Cynnal Cynhadledd Gweithgynhyrchu y Gogledd ac Ardal y Ffin
North Wales and Cross-Border Manufacturing Summit held
Cafodd cynhadledd bwysig ei chynnull heddiw (ddydd Mawrth, 4 Awst) gan Weinidog yr Economi a’r Gogledd Ken Skates gydag arweinwyr y byd gweithgynhyrchu yn y Gogledd ac ardal y ffin.
Daeth arweinwyr llywodraeth, diwydiant, yr undebau llafur ac academia ynghyd i drafod nid yn unig yr heriau sy’n wynebu’r sector fel Covid ond y cyfleoedd newydd ar gyfer twf gwyrdd.
Mae’r digwyddiad yn rhan o gyfres o weithgareddau sy’n cael eu cynnal gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r sector gweithgynhyrchu, yn enwedig awyrofod a modurol yn y rhanbarth a thu hwnt.
Ymhlith y mesurau eraill y mae’r Grŵp Ymateb Rhanbarthol newydd ar Gyflogaeth, sydd eisoes wedi cwrdd dwywaith ac sy’n anelu at gefnogi gweithlu Airbus a’r gadwyn gyflenwi ehangach.
Dywedodd Gweinidog yr Economi a’r Gogledd Ken Skates: “Mae’r gynhadledd rydym wedi’i chynnal yma heddiw yn rhan o gyfres o fesurau i leihau effeithiau’r coronafeirws ar ein sector gweithgynhyrchu hanfodol a gwerthfawr.
“Yr amcan yw trafod y sefyllfa â’n holl bartneriaid i benderfynu ar ffordd ymlaen trwy’r pandemig ac at ymadfer. Caiff rhagor o fesurau eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf gan gynnwys cyhoeddi maniffesto ar gyfer gweithgynhyrchu.
“Mae’r effaith ar rai o’n cwmnïau pwysicaf, gan gynnwys Airbus, yn fater trawsffiniol. Rydym yn gweithio’n galed gyda’n partneriaid yn ardal Dyfrdwy Mersi i ddangos ein cefnogaeth i’r diwydiant, y gweithlu a’r gadwyn gyflenwi.”
“Mae’n bwysig bod pawb yn gweithredu er lles y sector – gan gynnwys Llywodraeth y DU. Mae sectorau fel awyrofod a gweithgynhyrchu’n cynnal degau o filoedd o swyddi ledled Cymru – yn uniongyrchol ac yn ein cadwyni cyflenwi – ac mae’n bwysig ein bod oll yn cydgysylltu’n camau i sicrhau dyfodol disglair.”
Dywedodd y Cyng Dyfrig Siencyn, cadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd y Gogledd: “Mae’r gynhadledd heddiw yn gyfle mawr ei groeso i drafod sut y gallwn ddadwneud difrod y chwalfa hon gyda’n gilydd. Mae’r sector ynni carbon isel yn datblygu’n gyflym, mae momentwm yn tyfu ac mae’r Gogledd yn awchu am fuddsoddiad. Trwy weithredu gyda’n gilydd ac ar fyrder, gallwn nid yn unig helpu’r Llywodraeth i gwrdd â’r targed o fod yn ddi-garbon erbyn 2050 ond gallwn greu galw hefyd yng nghadwyn gyflenwi’r sector gweithgynhyrchu lleol, creu swyddi breision a chadw’r sgiliau allweddol hyn yn y Gogledd am ddegawdau i ddod”.
Dywedodd y Cyng Mark Pritchard, Cadeirydd Cynghrair Dyfrdwy a Mersi ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Mae’r sector gweithgynhyrchu’n wynebu heriau mawr sy’n effeithio ar y Gogledd-ddwyrain ac ardal y ffin. Mae’n hanfodol ein bod i gyd yn gweithio gyda’n gilydd a bod Llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru’n ffeindio’r ffordd ymlaen at adferiad. Mae cynhadledd heddiw yn dyst ein bod yn cyd-dynnu i wneud hynny.”