'Cynnydd sylweddol' yng Nghwmtyleri flwyddyn ers y tirlithriad
‘Substantial progress’ seen in Cwmtillery one year since landslip
Bydd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies yn ymweld â chymuned Cwmtyleri ddydd Gwener 21 Tachwedd, flwyddyn ar ôl tirlithriad sylweddol mewn tomen lo nas defnyddir yn ystod Storm Bert ym mis Tachwedd 2024.
Yng nghwmni cynrychiolwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, bydd yn gweld sut mae'r gwaith ar welliannau hanfodol i'r seilwaith yn mynd yn ei flaen ers y digwyddiad.
Mae hyn yn cynnwys gosod gwaith draenio newydd ac ailbroffilio llethrau – i helpu i sefydlogi a lleihau'r risg o dirlithriadau ac erydiad yn y dyfodol – diolch i £610,000 o gymorth gan Lywodraeth Cymru drwy'r Cynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd:
"Bydd y golygfeydd o Gwmtyleri y llynedd bob amser yn aros gyda mi, ac rwy'n gwybod bod yr effaith yn dal i gael ei deimlo gan y gymuned heddiw.
"Byddaf yn ddiolchgar am byth i'r gwasanaethau brys a'n partneriaid lleol am eu hymateb cyflym a wnaeth sicrhau bod trigolion yn cael eu cludo i ddiogelwch yn ystod yr hyn a oedd yn ddi-os yn brofiad brawychus.
"Wrth ddychwelyd i Gwmtyleri ddeuddeg mis yn ddiweddarach, rwy'n falch o weld y cynnydd sylweddol a wnaed i gefnogi'r gymuned hon a gwneud y safle yn fwy diogel.
"Rydym yn parhau i fod yn gwbl ymroddedig i amddiffyn pobl a sicrhau bod cymunedau sy'n byw yng nghysgod hen domenni yn ddiogel, nawr ac yn y dyfodol."
Mae buddsoddiad cyfunol Cymru a Llywodraeth y DU mewn diogelwch tomenni glo yn dod i gyfanswm o fwy na £220m hyd yma.
Mae'r buddsoddiad uwch nag erioed hwn yn sicrhau gwelliannau diogelwch i gymunedau wrth i Lywodraeth Cymru barhau i weithio'n agos gyda phartneriaid cyhoeddus i ddarparu trefn arolygu a chynnal a chadw effeithiol ledled Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Tommy Smith, Aelod Cabinet dros Gymdogaethau a'r Amgylchedd ar Gyngor Blaenau Gwent:
"Rydym yn dal i feddwl am yr holl drigolion yr effeithiwyd arnynt gan y tirlithriad yng Nghwmtyleri. Gan weithio'n agos gyda phartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, rydym wedi cynnal ymchwiliadau helaeth a gwaith adfer ar safle'r domen nas defnyddir. Mae hyn yn cynnwys systemau draenio gwell i ddargyfeirio dŵr ac ymchwiliadau parhaus i unrhyw fesurau pellach sydd eu hangen fel ailbroffilio.
"Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i'r gwaith hwn, gan gefnogi'r gymuned leol, a rhoi gwybod i drigolion bob cam o'r ffordd. Ochr yn ochr â'r Awdurdod Adfer Mwyngloddio, rydym yn parhau i gynnal arolygiadau rheolaidd ac yn monitro'r ardal yn agos yn ystod tywydd garw."
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyflwyno deddfwriaeth nodedig i fynd i'r afael â'r materion diogelwch a achosir gan orffennol mwyngloddio Cymru.
Bydd Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) yn sefydlu Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir Cymru ym Merthyr Tudful ym mis Ebrill 2027, gan ddarparu tua 60 o swyddi newydd.
Bydd yr Awdurdod yn gyfrifol am asesu, categoreiddio, cofrestru ac archwilio'r holl hen domenni nas defnyddir ledled Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu rheoli'n effeithiol yn y tymor hir a lleihau bygythiadau i ddiogelwch y cyhoedd.
DIWEDD