, gwasanaethau cyhoeddus a seilwaith. Drwy greu achos dros gysylltedd 5G gwledig, bydd y Cymoedd Technoleg yn helpu i ddigido busnesau, ysgogi swyddi newydd a gwella gwasanaethau cyhoeddus i gymunedau ledled y Gymru wledig a lled-wledig.
Llywodraeth Cymru sy’n arwain y prosiect cyffrous hwn mewn cydweithrediad â rhaglen 5G Testbeds & Trials Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU: Cymunedau Gwledig Cysylltiedig.
Mae'n dwyn ynghyd gonsortiwm trawiadol o bartneriaid, gan gynnwys Cisco, BT, Utterberry, AppyWay, Prifysgol Caerdydd, Cyngor Sir Fynwy ac Awdurdod Lleol Blaenau Gwent. Gyda'i gilydd, byddant yn dangos y gwerth masnachol sy’n deillio o gysylltedd gwell yng nghefn gwlad Cymru, gan gyflymu'r defnydd o 5G a gwasanaethau digidol ar draws y rhanbarth.
Dywedodd Peter Shearman, Pennaeth Labordai Arloesedd, UKI yn Cisco: "Credwn mewn adeiladu dyfodol cynhwysol i bawb ac i ni, daw rhan fawr o hynny o'r cyfle a ddarperir gan gysylltedd i unigolion a chymunedau - boed hynny mewn dinasoedd neu ardaloedd gwledig. Mae Datgloi 5G Cymru yn dwyn ynghyd bartneriaid a chyrff y llywodraeth ledled y DU i helpu i fynd i'r afael â'r gagendor digidol a darparu'r adnoddau sydd eu hangen i dreialu ffyrdd newydd o gael gwared ar y gagendor hwnnw, gan gynnwys 5G. Mae gan seilwaith 5G y potensial i helpu i gysylltu gwasanaethau a dyfeisiau sy'n hanfodol i fusnesau, a nod y prosiect yw helpu i lunio'r achos masnachol dros fuddsoddi’n fwy er mwyn gwireddu hyn i gymunedau gwledig."
Fel rhan o raglen fuddsoddi'r Cymoedd Technoleg, gall busnesau sy’n ymsefydlu yn yr ardal gael mynediad i swyddfeydd ar gyfer entrepreneuriaid, arloeswyr a chwmnïau gydleoli â gweithwyr proffesiynol o'r un anian sy'n canolbwyntio ar dwf. Ategir y cynnig hwn gan brosiect newydd cyffrous Blaenau Gwent The Box, a fydd yn rhoi hyd yn oed mwy o fynediad i fusnesau i swyddfeydd, cyfleusterau cydweithio ac ystafelloedd cyfarfod. Bydd y llety o’r radd flaenaf yn gwneud defnydd arloesol o gynwysyddion llongau ac mae wedi cael ei gefnogi gan bron £500,000 diolch i raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.