English icon English
Minister for Economy Transport and North Wales Ken Skates with Giles Thorley CEO of the Development Bank

Cynnig gwyliau ad-daliad cyfalaf i fusnesau i helpu i reoli effaith coronafeirws

Businesses offered capital repayment holidays to help manage coronavirus impact

Cafodd y don ddiweddaraf o gefnogaeth i fusnesau sydd wedi’u heffeithio gan goronafeirws ei chyhoeddi heddiw gan Weinidog yr Economi Ken Skates, wrth iddo lansio sgwrs gyda chwmnïau am beth oeddent ei angen i ymateb i’r achosion.           

Hefyd cyhoeddodd y Gweinidog y byddai Banc Datblygu Cymru yn cynnig i’w holl gwsmeriaid busnes wyliau ad-daliad cyfalaf tri mis i’w helpu i reoli anawsterau ariannol y feirws.

Bydd Gweinidog yr Economi yn cynnal cyfres o sgyrsiau gyda sefydliadau busnes a phartneriaid cymdeithasol am eu hanghenion wrth i Lywodraeth Cymru weithio i ddatblygu pecyn ehangach o gefnogaeth i helpu cwmnïau i reoli’r heriau a gyflwynir gan ledaeniad y feirws.

Dywedodd: “Mae lledaeniad parhaus coronafeirws yn golygu ein bod ni i gyd yn wynebu pwysau na welwyd ei debyg o’r blaen. Gallai economi Cymru gael ei heffeithio’n fawr iawn oherwydd ei bod yn cynnwys cymaint o weithgynhyrchu a sectorau modurol, hedfanaeth a thwristiaeth.  

“Gallwn ddisgwyl i gyfraddau salwch cynyddol ymhlith y gweithlu, hyder defnyddwyr a phroblemau’r gadwyn gyflenwi arwain at heriau gwirioneddol i gwmnïau yng Nghymru.   

“Rydym wedi ymrwymo i gefnogi busnesau. Mae’r gwyliau ad-daliad cyfalaf i gwsmeriaid y Banc Datblygu yn gam pwysig ac rydym yn gweithio ar becyn cefnogi ehangach i roi’r sicrwydd a’r cymorth mae’r gymuned fusnes eu hangen.”  

Mae Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru yn gallu darparu i fusnesau ledled Cymru gefnogaeth a chyngor teilwredig am ddelio gyda choronafeirws, o gynllunio ariannol a’r gadwyn gyflenwi i gyngor ar faterion staffio. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn siarad gyda banciau ynghylch y gefnogaeth y byddant yn ei chynnig i fusnesau yn ystod y cyfnod hwn.

Dywedodd Mr Skates, sydd hefyd yn Weinidog ar gyfer Gogledd Cymru: “Rydym wedi ymrwymo y bydd pob ceiniog o gyllid a 

Dddaw i Gymru o ganlyniad i gyhoeddiad Cyllideb y DU am ostyngiad mewn trethi annomestig yn Lloegr yn cael ei defnyddio i gefnogi busnesau yng Nghymru.      

“Rydym yn gofyn am eglurder ar frys gan Lywodraeth y DU am y pecyn o gyllid sydd ar gael ar gyfer yr ymateb brys i’r coronafeirws er mwyn i ni allu datblygu ein cefnogaeth i fusnesau.

“Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i warchod economi Cymru ac i gefnogi busnesau Cymru.”ywedodd Giles Thorley, Prif Weithredwr y Banc Datblygu: “Rydym yn cydnabod y bydd rheoli llif arian yn fater real a brys i fusnesau bach yn ystod yr wythnosau sydd i ddod. Dyma pam rydym wedi gweithredu’r mesur hwn i leddfu’r pwysau hwnnw yn gyflym ac yn effeithiol. Ar hyn o bryd mae gan Fanc Datblygu Cymru fwy na 1,000 o gwsmeriaid busnes ac rydym yn gweithio’n galed i’w cefnogi yn ystod y cyfnod hwn. Hoffwn roi sicrwydd i’r farchnad ein bod yn barod ac yn gallu helpu busnesau Cymru yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd. Byddwn yn parhau i adolygu ein dull o weithredu wrth i’r sefyllfa hon ddatblygu.”