Cynlluniau gwario manwl yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wasanaethau allweddol
Detailed spending plans show Welsh Government's commitment to key services
Heddiw, cafodd rhagor o fanylion am Gyllideb Ddrafft gwerth £27 biliwn Llywodraeth Cymru eu nodi, sy'n dangos cynnydd mewn cyllid ar gyfer pob adran allweddol.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford fod y cynlluniau gwario adrannol yn dangos ymrwymiad y llywodraeth i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, wrth gynnal sefydlogrwydd cyn etholiad y Senedd.
Mae Cam Dau Cyllideb Ddrafft 2026-27 yn nodi mwy na £800 miliwn o gyllid ychwanegol o'i gymharu â chyllideb y llynedd, ac mae'n diogelu cyllid ar gyfer iechyd, addysg a gwasanaethau hanfodol eraill.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:
"Mae'r cynlluniau gwario yma'n dangos sut rydyn ni'n diogelu'r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw fwyaf. Bydd pob adran allweddol yn gweld mwy o gyllid, gan ddarparu'r sefydlogrwydd sydd ei angen ar ein gwasanaethau cyhoeddus.
"Rydyn ni'n parhau i fod yn agored i weithio gyda phleidiau eraill yn y Senedd i greu cyllideb fwy uchelgeisiol byth. Mae'r drws yn dal ar agor i'r rhai sy'n rhannu ein hymrwymiad i basio Cyllideb sy'n gweithio i bawb yng Nghymru."
Mae'r Gyllideb Ddrafft yn cael ei chyhoeddi mewn dau gam. Roedd Cam Un, a gafodd ei gyhoeddi ar 14 Hydref, yn cynnwys y dyraniadau adrannol lefel uchel. Bydd Cam Dau, sy'n cynnwys cynlluniau gwario adrannol mwy manwl, yn cael ei gyhoeddi ar 3 Tachwedd.
Bydd y setliad llywodraeth leol drafft yn cael ei gyhoeddi yn nes ymlaen ym mis Tachwedd.
Caiff y Gyllideb Derfynol ei chyhoeddi ar 20 Ionawr 2026, gyda phleidlais yn y Senedd wedi'i threfnu ar gyfer 27 Ionawr.