English icon English
pic 1-2

Cynyddu cyfleoedd i gymunedau ethnig amrywiol ym maes ffilmiau a theledu

Increasing opportunities for ethnically diverse communities in film and TV

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru, drwy Cymru Greadigol, wedi cyhoeddi rhaglen beilot newydd gyda phartneriaid BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales, S4C a Channel 4 sy'n anelu at gynyddu cyfleoedd i gymunedau ethnig amrywiol ym maes ffilmiau a theledu.

Gyda chyllid gan bartneriaid a Cymru Greadigol, bydd Cyswllt Diwylliant Cymru yn cynnal rhaglen beilot dros 12 mis sy'n anelu at gynyddu cyfleoedd ym maes ffilmiau a theledu yng Nghymru drwy weithio gyda phobl greadigol o'r cymunedau ethnig amrywiol a'u cefnogi. 

Nod y rhaglen beilot yw datblygu rhwydwaith pwrpasol ar gyfer cymunedau ethnig amrywiol sy'n gweithio ym maes ffilmiau, teledu ac ar draws sawl llwyfan.   Bydd yn anelu at gyrraedd awduron, cyfarwyddwyr, cynhyrchwyr creadigol, artistiaid, artistiaid digidol, creaduriaid cyfryngau, gan eu helpu i ailasesu eu hymarfer proffesiynol, gwella eu sgiliau, a datblygu'r hyder a'r cysylltiadau i wthio eu gyrfaoedd a'u prosiectau i'r lefel nesaf. Bydd y rhaglen beilot yn helpu pobl sydd am newid gyrfaoedd; phobl ifanc a phobl nad ydynt yn ymwybodol o gyfleoedd yn y sector.  Bydd porth a chronfa ddata ddynodedig yn cael eu datblygu i gyrraedd talent o fewn y cymunedau ethnig amrywiol yng Nghymru a fydd yn cysylltu talent â chyfleoedd, swyddi a chyfleoedd hyfforddi â thâl yn sector y sgrin yng Nghymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas; "Mae hon yn rhaglen beilot unigryw i Gymru ac mae'n dangos ymrwymiad gwirioneddol a dull cydweithredol o gynyddu amrywiaeth yn y sector ar y sgrin ac oddi ar y sgrin yng Nghymru. Rwy'n angerddol iawn yn ei chylch.

"Mae 'Cymru Gwrth-hiliol - Y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol' Llywodraeth Cymru hefyd yn cael ei gyhoeddi heddiw. Mae'r Cynllun yn amlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hiliaeth strwythurol a systemig i greu Cymru sy'n falch o fod yn wrthhiliol erbyn 2030.  Mae cael gwir gynrychiolaeth o'n cymdeithas ar ein sgriniau a gwella amrywiaeth yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith hwn."

Mae'r prosiect yn cael ei arwain gan Fadhili Maghiya o Ŵyl Ffilm Affricanaidd Cymru CIC. Dywedodd Fadhili: "Mae gan ein cymunedau lawer o greadigrwydd a sgiliau i'w cynnig. Rydym yn gyffrous ynghylch y prosiect hwn ac edrychwn ymlaen at gefnogi pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol fel y gallant ffynnu yn y sector ffilmiau a theledu."

Dywedodd Phil Henfrey Pennaeth Newyddion a Rhaglenni ITV Cymru Wales;  "Rydym  yn falch iawn o fod yn bartner yn y cyfryngau sy'n cefnogi Cyswllt Diwylliant Cymru. Mae agor llwybrau a chyfleoedd newydd i bobl o gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol yng Nghymru, a sicrhau bod y sector yn adlewyrchu - ar y sgrin ac oddi ar y sgrin - y cymunedau hynny, yn rhan hanfodol o'r gwaith y dylem fod yn ei wneud bob dydd."

Dywedodd Owen Evans, Prif Weithredwr S4C: "Mae S4C wedi ymrwymo'n llwyr i gynrychioli ein cynulleidfaoedd ar y sgrin, a'n blaenoriaeth hefyd yw sicrhau bod y bobl sy'n creu cynnwys i ni yn adlewyrchu lleisiau a chymunedau Cymru.  Mae'r sector yn cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous a pherthnasol yn ogystal â'r cyfle i weithio yn y Gymraeg, ac mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn agored ac cynnig cyfleoedd i bawb.

"Rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu cefnogi a chreu partneriaeth gyda Cyswllt Diwylliant Cymru a'r darlledwyr eraill i gyflawni hyn."